Main content

Dewi Prysor

Awdur, bardd a cherddor sy’n hanu o Drawsfynydd.

Ar ôl cyfnod yn byw a gweithio mewn gwahanol ardaloedd o Gymru fel labrwr, peintiwr, bownsar, trydanwr a saer maen, trodd at ysgrifennu creadigol yn ystod cyfnod yng Ngharchar Lerpwl, ar gyhuddiadau gwleidyddol.

Yn 1998 enillodd Ddiploma yng Ngholeg Harlech, ac yn ddiweddarach graddiodd mewn Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bellach mae’n awdur drama, cyfrol o gerddoriaeth reggae, dwy gyfrol o limrigau, a phedair nofel.

Roedd ei bedwaredd nofel, Lladd Duw, ar restr fer Cystadleuaeth Llyfr Cymraeg y Flwyddyn yn 2011, a hi oedd enillydd Gwobr Dewis y Bobl.

Dolenni:

Clips

Hoff Awdur Cymru: Dewi Prysor

Meg Elis fu’n canu clod Dewi Prysor ar raglen Nia.