Main content

Nia Roberts

Busnesu a sgwrsio, chwerthin a chrio - y cyfan ar raglen Nia.

Holi Nia Roberts

Petai ti'n anweledig am y diwrnod, beth fyddai'r peth cynta' i ti wneud?
Gwylio fy mhlant yn yr ysgol.

Beth sy'n gwneud i ti ymlacio?
Nofio.

Pa atgof sy'n gwneud i ti gochi fwyaf?
Cloi sgwrs fyw efo Stifyn Parri gan ddiolch iddo am sgwrsio am y sioe "Oklahomo".

Pa raglen sy'n gwneud i ti ddiffodd y teledu?
Jonathan Ross ar nos Wener.

Petai ti'n cael newid un peth am dy hun - beth fyddai hynny?
Newid fy niffyg taldra.

Oes gen ti lysenw?
Nia JO.

Pe na fyddet ti'n gyflwynydd radio, beth fyddai dy swydd ddelfrydol?
Artist yn gweithio o stiwdio ar lan MΓ΄r y Canoldir.

Beth oedd dy hoff losin pan yn blentyn?
Sherbert fountain.

Pwy sydd yn dy ysbrydoli di?
Fy nhad.

Pa eitem yn dy gwpwrdd dillad sy'n codi'r cywilydd mwyaf arnat ti?
Pop socks.

Beth yw dy leoliad picnic delfrydol?
Ar lan y mΓ΄r. Mae tywod yn ychwanegu at flas y bwyd.

Petai ti'n ennill y loteri - beth fyddai'r peth cyntaf i ti wneud?
Rhyfeddu, achos dwi byth yn ei wneud o.

Pwy fydde ti'n hoffi gweld yn dy actio di mewn ffilm am dy fywyd?
Faswn i ddim diolch.