Main content

Kate Roberts

Bu farw yn 1985, yn 94 oed

Hi oedd un o brif lenorion Cymraeg yr 20fed ganrif.

Cyfeirir at Kate Roberts yn aml fel Brenhines ein Ll锚n, ac er ei bod yn adnabyddus yn bennaf am ei straeon byrion, cyhoeddodd hefyd nifer o nofelau.

Cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o straeon byrion, O Gors y Bryniau, yn 1925, ond efallai mai ei chyfrol fwyaf adnabyddus a phoblogaidd yw Te yn y Grug (1959), cyfrol o straeon am blant.

Roedd ei nofel Traed Mewn Cyffion, a gyhoeddwyd yn 1936, yn adlewyrchu bywyd caled teulu cyffredin yn ardal y chwareli, a defnyddiwyd y gwaith fel sail i gyfres deledu boblogaidd. Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Y L么n Wen, yn 1960.

Dywedodd y golygydd Bethan Mair wrth siarad am Kate Roberts ar raglen Nia: 鈥淗i yw Brenhines Ein Ll锚n. Mae ei gwaith hi鈥檔 dal i sefyll yn hollol ynghanol priffordd llenyddiaeth Cymru.

鈥淩oedd hi鈥檔 ferch oedd yn ysgrifennu i ddechrau. Fe gyhoeddwyd Traed Mewn Cyffion, ei nofel hir gyntaf, n么l yn 1936 a byth oddi ar hynny mae hi wedi bod yn rhywun mae merched, yn enwedig efallai, yn gallu uniaethu 芒 hi.

鈥淵r hyn mae Kate Roberts yn ei wneud mor dda ydy cymryd ymdrech bywyd, sydd weithiau yn gignoeth ac yn ofnadwy, a鈥檌 droi yn llenyddiaeth aruchel.

鈥淢ae ganddi rai straeon byrion sydd yn sefyll gyfuwch ag unrhyw beth yn llenyddiaeth ryngwladol y byd. Dyna yw ei mawredd hi,鈥 meddai.

Dolenni:

Clips

Hoff Awdur Cymru: Kate Roberts

Bethan Mair fu鈥檔 canu clod Kate Roberts ar raglen Nia.