Â鶹ԼÅÄ

Graff cyflymder-amser

Graff cyflymder-amser

Graff cyflymder-amser wedi’i labelu ag A, B, C a Ch. A a B: mae’r llinell yn codi ac yn dangos y ‘Cyflymiad cychwynnol’. C a Ch: mae’r llinell yn llorweddol ac yn dangos ‘Cyflymder terfynol’.

Os yw graff cyflymder-amser y mudiant yn dangos llinell sy'n codi neu'n mynd i lawr, mae hyn yn golygu bod y cyflymder yn newid. Felly, mae'n rhaid bod y grymoedd sy'n gweithredu'n anghytbwys, ac mae'r deifiwr awyr yn cyflymu neu'n arafu.

Ail Ddeddf Newton

Mae llinell sy'n codi yn golygu bod y deifiwr awyr yn cyflymu. Mae grym y pwysau'n fwy na'r llusgiad, ac mae'r grym cydeffaith yn achosi'r cyflymiad. Os yw'r llinell yn llorweddol, mae'r buanedd yn gyson. Hwn yw'r buanedd terfynol. Mae’r grymoedd sy'n gweithredu yn gytbwys ar y buanedd terfynol. Mae'r llusgiad yn hafal i'r pwysau, felly does dim grym cydeffaith i achosi cyflymiad.

Beth sy'n creu gwrthiant aer neu lusgiad?

Pan mae gwrthrych yn symud drwy'r aer, mae'n gwrthdaro â moleciwlau aer. Mae hyn yn achosi ffrithiant rhwng y gwrthrych a'r moleciwlau aer. Mae’r ffrithiant hwn yn trawsnewid rhywfaint o egni cinetig y gwrthrych i wres. Hefyd, mae'r moleciwlau aer yn adlamu oddi ar y gwrthrych, gan ennill egni cinetig.

Pam mae'r llusgiad yn cynyddu gyda buanedd?

Y cyflymaf y mae gwrthrych yn symud, y nifer mwyaf o wrthdrawiadau fydd â moleciwlau aer. Mae hyn yn cynyddu ffrithiant, ac mae'r moleciwlau aer sy'n adlamu i ffwrdd yn ennill mwy fyth o egni cinetig.

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 2, Graff cyflymder-amser wedi’i labelu. Mae’n dangos buanedd deifiwr yn cynyddu, gan gyrraedd cyflymder terfynol, y parasiwt yn agor a chyrraedd cyflymder terfynol is ac yna glanio., Plymiad awyr Mae'r graff hwn yn dangos yr hyn oedd yn digwydd yn ystod plymiad awyr

Yr arwynebedd o dan y graff yw'r pellter teithio. Bydd hwn yn hafal i uchder yr awyren y neidiodd y deifiwr ohoni.

Question

Mae darn arian, pluen a bricsen yn cael eu gollwng oddi ar bont i mewn i afon. Ym mha drefn maen nhw'n taro'r dŵr? Sut byddai'r drefn yn newid pe bai'r arbrawf yn cael ei ailadrodd mewn gwactod?

Fideo sy'n disgrifio damcaniaethau Aristotlys a Galileo yn ymwneud â chyrff yn disgyn

Mudiant llorweddol mewn aer

Mae cyflymder terfynol hefyd yn gallu bod yn berthnasol i fudiant llorweddol:

  • mae car yn cyflymu tuag ymlaen os yw'r gwthiad yn fwy na'r llusgiad
  • wrth i'r car gyflymu mae'r llusgiad yn cynyddu, gan leihau'r grym cydeffaith
  • pan mae'r llusgiad yn hafal i'r gwthiad, does dim grym cydeffaith
  • mae’r grymoedd yn gytbwys, ac mae'r car yn teithio ar fuanedd terfynol