麻豆约拍

Rhannu mewn cymarebau penodol

Gellir hefyd defnyddio cymhareb i rannu nifer yn rhannau llai.

Enghraifft 1

Papur deg punt gyda darn deg ceiniog a darn dwy geiniog
Figure caption,
LLUN: Getty/yorkfoto

Mae Rebeckah ac Amy yn rhannu 拢280 yn y gymhareb 5:2. Faint o arian fydd y ddwy鈥檔 ei dderbyn?

  1. Adia鈥檙 gymhareb i ganfod cyfanswm nifer y rhannau: 5 + 2 = 7 rhan
  2. Rhanna鈥檙 cyfanswm 芒 nifer y rhannau: 拢280 梅 7 = 拢40 felly 拢40 yw gwerth pob rhan
  3. Lluosa 芒鈥檙 gymhareb i ganfod cyfran y ddau berson: 5 脳 拢40 = 拢200 (cyfran Rebeckah) 2 脳 拢40 = 拢80 (cyfran Amy)
  4. Gwiria fod y rhain yn adio i roi鈥檙 swm gwreiddiol: 拢200 + 拢80 = 拢280

Enghraifft 2

Dau gefnogwr p锚l-droed wedi鈥檜 cynhyrfu
Figure caption,
LLUN: Paul Bradbury

Mae David a Harriet yn rhannu cost tocyn tymor p锚l-droed yn y gymhareb 3:7. Os yw David yn talu 拢105, faint yw cost lawn y tocyn tymor?

  1. Mae David yn talu tair rhan = 拢105. 拢105 梅 3 = 拢35 = 1 rhan
  2. Roedd y gost wedi ei rhannu yn 3 + 7 = 10 rhan
  3. 拢35 脳 10 = 拢350

Cyfanswm cost y tocyn yw 拢350.

Question

Mae aloi鈥檔 cynnwys magnesiwm, sinc a chopr yn y gymhareb 5:3:4. Os yw aloi鈥檔 pwyso 720 g, faint o hwn fyddai鈥檔 fagnesiwm, sinc a chopr?

Question

I wneud paent pinc, dw i鈥檔 cymysgu paent coch a gwyn yn y gymhareb 4:5. Os dw i鈥檔 defnyddio 600 ml o baent coch, sawl litr o baent fydda i鈥檔 ei wneud?

Tri photyn paent: 4 rhan goch + 5 rhan wyn = pinc