Â鶹ԼÅÄ

Sut i lunio dy ateb

Mae’n syniad da gwneud pwyntiau am yr hyn ’rwyt ti’n gobeithio eu cynnwys yn dy ateb er mwyn dy helpu di gyda strwythur. Dyma rai pwyntiau a fydd yn dy helpu di.

Tri darlun i gynrychioli '°Õ³ó±ð³¾Ã¢³Ü', 'Iaith ac arddull' ac 'Ymateb personol', o amgylch y label 'Llunio dy ateb'.

°Õ³ó±ð³¾Ã¢³Ü

  • Ydy’r beirdd yn y ddwy gerdd yn dweud pethau tebyg? Ydyn nhw’n meddwl am y testun yn yr un ffordd?
  • Ydy'r ddwy gerdd yn perthyn i’r un thema?
  • Pa ddyfyniadau sy’n cefnogi hyn?

Iaith ac arddull

  • Ydy’r iaith yn debyg neu’n wahanol yn y ddwy gerdd?
  • Ydy’r beirdd yn defnyddio’r un nodweddion arddull?
  • Ydy iaith un gerdd yn haws nag iaith y llall?
  • Pa ddyfyniadau sy’n cefnogi hyn?

Ymateb personol

Dim ond ti fydd yn gallu ymateb yn bersonol i’r gerdd. Does dim modd paratoi dy farn dy hun o flaen llaw gan nad wyt ti’n gwybod pa gerdd fydd yn yr arholiad. Ond er mwyn ymarfer ateb y cwestiwn dyma ychydig o bwyntiau i ti feddwl amdanynt.

  • Wyt ti’n hoffi’r cerddi?
  • Pa gerdd sydd orau gen ti?
  • Ydy’r cerddi’n berthnasol i ni heddiw?
  • I ba raddau ’rwyt ti’n uniaethu â neges y ddwy gerdd?
  • Pa ddyfyniadau sy’n cefnogi hyn?

Ac un pwynt bach arall i ti, cofia ddyfynnu.