鶹Լ

Ymholltiad niwclear

Enw'r broses o hollti yw niwclear, ac rydyn ni'n defnyddio'r broses hon mewn adweithyddion pŵer niwclear.

Mae amsugno araf yn gallu anwytho ymholltiad mewn rhai niwclysau - rydyn ni'n galw'r rhain yn niwclysau ymholltog. Mae'r niwtronau sy'n cael eu hallyrru o'r ymholltiad hwn yn gallu arwain at cynaliadwy. Os yw'r niwtronau'n symud yn rhy gyflym, fydd ymholltiad ddim yn digwydd.

Fel arfer, rydyn ni'n defnyddio wraniwm neu blwtoniwm fel tanwydd mewn adweithyddion niwclear. Mae gan eu hatomau niwclysau cymharol fawr sy'n hawdd eu hollti, yn enwedig os yw niwtronau'n eu taro nhw. Symbol niwclear niwtron yw \(_{0}^{1}\textrm{n}\).

Pan mae niwtron, \(_{0}^{1}\textrm{n}\) yn taro niwclews wraniwm-235 neu blwtoniwm-239, mae'r canlynol yn digwydd:

  • mae’r niwclews yn hollti'n ddau niwclews llai, sef yr epilniwclysau, sy'n
  • mae dau neu dri o niwtronau eraill yn cael eu rhyddhau
  • mae rhywfaint o egni'n cael ei ryddhau ar ffurf egni cinetig y gronynnau sy'n cael eu cynhyrchu

Gallwn ni ysgrifennu'r hafaliad fel hyn.

\(_{92}^{235}\textrm{U}+_{0}^{1}\textrm{n}\rightarrow_{56}^{144}\textrm{Ba}+_{36}^{89}\textrm{Kr}+{3}_{0}^{1}\textrm{n}+ {\text{egni}}\)

Adwaith cadwynol

Mae'r niwtronau ychwanegol sy'n cael eu rhyddhau hefyd yn gallu taro niwclysau wraniwm neu blwtoniwm eraill ac achosi iddynt hollti. Mae hyn yn rhyddhau mwy fyth o niwtronau, sydd yn eu tro yn gallu hollti mwy o niwclysau.

Rydyn ni’n galw hyn yn adwaith cadwynol.

Adwaith cadwynnol yn dangos y camau i ymhollti niwclews.
Figure caption,
Adwaith cadwynol hollti niwclews

Rydyn ni'n rheoli'r adwaith cadwynol mewn adweithyddion niwclear i'w atal rhag symud yn rhy gyflym.

Mae llawer o'r cynhyrchion ymholltiad hefyd yn ymbelydrol ac mae eu 'n amrywio'n fawr. Mae hanner oes tecnetiwm-99 yn 211,100 mlynedd, ond mae hanner oes cynhyrchion eraill ymholltiad yn gallu bod tua phum mlynedd.