Main content

Caradog Prichard

Bu farw yn 1980, yn 75 oed

Bardd, newyddiadurwr a nofelydd a aned ac a faged ym Methesda, Gwynedd.

Dechreuodd ei yrfa fel newyddiadurwr yng ngogledd Cymru a Chaerdydd cyn symud i Lundain, lle y treuliodd y rhan fwyaf o鈥檌 fywyd.

Ei waith mwyaf adnabyddus yw Un Nos Ola Leuad (1961), nofel bwerus ac ysgytiol wedi ei gosod yn ei ardal enedigol.

Cyfieithwyd hi i nifer o ieithoedd, a鈥檌 throsi鈥檔 ffilm hynod lwyddiannus.

Gwnaeth Caradog Prichard ei farc fel bardd yn ddyn ifanc, ac enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith, yn 1927, 1928 a 1929.

Yn 1962 enillodd y Gadair am ei gerdd Llef Un Yn Llefain.

J Elwyn Hughes, hanesydd ac awdur o Ddyffryn Ogwen, fu鈥檔 siarad o blaid Caradog Prichard ar raglen Nia.

鈥淩oedd yn feistr ar ba bynnag gyfrwng a ddewisodd i fynegi ei hun ynddo,鈥 meddai.

鈥淵n Un Nos Ola Leuad fe drawodd ar thema oeseol - stori am blant a honno鈥檔 stori afaegar, gredadwy ac yn un eithriadol o ddiddorol lle mae鈥檔 s么n am ddiniweidrwydd plentyn ac yn portreadu symlrwydd, ac eto, gymhlethdod, bywyd plentyn wrth iddo dyfu.

鈥淧ortreadodd gymdeithas chwarelyddol dlawd a chreu darluniau byw a chredadwy a chofiadwy iawn o鈥檙 bobl oedd yn byw yn yr ardal honno. Ac mae drwy gydol y gwaith yn apelio at deimladau ei ddarllenwyr, yn ennyn tosturi a chydymdeimlad ar y naill law ac ar y llaw arall yn ysgogi gw锚n a chwerthin.

鈥淢ae wedi ei throsi i ryw 10 鈥 12 o wahanol ieithoedd Ewropeaidd sy鈥檔 ei gwneud wrth gwrs yn nofel rynglwadol鈥, ychwanegodd.

Dolenni

Clips

Hoff Awdur Cymru: Caradog Pritchard

J Elwyn Hughes fu鈥檔 canu clod Caradog Pritchard ar raglen Nia.