鶹Լ

Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor gan Rhys IorwerthNeges a themâu

Dyma gerdd gyfoes sy’n sôn am brofiad gŵr ifanc yn gweld merch atyniadol iawn mewn clwb nos, sef Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd. Mae’n sôn am ei phryd a’i gwedd a’r effaith mae hi’n ei chael arno.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Neges a themâu

Mae’r bardd yn dweud bod rhai pethau mewn bywyd yn cael argraff barhaol arnon ni. Er nad oes dim byd mawr yn digwydd, eto i gyd mae’r bardd yn trysori’r darlun o’r ferch hon yn ei gof.

Weithiau rydym yn dal yn ôl yn rhy hir ac yn peidio gweithredu oherwydd diffyg hyder. Weithiau, er nad ydyn ni yn adnabod rhywun yn iawn, rydym yn llunio stori amdanynt yn ein dychymyg gan eu cadw nhw'n fyw yn ein breuddwydion.

ճâ

Grym dychymyg a thuedd pobl i freuddwydio yw’r themâu sydd yma – mae’r bardd yn breuddwydio am y ferch ac yn dychmygu sut gymeriad sydd ganddi. Mae’r defnydd o eiriau fel ‘meddwol’, ‘gwyrth’, ‘breuddwydiol’ a ‘swyn’ yn pwysleisio hyn.

Thema arall amlwg yw gallu arbennig y cof dynol i gadw a chofnodi popeth sy’n creu argraff arbennig. Os ydyn ni'n dod i'r casgliad na ddaeth dim o’r cyfarfyddiad hwn yn y pen draw, gallwn ddweud bod swildod a diffyg hyder yn thema arall yn y gerdd.

Question

Beth yw neges y bardd yn y gerdd?