Main content

Caryl Lewis

Enillydd Llyfr y Flwyddyn. Ganed yn Dihewyd, ger Aberaeron, Ceredigion.

Bellach mae Caryl Lewis yn byw ar fferm ar gyrion Aberystwyth.

Bu鈥檔 astudio ym mhrifysgolion Durham ac Aberystwyth.

Mae hi鈥檔 awdur llawrydd yn ysgrifennu ar gyfer plant ac oedolion, yn ogystal ag ar gyfer y theatr, y teledu a鈥檙 diwydiant ffilm.

Enillodd ei nofel fer, Iawn Boi? Wobr Tir na n-Og yn 2004, a鈥檌 nofel Martha, Jac a Sianco oedd Llyfr Cymraeg y Flwyddyn 2005.

Ar 么l hynny, cyfieithwyd y nofel i鈥檙 Saesneg a seiliwyd ffilm boblogaidd arni.

Mae arddull realistig y nofel yn cyfleu鈥檙 newidiadau mawr sy鈥檔 digwydd yng nghefn gwlad, a鈥檙 cyfan yn cael ei bortreadu trwy gyfrwng y berthynas rhwng dau frawd a chwaer ganol oed sy鈥檔 rhedeg fferm deuluol.

Mae Caryl bellach wedi cyhoeddi dros ugain o deitlau, yn cynnwys ei nofel ddiweddaraf, Naw Mis (2009).

Yr actores Sharon Morgan fu'n siarad o'i phlaid ar raglen Nia.

鈥淭u hwnt o berthnasol 鈥 mae鈥檔 ysgrifennu am beth sy鈥檔 ein gwneud ni yn Gymry,鈥 meddai gan ychwanegu fod ganddi 鈥渄dyfnder athronyddol, barddonol, deallusol" ond bod ei gwaith "hefyd yn ddathliad o fywyd.鈥

Dolenni:

Clips

Hoff Awdur Cymru: Caryl Lewis

Sharon Morgan fu鈥檔 canu clod Caryl Lewis ar raglen Nia.