Â鶹ԼÅÄ

Ail Ddeddf Newton

Grymoedd anghytbwys

Os nad yw'r grymoedd sy'n gweithredu ar wrthrych yn gytbwys, bydd y yn achosi i'r gwrthrych i gyfeiriad y grym cydeffaith.

Mewn geiriau eraill, mae grym cydeffaith ar gorff yn achosi newid . Ym syml, mae hyn yn golygu y bydd grymoedd anghytbwys yn achosi:

  • cyflymiad
  • arafiad
  • newid cyfeiriad

Y berthynas rhwng y grym cydeffaith, màs y gwrthrych a chyflymiad y gwrthrych yw

\({\text{grym cydeffaith (N)}}={\text{màs (kg)}}\times{\text{cyflymiad (m/s}^{2}}{\text{)}}\)

\(\text{F}=\text{m}\times\text{a}\)

Bydd rhaid i ti allu ysgrifennu'r hafaliad hwn yn yr arholiad.

Question

Mae car yn pwyso 1,000 kg. Mae'r grym cydeffaith yn 5,000 N. Defnyddia'r triongl Fma i ganfod cyflymiad y car.z842y4j

Canfod y grym cydeffaith a chyfrifo cyflymiad

Car gyda dau rym yn gweithredu bob ochr iddo. Ar y chwith mae gwthiad o 4,000 Newton, ar y dde mae llusgiad o 5,000 Newton.

I gyfrifo'r cyflymiad mae angen i ti ddod o hyd i'r grym cydeffaith er mwyn ei rannu â màs y car.

Grym cydeffaith = 4,000 N - 1,000 N = 3,000 N

\(\text{cyflymiad}=\frac{\text{grym cydeffaith}}{\text{màs}}\)

= 3,000 N ÷ 1,000 kg

= 3 m/s2

Mae'r car cyntaf yn cyflymu oherwydd mae'r car yn symud i'r un cyfeiriad â'r grym cydeffaith. Nawr edrych ar yr ail gar.

Car gyda dau rym yn gweithredu bob ochr iddo. Mae'r car yn teithio i'r chwith. Ar y dde, mae gwthiad o 7,000 Newton (Gwrthiant aer a grym brecio).

Grym cydeffaith = -7,000 N

\(\text{cyflymiad}=\frac{\text{grym cydeffaith}}{\text{màs}}\)

= -7,000 N ÷ 1,000 kg

= -7 m/s2

Mae'r ail gar yn . Mae'n symud i'r cyfeiriad dirgroes i'r grym cydeffaith.

Mae cyflymiad a màs mewn â'i gilydd. Mae hyn yn golygu, os yw màs y cerbyd yn dyblu, bod y cyflymiad yn haneru os yw'r grym cydeffaith yn aros yn gyson.

Mae grym cydeffaith a chyflymiad mewn â'i gilydd. Os yw'r grym cydeffaith yn dyblu, mae cyflymiad y cerbyd hefyd yn dyblu os yw màs y cerbyd yr un fath.

Question

Mae màs car yn 1,200 kg, ac mae ganddo injan sy'n gallu darparu grym o 6,000 N. Beth yw cyflymiad y car?

Question

Beth yw'r grym sy'n cael ei ddatblygu mewn injan cwch cyflym os yw màs y cwch yn 300 kg a'i fod yn gallu cyflymu ar gyfradd o 1.5 m/s2.

Question

Mewn parc thema, mae un o'r reidiau yn cynnwys modur sy'n gallu darparu grym o 3,600 N i gar teithwyr gwag, gan achosi iddo gyflymu ar 4.5 m/s2.

Beth yw màs y car?