Â鶹ԼÅÄ

Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor gan Rhys IorwerthCefndir a chyd-destun

Dyma gerdd gyfoes sy’n sôn am brofiad gŵr ifanc yn gweld merch atyniadol iawn mewn clwb nos, sef Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd. Mae’n sôn am ei phryd a’i gwedd a’r effaith mae hi’n ei chael arno.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Cefndir a chyd-destun

Yn y gerdd hon mae’r bardd, Rhys Iorwerth, yn gweld merch yn y clwb ac mae hi’n tynnu ei lygad yn syth.

Englyn un

Hel meddyliau y mae’r bardd am adeg aeafau’n ôl pan welodd ferch a wnaeth argraff arno am ei bod yn ddifaddau o feddwol. Ystyr difaddau yw ‘yn bendant’ neu ‘heb os nac oni bai’. Nid meddw yw’r ferch ond meddwol, sef ei bod hi’n cael effaith fel alcohol arno – mae’r bardd yn meddwi dim ond wrth edrych arni.

Englyn dau

Mae’r bardd wedi meddwi ar harddwch y ferch cyn iddo ddechrau yfed. Nawr mae’n archebu peint ac yn edrych arni trwy’r mwg sigâr. Mae hyn yn dyddio’r gerdd i’r adeg cyn bod ysmygu wedi’i mewn llefydd cyhoeddus ac yn ein hatgoffa o’r geiriau aeafau’n ôl, sy’n golygu bod blynyddoedd wedi mynd heibio ers y hwn. Mae'r bardd yn drist – ydy e’n llawn galar oherwydd ei fod yn gwybod fod merch fel hon tu hwnt i’w gyrraedd?

Englyn tri

Wrth edrych yn ei llygaid, mae’n dychmygu fod ganddi ei stori ddiddorol ei hun ond dim ond cipolwg o’i chymeriad mae’n ei gael. Mae ei hyder a’i direidi hi’n gwrthgyferbynnu gyda’r ffordd y mae’r bardd yn dal yn ôl a dim ond yn ei gwylio.

Englyn pedwar

Yma eto dim ond dal i’w lled-wylio y mae ef, sef rhyw hanner gwylio tra bod mwy o her yn ei hi. Mae’r geiriau trwy ryw wyrth eto’n awgrymu nad yw’r bardd yn meddwl fod ganddo fawr o obaith cael hon yn gariad – byddai angen gwyrth.

Englyn pump

Mae brad yr edrychiadau yn awgrymu efallai iddi godi ei obeithion dim ond iddo gael ei siomi. Ydy eu ‘dawns’ yn ddawns drosiadol o fflyrtio ar draws y bar neu a ydyn nhw wedi dawnsio gyda’i gilydd go iawn?

Englyn chwech

Rydyn ni’n cael awgrym eithaf cryf na ddaeth dim o’r peth erbyn yr englyn olaf. Mae’n debyg fod y bardd yn rhy ddedwydd freuddwydiol, hynny yw, ei fod wedi bod yn araf ac yn rhy barod i freuddwydio amdani am nad oes ganddo’r hyder i ofyn dim iddi. Ydy ef felly’n gwneud dim, ac yn difaru am nad yw’r ferch bellach yn ddim byd ond atgof?