鶹Լ

Dim gan Dafydd ChiltonPerthynas y cymeriadau â’i gilydd

Dau frawd yw Gwyn ac Owain sy’n dilyn llwybrau bywyd gwahanol – llwybr Cymreig a llwybr Prydeinig – sy’n selio’u tynged. Dwy stori yn un sy’n gofyn i ti feddwl am sut fywyd wnei di ei ddewis yw Dim.

Part of Llenyddiaeth GymraegNofelau

Perthynas y cymeriadau â’i gilydd

Gwyn ac Owain â Richard Lloyd

Nid perthynas tad â’i feibion sydd yma. Yn sicr mae Richard Lloyd yn ffigwr tadol. Mae’n bwysig fod perthynas Gwyn ac Owain â Richard Lloyd yn un o barch – y math o berthynas a fyddai gan fentor annwyl a phrentis, yn hytrach na pherthynas tad a mab – er mwyn i’r arweiniad y mae Richard Lloyd yn ei roi i’r bechgyn gael ei dderbyn heb gymhlethdod.

Perthynas Gwyn, Owain a Richard Lloyd ag awdurdod

Mae dau fath o awdurdod yn y stori:

  • awdurdod dynol
  • awdurdod byd natur

Mae’r tri dyn, yn eu haeddfedrwydd, yn dangos yr un agwedd at awdurdod dynol - bod pawb ar yr un gwastad ac yn haeddu ei barchu am yr hyn mae’n ei wneud, am ei natur a’i gymeriad, yn hytrach nag am ddigwydd bod â swydd benodol. Mae hyn i’w weld yn Gwyn:

  • yn y ffordd mae e’n ymroi i’r protest yn y coleg
  • yn y modd mae e’n ymateb i’r Cymro taeog
  • yn ei hyder wrth wrthwynebu twristiaeth
  • yn ei barodrwydd i ysgwyddo gwahanol feichiau ei frawd

Mae e i’w weld yn Richard Lloyd:

  • yn annibyniaeth ei feddwl, er enghraifft crefydd, ac yn y modd y mae o’n delio â’r heddlu

Mae e i’w weld yn Owain:

  • yn ei ymateb i sylwadau’r cadéts yn y gwersyll am y Cymry
  • yn y ffordd mae e’n penderfynu gwneud iawn am ei ffolineb