Wiliam Owen Roberts
Nofelydd ac awdur dramâu ac enillydd Llyfr y Flwyddyn.
Yn ogystal â nofelau, mae Wiliam Owen Roberts wedi ysgrifennu ar gyfer radio, teledu a’r theatr.
Ganed ef ym Mangor, Gwynedd, a bu’n astudio Llenyddiaeth Gymraeg ac Astudiaethau Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Nodweddir ei waith gan wreiddioldeb. Mae'n ymestyn ffiniau, gan ymdrin â phynciau, syniadau a chefndiroedd sy’n newydd i lenyddiaeth Gymraeg.
Er enghraifft, seiliwyd ei nofel gyntaf, Bingo! ar ddyddiaduron Franz Kafka.
Cyfieithwyd ei nofel fwyaf adnabyddus, Y Pla, i nifer o ieithoedd gan gynnwys Saesneg, Iseldireg ac Almaeneg.
Enillodd ei nofel Petrograd, a osodwyd yng nghyfnod y Chwyldro yn Rwsia, wobr Llyfr Cymraeg y Flwyddyn 2009 a chyhoeddir dilyniant iddi, sef Paris, yn y dyfodol agos.
Dywedodd Non Meleri Hughes am ei waith ar raglen Nia: “Mae’n rhoi llwyfan rhyngwladol i nofelau Cymru.
“Mae'n mwynhau gwthio ffiniau a drwy hynny, 'da ni fel darllenwyr yn cael llenyddiaeth sy’n newydd, yn greadigol, yn gyffrous ac yn bleser i’w ddarllen.â€
Dolenni:
Clips
How Awdur Cymru: Wiliam Owen Roberts
Non Meleri Hughes fu’n canu clod Wiliam Owen Roberts ar raglen Nia.