Cerddi Rownd 2
1 Trydargerdd (heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Epigram Dychanol
Y Derwyddon
Fe wn yn iawn pa beth ydyw digon,
sef mwy o hyd na feddaf yr awron.
Meirion Jones 9
Crannog
I’r rhai hΕ·n rhoed y tair ‘R’,
I law ifanc ffôn glyfar
Endaf Griffiths 9
Cynigion ychwanegol
Mae’r sawl sy’n buddsoddi
mewn pum Jag-iw-âr,
eto’n gyrru ond un
tra bod pedwar yn sbâr!
.
Mae rhai’n ei weld fel rhinwedd
ond lleidr yw amynedd.
Yr un yw’r gwir o’i dd’wedyd ganwaith,
newidia’r gau o’i dd’wedyd eilwaith.
Fesul darn lleda Sarnau,
Fesul gwΔ“n mae’r lle’n lleihau.
Fesul gradd fe fynn addysg
Nad gair Duw yw gorau dysg.
Mae ‘nghadarnle Cantre’r co’
Un lli arall i’w herio.
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘staff’
Y Derwyddon
O roi staff yn dy gafé,
Na fyn staff “have a nice day”.
Meirion Jones 9
Crannog
Staff y ddaear fu’n farus
A bellach llymach yw’r llys.
Philippa Gibson 9
Cynigion ychwanegol
Nid y staff sy’n cadw stΕµr,
cerddant i diwn eu corddwr.
Y staff a gânt eu stwffio
pan ânt at y P an’ O.
Un am hwyl? Dewch yn y man
yn un o staff San Steffan!
Y mae Bos beunos, beunydd
Sy’ eisiau staff nos a dydd.
Rwy’n un o staff y caffi
Ond mwy yw fy myd i mi.
Yn nhafol byd mwy cyfiawn
Synnwn i mai’r staff sy’n iawn.
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mistêc oedd datgelu’r manylion’
Y Derwyddon
Mistêc oedd datgelu’r manylion
am delyn a chanu penillion,
gan fod llawer o ‘mhlant,
yn reit hoff o gerdd dant,
fel rhiant, ’rwy’n gweld y peryglon!
Llyr James 8.5
Crannog
Am oesau ni wyddai y Saeson
Fod modd iddynt gyrraedd Tregaron,
Ni wyddent fod lonydd
Yn croesi’r Elenydd.
Mistêc oedd datgelu’r manylion.
Gillian Jones 8.5
Cynigion ychwanegol
Mistêc oedd datgelu’r manylion
am Akshata a’i llu o gyfrifon;
ond y son yw, ei bod
am brynu commode
i’w osod ynghanol Cors Caron!
.
Wrth ddychwel o ‘steddfod Dregaron
Fe gefais fy stopio gan blismon
“A faint yfaist ti?”
Gofynnodd i mi
Mistêc oedd datgelu’r manylion.
Mistêc oedd datgelu’r manylion
Mewn cwrw ym mar y Black Lion,
A’r myned yn ôl
I ben yr un stôl
A’i gwadu yn llwyr ar fy union.
Ar Tinder fe ddysgais ddirgelion
Y broses o ennill cariadon,
Rhai bob llun a lliw
Bob maint a bob rhyw -
Mistêc oedd datgelu manylion.
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ysbyty
Y Derwyddon
Ofnau’n hoes sy’n ysgafnhau
o’u rhannu yng nghlyw'r bryniau,
yn eu si, cei godi gwên,
a’r niwl a dry yn heulwen.
Coedwig o glinig cefn gwlad
yn erwau o adferiad.
Mor ddi-ball ydyw gallu
blodyn a chân deryn du,
gofid a llid a wellhá
o weled pili pala.
Dduwies ein lles ddaw yn llawn,
a’i rhodd sydd mor amryddawn.
Meirion Jones 9
Crannog
Nawr carc sy’n gwnïo’r cof;
nid yw rheg pen draw ogof
gwrach a’i sgrech fel afiechyd
yn fy mhen yn cloi fy myd,
na’r dolur a’i gur fel gwae’n
dirwyn drwy’r coridorau.
Fe fum Θƒ rhwyg yn fy mron
yn gwaedu’n ffau’r cysgodion
heb un dydd yn rhydd o rwyd
gwersyll, y dryll ac arswyd.
Yma gwn im ddod o’m gwΘƒl
yn gyfan gyda’r gofal.
Eirwyn Williams 9.5
5 Triban beddargraff arholwr neu arholwraig
Y Derwyddon
Arholwr Piano
Dechreuodd yn vivace
cyn newid i andante,
ar ôl y coda, mae’n y gro
a’i dempo’n molto grave.
Llyr James 9
Crannog
Fe’th rhoddwyd yma i orwedd
Pan fethaist Ffeinals llynedd,
Heb unrhw obaith am ddigrΘ‹
Cans ni chei di ail-eistedd.
John Rhys Evans 8.5
Cynigion ychwanegol
‘Rôl bod yn brin ei farciau
daeth awr i’w fesur yntau,
disgwyliodd dic, ond cafodd groes
fel rhoes mor rhwydd i ninnau.
Arholwr Piano
Mae nodau Handel’s Largo
yn atsain yn grescendo,
a’i halaw bêr yn fawr ei pharch
uwch arch diminuendo.
Er cymaint ei ddoethineb
Teg nodi ar ei gofeb
I gloch y Llan i alw hwn
A’r cwestiwn heb ei ateb.
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Logisteg
Y Derwyddon
Fy hoff dîm yw Dyffryn Cothi - gwn nad ydyw eto’n bod,
ond fy mwriad ydy ffurfio y tîm Talwrn gorau ’rio’d!
tîm wnaiff sgorio deg o leiaf, yn y tasgau ar eu hyd,
ac yn hynny y cynhwysaf, ateb llinell ar y pryd!
Ond mae problem i’w goresgyn, cyn y down i sylw’r byd,
brwydr y bu gwledydd yn ei hymladd ers cyhyd;
sut i adfeddiannu trysor a ysbeiliwyd yn ei dro
gan anrhaethwyr estron, barus, a fu’n rheibio llawer bro.
Cipiwyd marmor Groeg gan Elgin, dal yn Llundain mae o hyd,
dwyn wnaeth Benin efydd Eifftiaidd, eu dychwelyd sy’n hen bryd!
ond ysbeiliwr gwaeth yw Idris, ddaeth o gwmwd Crannog bell
i Gwm Cothi, dwyn ein beirdd ni, er mwyn gwneud ei dîm yn well!
Dyffryn Cothi sydd yn berchen, Eirwyn, Endaf a John Rhys,
Mynnu ’rwyf, y dylai Idris, eu dychwelyd nawr ar frys!
Dylai’r Meuryn a’i Sanhedrin, ddeddfu bellach, nad yw’n iawn
i gystadlu’n enw ardal, heb brawf dinasyddiaeth lawn.
Wedi ail feddiannu’n gwir-feirdd, medrwn wedyn fynd ymlaen
i greu’r tîm na fu mo’i debyg yn y Talwrn hwn o’r blaen,
anghymarol fydd yr awen yn y tîm sy’n newydd sbon,
Dyffryn Cothi, fy hoff dîm i - a hoff dîm y wlad yn gron!
Eryl Mathias 9
Crannog
TΘ‹m pel-droed Beirdd Cymru
Mae’n gyfle i roi llwyfan i’r drindod o Barc Nest
Ond wedi’r gyfrol ddiwethaf, Jim Nawr yw’r Georgie Best.
Mae lle ar gael i Llion, trydarfardd Byd y Bale,
Boed yn gyfenw Gareth neu’n dreiglad o’r gair ‘pΔ“l’.
Daw Tudur Dylan ifanc, y chwimaf yn eu plith,
I hedfan ar Adenydd i lawr yr asgell chwith.
A phwy fydd Stanley Matthews ond Moses Glyn ei hun,
The Wizard of the Dribble, y Dewin o Ben LlΕ·n.
A Gerallt sydd yn taro y targed bob un tro,
Gullit, Gullit benfelyn - y siot orau ers cyn co’.
A chan fod rhai o’r gemau’n ddau gymal, fel pe tae,
Fe fydd yn gyfle i Waldo ddisgleirio Mewn Dau Gae.
Ac yn y blaen bydd Cynan, y Marchog coch ei waed,
Yn chwarae i’r Derwyddon, a’r Dyrfa ar ei thraed.
Ac fe fydd Williams-Parry, mewn crys a shorts a socks,
Yn chwilio’r eiliad gyfrin, y Llwynog yn y bocs.
Darganfu Parry-Williams ryfeddod pelen gron
Gan ddod o hyd i’w hunan wrth drin a thrafod Hon.
Wel dyna nhw, yr un-ar-ddeg, i herio’r tΘ‹m mewn gwyn,
Ac os bydd angen eilydd, bydd wastad Ceri Wyn.
Idris Reynolds 9.5
7 Ateb llinell ar y pryd – ‘Dwed Sinn Fein nad oes ‘na ffin’
Y Derwyddon
Dwed Sinn Fein nad oes na ffin
yn awr rhag uno Erin.
Tudur Hallam 0.5
Crannog
Dwed Sinn Fein nad oes na ffin
Yn awr i rannu Erin.
Idris Reynolds 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Difrod
Y Derwyddon
‘My baby was taken from my arms' Glasgow mum opens up about how her son's forced adoption ruined her life. Elspeth Ross is still moved to tears decades later thinking about her baby boy,who was taken from her at just 16 years old.Tens of thousands of women in Scotland were forced to give up their babies for adoption in the 1950s, 60s and 70s. Now they want a formal apology from the government.’ (Βι¶ΉΤΌΕΔ Glasgow Live)
Daw’r gwanwyn heibio eto’i gadw oed,
a’i atgof poenus fyth am ddyddiau du;
ac er bod blagur newydd ar y coed,
yr un hen ddeiliach crin a welaf i.
Mor fyw yw’r frwydr hon, a’m trysor bach
yn destun gwawd a ch’wilydd, nes fy mod
yn un o’r dorf sydd heddiw’n warth i’w hach,
erlidiwyd ‘mhell o’u bro’n ddi-hawl, ddi-nod.
Ni ddaw yr ail egino nôl i’r ardd,
na’r haul i alw eto’r ddawns o’r tir,
ni welaf aur briallu yno’n hardd
na chlywed deunod côg yn alaw glir.
Ni phyla’r gaeaf gyda’i frath a’i glwy’
hyd nes y try un wennol yma’n ddwy.
Siw Jones 8.5
Crannog
Pan oedd y llanc o’i fewn yn tyfu’n ddyn,
i’r golwg daeth chwaraewr, llond ei groen,
a welai’r gΔ“m fel cyfle i brofi’i hun;
ymlaen yr âi heb hidio dim am boen.
Pan ymdebygai’r cae i faes y gâd
fe safai yno gyda’r milwyr traed,
fe wisgodd gyda balchder grys ei wlad
a threchu’r poen wnâi’r haearn yn ei waed.
Fe brofodd wefr yr eiliadau drud
sydd gymaint rhan o ramant trafod pΔ“l
a chododd, dro, gwpanau mwya‘r byd
a bydd ei enw’n fyw mewn oes a ddΔ“l.
Yn awr fel tad o dan ei hanner cant
mae’n cael hi’n anodd cofio enwau’r plant.
Idris Reynolds 9
9 Englyn: Taflegryn
Y Derwyddon
(ar ddiwedd perthynas)
Dau air iasol: ‘Mae drosodd.’ – Un arall:
‘Sorri’, a dwi rywfodd
yn fud heb wybod pa fodd
yn ei cholur y’m chwalodd.
Tudur Hallam 10
Crannog
Un gannwyll orffwyll berffaith, a honno
I'w thanio ond unwaith,
Heb fodd i'w diffodd, ar daith
I gynnau galar ganwaith.
Philippa Gibson 10
Cynigion ychwanegol
Un gair all droi yn garreg, yn ystryw
i ddinistrio’r frawddeg,
i wanu’r iaith, a’i throi’n rheg,
grym i waedu gramadeg.