Manon Steffan Ros
Ganed yn Rhiwlas, ger Bangor.
Mae Manon Steffan Ros bellach yn byw ym mhentref Pennal, ger Tywyn, ac yn awdur a mam llawn-amser.
Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri ac eto yn Eisteddfod Abertawe.
Yn 2010 a 2013 enillodd Wobr Tir na n-Og am lyfrau i blant.
Yn ogystal ag ysgrifennu sawl nofel ar gyfer darllenwyr iau, mae Manon hefyd wedi cyhoeddi llyfrau ar gyfer oedolion, yn cynnwys dau deitl yn y gyfres Stori Sydyn.
Meddai Lisa Markham wrth ei chefnogi ar raglen Nia: “Mae’n gallu cyrraedd y bobl.
“Mae wedi gallu mynd â fi i’w byd hi.
“O ran y naturioldeb ‘ma, a’i chariad at bobl, rhaid i chi ddarllen y storïau yma – maen nhw’n ffantastig!â€
Dolenni:
Clips
Hoff Awdur Cymru: Manon Steffan Ros
Lisa Markham fu’n canu clod Manon Steffan Ros ar raglen Nia