鶹Լ

Themâu a mesur

Prif thema'r gerdd hon yw’r ofn sy’n deillio o fygythiadau terfysgaeth a brawychiaeth. Mae rhyfel a heddwch hefyd yn themâu canolog. Awydd y bardd i dynnu ein sylw at ein caethiwed a’r ffaith ein bod dan ormes y Llywodraeth yw hanfod y gerdd a chawn ymdeimlad cryf ei fod am i ni herio’r drefn.

Soned Shakespearaidd yw mesur y gerdd hon. Mae’r soned hon, gyda’i naws wleidyddol ac angerddol yn dilyn esiampl sonedau bardd a fu’n ddylanwad mawr ar Hywel Griffiths, sef T E Nicholas, neu Niclas y Glais.

Mewn soned Shakespearaidd mae:

  • 14 llinell
  • 10 sillaf ymhob llinell
  • patrwm odli a b a b c ch c ch d dd d dd e e

Mae’r soned hon wedi’i rhannu yn wythawd a chwechawd yn nhraddodiad y . Yn yr wythawd gwelwn ddarlun sinistr o rym terfysgaeth ac yn y chwechawd cawn ein hannog i herio’r drefn.