Â鶹ԼÅÄ

  • Grymoedd, gofod ac ymbelydredd

    • Pellter, buanedd a chyflymiad

      Gallwn ni ragfynegi mudiant gwrthrych drwy ddadansoddi’r grymoedd sy'n gweithredu ar wrthrych. Mae grymoedd anghytbwys yn gallu arwain at newid buanedd neu newid cyfeiriad.

    • Deddfau Newton

      Yn 1687, creodd Isaac Newton dair deddf mudiant i ddisgrifio'r berthynas rhwng corff a'r grymoedd sy'n gweithredu arno, a sut mae'r corff yn symud fel ymateb i'r grymoedd hynny.

    • Gwaith ac egni

      Trosglwyddiad egni yw gwneud gwaith. Gall egni gael ei gadw, mewn EPD, EC ac egni elastig – fel grym ac estyniad mewn sbring. Mae gan geir nodweddion sy’n amsugno egni mewn damwain.

    • Cysyniadau mudiant pellach

      Mae gan wrthrych sy'n symud fomentwm, sef grymoedd sy’n achosi iddo newid. Mewn ffrwydrad neu wrthdrawiad ceir cadwraeth momentwm, lle bydd ei gyfanswm yn aros yr un fath.

    • Sêr a phlanedau

      Mae’r Ddaear yn un o wyth planed yng nghysawd yr haul. Mae cysawd yr haul yn rhan o gasgliad enfawr o sêr, sef galaeth, ac mae’r galaethau’n ffurfio’r bydysawd.

    • Y Bydysawd

      Drwy astudio sbectra amsugno atomig, gallwn ni ganfod cyfansoddiad cemegol sêr. Mae hyn yn dangos bod galaethau'n symud oddi wrthyn ni mewn Bydysawd sy'n ehangu.

    • Mathau o ymbelydredd

      Mae gan dri gronyn isatomig wahanol wefrau a masau. Mae gronynnau ymbelydrol yn dadfeilio ac yn rhyddhau ymbelydredd alffa, beta a gama - ffynonellau ymbelydredd cefndir naturiol ac artiffisial.

    • Hanner oes

      Rydyn ni'n defnyddio isotopau ymbelydrol i fonitro llif gwaed, i drin canser, ar gyfer dyddio carbon ac mewn larymau mwg. Mae gan bob isotop ei hanner oes nodweddiadol ei hun.

    • Dadfeiliad niwclear ac egni niwclear

      Ymholltiad niwclear yw pan mae niwclews ymbelydrol yn hollti i ryddhau egni. Mae gwrthdrawiadau ag egni uchel rhwng niwclysau ysgafn yn gallu arwain at ymasiad, sy'n rhyddhau egni.

  • Video playlist

Links