鶹Լ

Prif nodweddion cysawd yr haul

Mae ein cartref, y Ddaear, yn rhan o system o gyrff sydd mewn o gwmpas seren ganolog – yr Haul. Mae cysawd yr haul yn cynnwys pedair fewnol greigiog a phedair planed allanol sy’n gewri nwy, yn ogystal â belt asteroidau, sy’n cynnwys miloedd o greigiau enfawr, a chomedau.

Diagram o Gysawd yr Haul. Mae’r Haul ar y chwith, ac mae’r 8 planed wedi’u trefnu yn ôl eu pellter o’r Haul. Mae belt asteroid rhwng Mawrth ac Iau.

Mae cysawd yr haul yn cynnwys seren ganolog ac wyth o blanedau, corblanedau, , ac asteroidau.

  • Yr Haul yw’r agosaf atom ni.
  • Mae’r planedau mewn orbit o gwmpas yr Haul.
  • Mae’r amser mae’n ei gymryd i gyflawni orbit o gwmpas yr haul yn cynyddu gyda phellter oddi wrth yr Haul.
  • sy’n cadw’r planedau mewn orbit o gwmpas yr Haul a’r lleuadau mewn orbit o gwmpas eu planedau.
  • O’r Haul, trefn y planedau yw Mercher, Gwener, y Ddaear, Mawrth, Iau, Sadwrn, Wranws, a Neifion. Efallai y bydd angen i ti gofio hyn yn yr arholiad.
  • Mae’r planedau yn mynd o gwmpas yr Haul mewn orbitau crwn sydd wedi’u gwasgu ychydig bach fel eu bod nhw’n .
  • Mae Plwton wedi’i dosbarthu fel corblaned neu blanedyn. Mae ganddi orbit eliptigol iawn, neu .

Lleuadau

Mae gan y rhan fwyaf o’r planedau, a rhai o’r corblanedau, gyrff mewn orbit o’u cwmpas nhw. Rydyn ni’n galw’r naturiol hyn yn lleuadau.

Question

Pa ddwy blaned sydd heb leuadau?