鶹Լ

Cymeriad – Rowenna

Mae Rowenna yn fam i Siôn a Dwynwen. Roedd hi’n arfer gweithio yn siop trin gwallt y Siswrn Arian gyda’i ffrind, Gaynor. Mae ganddi wyneb tenau, llygaid mawr, ceg fach a thrwyn hir. Mae ei gwallt yn drwchus ac, “yn ddu bitsh fel nos mis Tachwedd, a mymryn bach o lwyd fel weiars metal drwyddo”.

Bellach mae’n denau ac yn gyhyrog. Cyn ‘Y Terfyn’ roedd hi’n defnyddio straighteners, colur ac yn paentio ei hewinedd. Meddai amdani hi ei hun:

“weithiau, dwi’n meddwl am bwy o’n i o’r blaen. Rowenna, yn smart ac yn dlws...”

Graffeg o wyneb cymeriad Rowenna.
Figure caption,
Cymeriad Rowenna ar ôl ‘Y Terfyn’.

Unig

Mae hi’n fam sengl sydd heb deulu (ar wahân i'w phlant) a’i hunig ffrindiau yw Gaynor a Mr a Mrs Thorpe. Mae hi’n gwerthfawrogi caredigrwydd Gaynor ac yn ystod y nofel mae hi’n datblygu perthynas gyda dyn o’r enw Gwion.

Rydym yn dysgu ychydig am ei bywyd cyn ‘Y Terfyn’. Roedd hi’n arfer byw mewn fflat gyda Siôn, ac roedd hi’n “bôrd” o’r nosweithiau o wylio “sothach ar y teledu, edrych ar Facebook, twtio ryw ychydig ac anfon neges at ambell ffrind.”

Mae hi’n mynd yn dawel pan yn siarad neu’n cofio am yr hen ddyddiau cyn ‘Y Terfyn’, fel sonia Siôn:

“...mae Mam yn mynd yn dawel ar ôl siarad am yr hen ddyddia, a dydi o ddim yn dawel fel tawelwch gweithio ond yn dawel fel tawelwch lle does dim geiriau sy’n ffitio.”

Mae hi’n rhentu ei chartref gan fab Nancy Parry, sef tad Siôn. Twyllodd tad Siôn iddi feddwl y byddai’n gadael ei wraig er mwyn cael bod gyda hi, ond ni ddigwyddodd hynny. Dydy tad Siôn erioed wedi bod yn rhan o fywyd ei fab. Ddaeth o ddim i'w enedigaeth hyd yn oed: “Doedd ei dad o ddim yno.... Roeddwn i ar fy mhen fy hun o’r dechrau’n deg.”

Mae Rowenna yn poeni y bydd ei mab yn gadael Nebo rhyw ddydd, ac o wneud hynny yn ei gadael hi. Tua diwedd y nofel mae hi’n nodi: “Dwi’n meddwl amdano fo’n gadael. Efallai mai dyna sydd nesaf. Sionyn yn penderfynu symud ymlaen, ac yn deud ei fod o’n mynd i Nebo neu lawr i Gae Tatws a byth yn dod yn ôl.”

Mae hi’n falch iawn ei bod hi wedi cwrdd â Gwion. Gwelodd ef am y tro cyntaf ar ei feic ar yr A487 ar ôl cychwyn ‘Y Terfyn’. Mae ei pherthynas gyda Gwion yn datblygu yn ystod y nofel, ac ef yw tad Dwynwen. Mae Rowenna’n dweud ar ddiwedd y nofel mai cwrdd â Gwion oedd un o’r pethau gorau a ddigwyddodd iddi yn ystod y cyfnod hwn: “y pethau gorau ydi... gweld rhywun ar gefn beic ar yr A487 pan o’n i'n meddwl fod pawb wedi mynd.”

Annibynnol ac ymarferol

Cyn ‘Y Terfyn’ roedd hi’n berson ofnus a , ac yn meddwl ei bod hi am fethu o hyd. Ond fe welwn fod cymeriad Rowenna’n newid yn ystod y nofel, wrthi iddi ddelio gyda ‘Y Terfyn’. Wrth siarad â Siôn ar ddiwedd y nofel mae hi’n nodi: “...cyn Y Terfyn... o’n i ofn bob dim, ofn y byd a phobol, ac yn meddwl yn siŵr y byswn i'n methu o hyd.”

Wrth ymateb i ‘Y Terfyn’, mae hi’n datblygu i fod yn berson ymarferol iawn. Er enghraifft, pan mae hi’n clywed am y bomiau, mae hi’n mynd i siopa i brynu nwyddau fel hoelion, tabledi lladd poen a ffa. Mae hi hefyd yn mynd ati i chwilio ar y we ac yn argraffu cyfarwyddiadau ar sut i wneud trapiau dal llygod a sut i dyfu llysiau. Mae hi’n helpu Siôn i ailadeiladu’r tŷ gwydr er mwyn gallu tyfu llysiau’n agos i'r tŷ. Meddai Siôn am Rowenna, “wnaeth hi helpu efo bob dim, yn enwedig y cario a’r adeiladu...”

Mae hi, rhywsut, yn reddfol yn gwybod sut i edrych ar ôl ei hun a’i theulu er ei bod hi’n ymwybodol hefyd o ba mor anodd yw’r dasg: “mae o’n teimlo fel mai ni ydi’r unig rai ar ôl yn y byd, yn trio goroesi yng nghysgod y mynyddoedd.”

Mae hi’n llwyddo i wella o’r salwch gafodd hi yn sgìl y cwmwl. Mae hi’n nodi: “penderfynais y byddem ni’n dau yn goroesi.”

Mae Mr Thorpe, ei chymydog, yn dweud amdani: “you have the heart of a warrior, Rowenna”

Teimladwy

Roedd Gaynor, perchennog siop Y Siswrn Arian yn garedig gyda Rowenna – ac roedd Rowenna’n gwerthfawrogi hynny. Mae’r awdur yn awgrymu nad oedd Rowenna wedi cael y math yma o gefnogaeth yn ystod ei phlentyndod: “No parents. I’m nobody’s daughter”, mae hi’n ei ddweud wrth Mr Thorpe.

Felly, mae caredigrwydd Gaynor yn rhywbeth arbennig iddi sy’n golygu llawer iawn. Meddai Rowenna amdani: “Ffeind oedd Gaynor.”

Gwelwn ochr deimladwy cymeriad Rowenna ar ôl iddi eni Dwynwen. Mae hi’n famol ac yn gariadus wrth iddi ofalu am ei babi bach: “Teimlais ei phwysau yn fy mreichiau am y tro cyntaf un, a’r cariad fel trydan ym mêr fy esgyrn...”

Mae Rowenna hefyd yn gymeriad sy’n ddigon aeddfed i wybod pryd y mae hi wedi gwneud rhywbeth o’i le. Mae hi’n ymddiheuro wrth Siôn am ei hymddygiad ar ôl iddyn nhw ffraeo yn dilyn marwolaeth Dwynwen: “...dwi isio deud ‘mod i'n sori am bob dim. Dwi’n caru chdi’n fawr, fawr, sti.”

Caled

Mae ochr galed ac oeraidd hefyd yn perthyn i gymeriad Rowenna. Mae’r her o oroesi o ddydd i ddydd yn cael effaith arni’n feddyliol ac yn gorfforol. Mae hi’n edrych yn hŷn na’i hoedran ac nid yw’n gofalu am y ei hedrychiad: “...dwi heb wisgo colur ers wyth mlynedd, ac mae gen i wallt gwyn er ‘mod i ‘mond yn 36.” Mae hi bellach “...yn denau, ac yn gyhyrog, ac yn flinedig a blin ac yn poeni o hyd.”

Meddai Siôn amdani: “Dydi Mam ddim yn ddynes i ddadlau efo hi.”

Mae Siôn yn cyfeirio at ochr galed ei chymeriad wrth nodi, “...dydi hi ddim yn meindio [lladd anifeiliaid] naill ffordd neu’r llall, dwi’n gallu deud ar ei gwynab hi pan mae hi’n ei wneud o. Mae o’n llyfn ac yn galad fel llechan. Fel tasa ‘na’m byd yn gynnas ynddi hi.”

Newidia bersonoliaeth Rowenna ar ôl i'w merch fach, Dwynwen, farw. Mae hi’n teimlo’n iawn tuag at Siôn wrth iddo sôn am ei fwriad i roi adnod o’r Beibl ar ei charreg bedd. Mae hi’n ei herio, “...lle mae dy Dduw di rŵan?”