Yn 1687, creodd Isaac Newton dair deddf mudiant i ddisgrifio'r berthynas rhwng corff a'r grymoedd sy'n gweithredu arno, a sut mae'r corff yn symud fel ymateb i'r grymoedd hynny.
Mewn geiriau eraill, os yw corff A yn rhoi grym ar gorff B, mae B yn rhoi grym hafal a dirgroes ar A. Er enghraifft, os yw car A yn taro car B â grym o 10,000 N, mae car B yn rhoi grym o –10,000 N yn ôl ar gar A.
Rhagor o enghreifftiau
Pan mae merch yn neidio i'r lan oddi ar gwch, mae'r cwch yn symud yn ôl. Hwn yw'r adwaith (cwch yn symud yn ôl) i'w harwaith hi (neidio).
Pan mae clicied gwn yn cael ei thynnu, mae'r gwn yn rhoi grym ar y bwled neu'r belen, gan ei gwthio hi ymlaen. Mae'r bwled yn rhoi grym ar y gwn, gan ei wthio yn ôl. Yr adlam yw hwn.
Wrth lansio roced, mae'r peiriannau'n rhoi grym ar y nwyon i'w gwthio nhw yn ôl. Mae'r nwy gwacáu yn rhoi grym ar beiriannau'r roced i wthio'r roced ymlaen.