Yn 1687, creodd Isaac Newton dair deddf mudiant i ddisgrifio'r berthynas rhwng corff a'r grymoedd sy'n gweithredu arno, a sut mae'r corff yn symud fel ymateb i'r grymoedd hynny.
Mae gan y Lleuad fàs llai na'r Ddaear. Mae'r cryfder maes disgyrchiantCryfder maes disgyrchiant yw grym yr uned mà s. Mae’n cael ei fesur mewn newton y cilogram (N/kg), ee cryfder maes disgyrchiant y Ddaear yw 10 N/kg. yn llai. Ni fydd màs llai y Lleuad yn atynnu màs 1 kg â chymaint o rym â wna'r Ddaear.
Ar y Lleuad, g = 1.6 N/kg.
Mewn geiriau eraill, mae gan fàs 1 kg bwysau o 1.6 N ar y Lleuad a bydd màs 5 kg yn pwyso 8 N.
Question
a) Ar y Lleuad, beth yw màs person sy'n pwyso 120 N? (g = 1.6 N/kg)
b) Beth fyddai màs a phwysau yr un person yn ôl ar y Ddaear lle mae g = 10 N/kg?
a) m = W ÷ g
= 120 N ÷ 1.6 N/kg
= 75 kg
b) Bydd y màs ar y Ddaear yr un fath â'r un rwyt ti wedi ei gyfrifo ar y Lleuad = 75 kg.
Y pwysau yw W = m × g
= 75 kg × 10 N/kg
= 750 N
Inertia
Gwrthiant i newid mudiant yw inertiaAmharodrwydd gwrthrych i newid cyflymder neu gyfeiriad. Mae gan wrthrychau â masau mwy inertia mwy..
Edrych ar y diagram. Os caiff y cerdyn ei dynnu'n gyflym, bydd y darn arian yn aros yn yr un lle. Ni fydd yn symud gyda'r cerdyn. Yna, bydd yn disgyn i mewn i'r gwpan.
Mae inertia gwrthrych yn dibynnu ar ei fà s. Mae mwy o fàs yn golygu mwy o inertia. Bydd angen grym cydeffaith mwy i newid mudiant gwrthrych ag inertia uchel. Er enghraifft, bydd bwced sy'n llawn tywod yn anoddach i'w gwthio na bwced wag.