Â鶹ԼÅÄ

Neges ac agwedd y bardd yn y gerdd

Y neges a gawn yw bod cyffuriau’n broblem mewn cymdeithas a bod y sawl sy’n mynd yn gaeth iddyn nhw'n wynebu hunllef wrth drio gwella a dod oddi arnyn nhw. Mae teitl gobeithiol y gerdd a’r awgrymiadau ynddi fod pethau’n gwella yn cyfleu’r syniad fod modd gorchfygu unrhyw gaethiwed gyda grym ewyllys ac y daw eto haul ar fryn ar ôl pob tywyllwch yn y pen draw.

Am y rheswm yma gallwn fod gan y bardd gydymdeimlad â’r cymeriad hwn er iddo ei labelu gyda’r gair ‘d°ù³Ü²µ²µ¾±±ð’, sy’n cyfleu dirmyg. Ydi, mae e wedi creu ei ‘gawdel’ ei hun ond mae’n gwneud ymdrech i wella ac yn dioddef oherwydd ei wendid. Mae’r bardd yn ceisio ein cael ni hefyd i gydymdeimlo gyda’r diflastod diddiwedd ac i obeithio bod ail gyfle’n dod. Heb hynny fyddai dim pwynt i unrhyw ‘r±ð³ó²¹²ú’ oni bai fod gobaith i bobl wella.

°Õ³ó±ð³¾Ã¢³Ü

Mae sawl thema yma ar wahân i’r un amlwg o fynd yn gaeth i gyffur. Gwelwn ddiflastod y dyddiau o driniaeth undonog, anodd. Gwelwn unigrwydd wrth i gymeriad y gerdd golli nabod arno ef ei hun a phawb arall. Mae yng nghanol dieithriaid yn mynd drwy hunllef. Mae yma ddyfalbarhad ac awgrym o ddal ati er mwyn dod drwyddi lle mae iechyd a bywyd newydd ar gael. Mae elfen o hiraeth am ei gariad, am ei hen fywyd a’i gydnabod. Ond y thema ganolog yw gobaith a’r teimlad o edrych ymlaen a theimlo bod yna ddyfodol wedi’r cyfan a bod modd 'gweld y gorwel'.