麻豆约拍

Cefndir a chyd-destun

Mae cefndir y gerdd hon yn cael ei gyflwyno cyn agor y gerdd gyda鈥檙 dyfyniad Terrorism can hit us anywhere from any place. Gordon Brown a ddywedodd y geiriau yma yn 2007 pan oedd yn Brif Weinidog ar Brydain. Ers yr ymosodiadau ar dyrau Canolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd yn 2001 mae gwledydd y Gorllewin wedi bod yn byw dan ofn. Mae鈥檙 bardd yn credu bod y Llywodraeth, gyda geiriau fel y rhai uchod, yn gosod amheuaeth ac ofn yn ein meddyliau a pheri i ni fyw mewn byd lle rydym yn edrych dros ein hysgwyddau o hyd.

Delwedd o'r cyn-Brif Weinidog Gordon Brown gyda'r dyfyniad: "Terrorism can hit us anywhere from any place." - 2007

Mae hi鈥檔 gerdd gyfoes ac amserol am ein bod yn parhau i fyw mewn byd sy鈥檔 ofni terfysgaeth ac mae nifer o bobl yn credu bod dylanwad y cyfryngau a鈥檙 Llywodraeth yn gyfrifol am hyn.