²Ñà ²õ a phwysau
²Ñà ²õ
³¾Ã ²õSwm y mater sydd mewn gwrthrych. Mae ³¾Ã ²õ yn cael ei fesur mewn cilogramau (kg). yw faint o fater sydd mewn gwrthrych. Rydyn ni’n mesur ³¾Ã ²õ mewn cilogramUned ³¾Ã ²õ yw cilogram. Mae’n hafal i 1,000 g. (kg).
pwysauY grym sy’n cael ei roi ar arwynebedd arwyneb penodol. Po fwyaf y pwysau, y mwyaf yw’r grym sy’n gweithredu ar yr un arwyneb. yw grym disgyrchiant ar dy fà s.
Grym yw disgyrchiantGrym yr atyniad rhwng pob gwrthrych. Po fwyaf o fà s sydd gan wrthrych, po fwyaf fydd grym ei ddisgyrchiant.. Mae'n atynnu ³¾Ã ²õ at ei gilydd.
Pwysau yw enw'r grym sy'n cael ei achosi wrth i fà s y Ddaear atynnu ³¾Ã ²õ gwrthrych. Rydyn ni'n mesur pwysau mewn newtonUned grym sydd wedi ei henwi ar ôl y gwyddonydd Prydeinig Isaac Newton (1642-1727), ee y grym ffrithiannol ar y cwch yw 20,000 N. (N).
Dyma'r fformiwla i ddangos y berthynas rhwng pwysau gwrthrych, ei fàs a chryfder y maes disgyrchiant.
\(\text{pwysau (N)}=\text{³¾Ã ²õ (kg)}\times\text{cryfder maes disgyrchiant (N/kg)}\)
\(\text{W}=\text{m}\times\text{g}\)
Mae cryfder y maes disgyrchiant yn cael ei gynrychioli gan y llythyren g (am gravity). Nid yw'r g hon yr un peth â'r mesuriad gram, sydd hefyd yn cael ei dalfyrru i g, ond mewn cyd-destun gwahanol.
Gallwn ni ddefnyddio'r triongl Wmg i ganfod pwysau (W), ³¾Ã ²õ (m), neu gryfder maes disgyrchiant (g).
Question
Beth yw pwysau person ar y Ddaear os yw ei fàs yn 65 kg (g = 10 N/kg)?
W = m x g
= 65 kg × 10 N/kg
= 650 N
Question
Pryd wyt ti’n mynd yn ddibwysau?
Os wyt ti’n teithio oddi wrth y Ddaear, mae cryfder y maes disgyrchiant yn mynd yn llai. Pan mae g yn cyrraedd 0 N/kg, rwyt ti’n ddibwysau.