Ymarfer
Darllena’r darn ar dudalen 47 o'r nofel. Yna ateba’r cwestiynau sy’n dilyn yn llawn a gofalus, gan ddyfynnu’n bwrpasol.
Question
Trafoda ddwy olygfa o’r nofel lle dangosir hapusrwydd, a noda beth ydy effaith yr hapusrwydd ar blot y nofel.
Enghraifft 1: Rowland Ellis yn mynd i weld Sinai Roberts i gydymdeimlo â hi – wedi colli ei gŵr:
- Hapusrwydd yng nghanol tristwch – Ellis Puw o’r eiliad honno yn synhwyro mai Crynwr oedd Rowland Ellis.
- Ellis Puw, gwas Brynmawr, wedi mynd i’r Brithdir i weld Sinai yn barod.
- Hyn ddim yn rhyfedd – Ellis o’r un safle cymdeithasol â theulu Ifan Roberts.
- Y ffaith fod Rowland Ellis yno yn rhyfedd – person o statws Rowland Ellis ddim fel arfer mynd i weld pobl o ddosbarth isaf y gymdeithas – dangos mawredd cymeriad Rowland Ellis.
- Ellis Puw yn sylweddoli’n syth beth oedd arwyddocâd ymweliad Rowland Ellis.
- Y peth cyntaf sy’n dod i feddwl Sinai Roberts ydy ofn – hi hefyd yn sylweddoli’n fuan bod Rowland Ellis yno fel ffrind – ofn yn troi’n hapusrwydd.
- Rowland Ellis yno i gydymdeimlo a hefyd i gynnig cymorth ymarferol – llond basged o fwyd.
- Arwyddocâd yr olygfa ac effaith yr hapusrwydd ar blot y nofel – Ellis Puw yn teimlo’n fwy hyderus fod ei feistr hefyd yn Grynwr.
- Y ddau â’r un syniadau crefyddol – help mawr i’w gilydd.
- Yr hapusrwydd yng nghalonnau’r ddau ŵr yma yn cyferbynnu â’r tristwch a’r casineb yng nghalon Meg o achos yr un digwyddiad.
- Meg yn anhapus fod Rowland yn mynd i weld "gwraig y Cwacer", – dyma ddechrau’r diwedd i berthynas Meg a Rowland.
Enghraifft 2: Rowland Ellis yn mynd i gyfarfod y Crynwyr yn Nolserau:
- Dau fath o hapusrwydd yma – hapusrwydd Rowland Ellis am ei fod wedi dod o hyd i’r golau yn ei galon. Hapusrwydd y Cyfeillion am fod gŵr o statws Rowland Ellis wedi troi’n Grynwr.
- Ar ddechrau’r olygfa – ansicrwydd ym meddwl Rowland Ellis – edrych o amgylch i weld pwy arall sydd yno – lled adnabod llawer un – synnu gweld rhai ohonyn nhw yno.
- Ansicrwydd Rowland Ellis yn troi’n orfoledd yn fuan.
- Rowland Ellis yn cyfeirio atyn nhw fel "fy mrodyr a’m chwiorydd" yn fuan.
- Cyfeirio’n benodol at lawenydd Robert Owen o gael aelod newydd ar ddiwedd yr olygfa.
- Arwyddocâd yr olygfa ac effaith yr hapusrwydd ar blot y nofel – Rowland Ellis o hyn ymlaen yn y nofel yn gwbl glir ei ffordd yn ysbrydol.
- Heb yr olygfa hon, efallai na fyddai Rowland Ellis wedi troi’n Grynwr o gwbl.
Question
Sut mae’r awdur yn cyfleu awyrgylch hapus yn y darn ar y dudalen nesaf?
- Cyfleu awyrgylch hapus yn y darn trwy gyfrwng nifer o ddarluniau.
- Dau fath o lawenydd – llawenydd allanol sy’n cael ei ddarlunio gan y tywydd a byd natur – "fe fu haul mis Hydref yn goleuo’r dail aeddfed, amryliw" – apelio at ein synnwyr gweld – defnydd o’r synhwyrau yn cael ei ddwysáu drwy gyfeirio at gynhesrwydd y "rhedyn coch ar y ponciau."
- Y llawenydd yng nghalon Dorcas ydy’r gwir lawenydd – gallu rhannu ei theimladau ag Ellis.
- Dorcas yn edrych ymlaen at weld Ellis – teimlad o’r cariad rhwng y ddau yn y frawddeg fer, "Tair noson i aros."
- Dorcas yn ceisio darbwyllo’i mam fod cerdded yn y nos yn saff iddi, "Mae gen i lygaid fel cath yn y tywyllwch." – darlun o hyder, ac awydd i weld Ellis Puw.
- Cyferbyniad rhwng y llawenydd dechreuol, rhwng "haul Mis hydref" a’r ofn sydd yn dod oherwydd "golau llusern annaearol jac y gors" yn y tywyllwch.
- Defnydd effeithiol o ddeialog yn hwyrach yn y darn – Dorcas yn gofyn yn ddiamynedd, "Ble mae Ellis?" dim awgrym o banig – darlun o ferch ifanc sy’n awyddus i weld ei chariad.
- Y llawenydd yma’n cyferbynnu’n llwyr â’r tristwch yn nes ymlaen yn yr olygfa – dim Ellis sy’n cyrraedd Brynmawr ond y ddau gwnstabl sy’n chwilio amdano.
Question
Ysgrifenna ymson Dorcas yn arwain at ymweliad y ddau gwnstabl.
Rwy’n edrych ymlaen gymaint at weld Ellis. Bydd yn dod yn fuan, rwy’n siŵr. Yn y cyfamser, mae Lisa wedi mynnu mod i’n gwisgo’r wisg hon. Dydw i ddim yn teimlo’n gyfforddus ynddi rywsut, ond dyna ni, mae’n well na bod yn wlyb mae’n siŵr, a bydd fy nillad i’n sychu’n fuan o flaen y tân yma. Mae popeth mor lân yma. Mae’n rhaid fod Lisa’n gwneud ei gwaith yn dda chwarae teg iddi. Ond mae hi’n ferch sydd wedi newid ers iddi adael cartref. Mae hi wedi tyfu’n ddiarth i ni yn y Brithdir bellach.
Ond dyna ni, efallai mai fi sydd wedi tyfu’n ddiarth iddi hi. Mae Ellis yn llenwi ’mywyd i erbyn hyn, ac efallai mai fi sydd wedi pellhau oddi wrth Lisa ac nid Lisa oddi wrtha i. Tybed ble mae Siân ac Ann? Mae’r lle yma dipyn yn fwy swnllyd pan maen nhw yma mae’n siŵr.
Clywaf Lisa’n sôn am Marged Owen. Beth? Marged Owen yn perthyn yn nes ryw ddydd. Beth mae hi’n ei feddwl? Gwraig Brynmawr. Dyna syniad rhyfedd. Dyn yn priodi ddwywaith. Beth fydd yn digwydd yn y nefoedd petai’r tri ohonyn nhw’n cyfarfod?! Dydw i ddim yn hoffi’r syniad yna ryw lawer.
Fyddwn i byth yn priodi neb arall. Mae Ellis yn ddigon i fi, a phe bai o’n marw o ’mlaen i, aros yn ddibriod fydden i wedyn. Rydw i am fod efo Ellis yn y byd hwn a’r byd a ddaw. O! mae na guro ar y drws. Ellis sydd wedi dod, tybed? O! na. Y wisg ’ma. Beth fydd yn ei feddwl pe bai’n fy ngweld yn gwisgo hon. Mae’n rhaid i mi newid. Na, mae ’ngwisg i’n rhy wlyb. O, mi fydd Elis yn deall. Beth? Nid Ellis sydd yna...
More guides on this topic
- Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros
- O Ran gan Mererid Hopwood
- Dim gan Dafydd Chilton
- Diffodd y Sêr gan Haf Llewelyn
- Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr gan Alun Jones
- Bachgen yn y Môr gan Morris Gleitzman
- I Ble'r Aeth Haul y Bore? gan Eirug Wyn
- Llinyn Trôns gan Bethan Gwanas
- Yn y Gwaed gan Geraint V Jones