Â鶹ԼÅÄ

±·´Ç»å¾±²¹²Ô³ÙÌý¾±²Ô»å±ð³¦²õIndecsau negatif a sero

Mae indecsau’n ffordd o gynrychioli rhifau a llythrennau sydd wedi eu lluosi â’u hunain nifer o weithiau. Maen nhw’n ei gwneud yn haws i ni ddatrys problemau sy’n cynnwys pwerau.

Part of MathemategRhif

Indecsau negatif a sero

Pŵer sero

Enghraifft

p2 ÷ p2

Mae angen i ni edrych ar hyn mewn dwy ffordd.

Gan ddefnyddio’r rheol ar gyfer rhannu indecsau:

p2 ÷ p2 = p2-2

= p0

Ond rydyn ni’n gwybod bod unrhyw beth wedi ei rannu ag ef ei hun yn 1.

Felly mae p0 = 1.

Mae unrhyw beth i bŵer 0 yn hafal i 1.

Indecsau negatif

Enghraifft

32 ÷ 34

Gan ddefnyddio’r rheol ar gyfer rhannu indecsau:

32 ÷ 34 = 3-2

Ond rydyn ni hefyd yn gwybod bod:

Enghraifft o sut i rannu indecsau drwy dynnu i ffwrdd y pwerau.

Felly mae 3-2 = \(\frac{1}{3^2}\)

sy’n hafal i \(\frac{1}{9}\) ar ôl ei enrhifo.

Gydag indecsau negatif, mae a-m = \(\frac{1}{a^m}\)

Question

Beth yw gwerth 2-3?