Â鶹ԼÅÄ

Cerdd sy'n newydd i ti

Nid yw’r gerdd isod gan Myrddin ap Dafydd yn cael ei hastudio ar y cwrs TGAU, ond dyma’r math o gerdd a fydd yn cael ei defnyddio yn yr arholiad. Mae’n syniad da felly gwneud cynifer o ymarferion ag y galli di. Edrycha ar y gyfrol Fesul Gair am fwy o gerddi.

Dau Lygad ar Un Wlad
by Myrddin ap Dafydd

(Yn seiliedig ar ateb y Pennaeth Seattle pan geisiodd Llywodraethwr Tiriogaeth Washington brynu rhai o diroedd yr Indiaid yn 1854.)

Rwyt ti’n gweld y tir yn wyllt;
i mi, mae’n ardd erioed.
Fflamau a thân a deimli di;
minnau’n teimlo’r coed.

Cig a weli ’lawr ffroen dy wn;
gwelaf innau gnawd.
Croen a ffwr yn dy feddwl di,
yn fy meddwl innau: brawd.

Rwyt ti’n gweld erwau o wenith gwyn
a minnau’n gweld y paith.
Rwyt ti’n clywed udo yn y nos;
minnau’n clywed iaith.

Rwyt ti’n gweld argae a phibelli dŵr;
minnau’n gweld afon fyw.
Rwyt ti’n cyfri’r lle yn ddarnau aur;
minnau’n ei gyfri’n dduw.

Rwyt ti’n gweld y ddinas yn tyfu o hyd;
rwyf innau’n gweld y ddôl.
Rwyt ti’n gweld cynnydd; minnau’n gweld
y ddaear na ddaw’n ôl.

Darllena’r gerdd yn fanwl eto a gwna nodiadau am y themâu sy’n codi a dewisa nodweddion arddull effeithiol sy’n cyfleu’r themâu hyn yn dda. Cofia wneud cofnod ohonynt ar gyfer yr ymarfer hwn.