Â鶹ԼÅÄ

Iaith ac arddull

Mesur

Mae pob pennill yn y gerdd yn englyn penfyr. Felly ceir y byr neu’r , ac un llinell saith sill ar ei ôl, sy’n gallu diweddu’n acennog neu’n ddiacen. Mae deg sillaf yn y llinell gyntaf, chwech yn yr ail linell a saith yn y llinell olaf.

Diagram i arddangos patrwm englyn penfyr yn y gerdd 'Gweld y Gorwel' gan Aneirin Karadog.

Ailadrodd

‘r±ð³ó²¹²ú’

Dydyn ni ddim yn cael anghofio lle mae’r cymeriad yn y gerdd ac ni all e ddianc oddi wrth y lle chwaith nes ei fod wedi derbyn ei driniaeth i gyd, sy’n broses hir ac anodd.

‘b´Ç»å’

Mae’n gwrthgyferbynnu â ‘byw’ ac yn pwysleisio’r syrffed a’r diflastod o fodoli tu mewn i bedair wal am gyfnod hir a diflas.

Ansoddair

‘d»å¾±»å»å²¹°ù´Ú´Ç»å’

Cyfleu diflastod a chaethiwed eto – i gyffuriau ac yna i’r ysbyty ‘r±ð³ó²¹²ú’. Mae amser yn llusgo a’r dyddiau’n hir.

Trosiad

‘daith hunanol’

Mae’r driniaeth yn daith hir ac mae e wedi bod yn ‘hunanol’ yn cymryd cyffuriau yn y lle cyntaf heb ystyried yr effaith ar y bobl agosaf ato, ee ei gariad.

‘gwrid ei gariad yw gorwel’

Mae gweld ei hwyneb yn cynnig gobaith a goleuni a rhywbeth newydd a glân i ymestyn tuag ato.

Geiriau Saesneg

‘r±ð³ó²¹²ú’ a ‘d°ù³Ü²µ²µ¾±±ð’

Wrth ddewis geiriau Saesneg bob dydd, geiriau’r stryd, mae’r bardd yn tynnu ei gynulleidfa’n nes. Mae pawb yn deall y geiriau hyn. Gan mai dyma’r unig ddau air Saesneg yn y gerdd maen nhw’n crynhoi’r cynnwys yn syml ac effeithiol – cerdd yw hi am druggie mewn ‘r±ð³ó²¹²ú’ yn ceisio dod drwyddi.