Cerddi Rownd 1
1 Trydargerdd (heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Epigram Dychanol
Y Gler
Dymuniad y dorf, pan gaiff dyn lwyfan,
Yw gwybod be wnaiff pan fo wrtho’i hunan.
Hywel Griffiths 9
Tanau Tawe
A fynno ymnadreddu
Trwy rwyd rheolau caeth,
Boed iddo drefnu parti
a’i alw’n sesiwn waith.
Robat Powell 9
Cynigion ychwanegol
Fe dâl y stiwdants ffioedd llawn,
Smo fe’n iawn.
Ond pan ddaw’n amser seminar,
Smo nhw ’na..
Boed heulwen neu ddilyw, does neb am fyw’n llwm
A nefoedd i lawer yw gwneud aur o blwm;
Ni all dyn wneud ffortiwn wrth fod yn ddi-nâg
Na ‘chwaith gynnig cardod â’i boced yn wag
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw fath o offer swyddfa
Y Gler
Cei â drôn yno’n y nen
Hawlio gwaed â’th lygoden.
Osian Rhys Jones 9
Tanau Tawe
Arwr yw’r sganiwr, a sgil
Heb banso i naddu pensil.
Keri Morgan 8
Cynigion ychwanegol
Yn oes y sgrin hwylusach,
Haws cofio â beiro bach.
Hyn oll sy’n swyddfa tΕ· ni:
iPhone a pheiriant coffi.
.
Aeth f’englyn ar ei uniawn
I’r paper shredder, siΕ΅r iawn.
Pam heddi, lungopïydd,
Leban dwl, o bob un dydd?
Ffôn landline, diatsain wyt
Erioed. Ond yma’r ydwyt.
Tâl tapio’r botel Tippex –
Hwn yw’r swyn i wella’r secs!
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae pethau pwysicach, rwy’n gwybod’
Y Gler
Mae pethau pwysicach, rwy’n gwybod,
Meddwn i, yn bryderus o’r gawod,
Ond mae hwn yn ddu-las
Ac yn gwynto’n reit gas,
A’r un maint â ’nwrn i yn barod.
Hywel Griffiths 8
Tanau Tawe
Mae pethau pwysicach, rwy’n gwybod,
Na chwrw a chwrso menywod,
Ond wir, cyfnewidiwn
Pob dime o’m ffortiwn
Am sesiwn ‘da Mari, Brynhafod.
Keri Morgan 8
Cynigion ychwanegol
Mae pethau pwysicach, rwy’n gwybod,
Ond dyma sydd ar fy nghydwybod:
Un tro’n Aberteifi,
’Rôl gornest, es Ceri,
A llenwi dy frechdan â thywod.
Mae pethau pwysicach, rwy’n gwybod,
Na ffurflen a threfn a chyfarfod.
Pan fynegaf y ffaith
Wrth gyfrwr ffa’r gwaith,
Caf ateb, ‘O’th sylw, gwnes gofnod.
Mae pethau pwysicach, rwy’n gwybod:#
Rhyfeloedd, newynau, dihirod,
Ond rwy’n siΕ΅r o wylltio
Pan glywaf gamdreiglo,
Seisnigo, neu hepgor y fannod.
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Diddanwr neu Diddanwraig
Y Gler
Beth yw ffydd ond gobaith ffôl
Yn nannedd yr annynol?
Pa ddechrau haf, pa drafod,
A chyflafan Bucha’n bod?
I ba ddiben awen neb,
A chynnen a thrychineb
Yn eu grym?
Gwae ryw amau
Ynom oll nad felly y mae
Yn y saib pan lacio’r sΕ΅n
Ei afael, pan anghofiwn,
Yn swyn Amelia’n canu,
Fod y murddunnod mor ddu.
Eurig Salisbury 10
Tanau Tawe
‘Françoise Hardy’
Un tro gynt, cefais trwy gân
Ias oriog ei llais arian,
A nosau hardd glannau Seine
Yn fyw trwy lif ei hawen.
I mi daeth haul y Midi,
I’r moelydd prudd, hud Parîî!
Byd ieuanc, pob dyhead
Ganai hi, pob eginhad
Yng ngardd ffrwythlon calonnau
Yr haf dwys lle prifiai dau ;
Heno, os mud fy ninas,
Erys o hyd lais Françoise.
Robat Powell 9.5
5 Triban beddargraff pennaeth recriwtio
Y Gler
Caiff heddiw yr hen geidwad
 Phedr Sant gyfweliad;
‘Dymunol yw’r Gymraeg,’ medd ef,
‘Yn swyddi’r nef, heb eithriad.’
Osian Rhys Jones 8.5
Tanau Tawe
Er bod ei waith daearol
Yn plesio, ac yn lleol,
Gan Satan Cyf. fe’i denwyd e’
 lle am swydd uffernol.
Elin Meek 8.5
Cynigion ychwanegol
Tu ôl i’w ddesg ddiogel
Anogodd lu i ryfel;
Dônt ato eto, closio’n nes
Yn rhes; ni chwsg yn dawel.
Rôl ticio bocs gwahanol
Cynigiai swydd i bobol,
Ond heddiw mewn llyfr mawr heb smic
Derbyniodd dic terfynol.
Bu’n arwain am flynyddoedd
Ar lenwi swyddi’r cannoedd,
Ond nawr mae’i waith yn hynod rhwydd
A’i swydd yn un byth bythoedd.
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Codi’n Fore
Y Gler (Ymddiddan rhwng baban a’i dad)
Mae’r amser wedi dyfod, rwy’n dad, rwy’n codi’n gynt.
Hen bryd, fy nhad, rwy’n aros am help i dorri gwynt.
Mae’r dyddiau i gyd fel gêm, tawelu’r baban yw’r gamp.
Am be ti’n aros, dΕ΅ad? Newidia’r crud, mae’n damp.
Newid clwt, dillad glân a bwydo. Mae’n awr i ti gael nap.
Mi fydd yn amser gwneud hyn oll drachefn ac eto, wap.
Ti’n hogyn del yn gwenu, wyt wir, wel ar fy llw.
Dwi’n gwthio, straenio, gwingo nes llwyddo pasio’r pΕ΅.
Wyt ti’n syllu ar fy siwmper? Does arni graith na staen.
Dwi’n chwilio am rywle hwylus i chwydu’n nes ymlaen.
Newid clwt, dillad glân a bwydo. Fe gysgi rΕ΅an, siawns?
Fy nhad, rwyt ti mor ffôl. Ymuna yn y ddawns.
Dwi’n mynnu gwneud fy rhan. Tad modern ydw i.
Dwi’n diolch am Mam beunydd. Mae hi’n fy neall i.
Dwi’n fardd sy’n ceisio canu fy nghân ers y bore gwyn …
Wedi gwrando ar dy gân, cei ddim gan Ceri Wyn …
… a’r dyddiau’n rhuthro heibio wrth edrych ar dy ôl.
… ai dyna’r oll sydd gen ti, fardd? Un gadair ac un stôl?
Mae wedi hanner nos, o’r diwedd tawelaist ti.
Mi gysgaf fymryn rΕ΅an, er mwyn deffro toc cyn tri.
Osian Rhys Jones 9
Tanau Tawe
Un dydd, Mam a ‘Nhad fynnodd godi yn gynnar
A hyn, yn anffodus, oedd achos y galar.
Mor greulon y golled a’m gwnaeth yn amddifad
Tra’n llusgo fan hyn rhwng y tatws a’r salad ;
Hen geiliog mwyalchen ddisgynnodd yn dalog
Â’i ylfin melynfawr i lenwi ei stumog!
Rwy’n gwybod bod ganddo ei nythaid o gywion,
Ond pam dod i hela yn nhir y rhai gwirion?
Roedd malwod a lindys yn drwch yn ei ymyl
A llu o drychfilod ar bwys y tail ceffyl,
Roedd morgrug yn heidio yn nhwmpath y gwrtaith
Ond Mam a ’Nhad annwyl oedd nod ei anfadwaith.
Pe baent wedi aros yn glyd yn eu twnnel
Mi fyddem o hyd yn un teulu’n ddiogel.
Os codi’n blygeiniol yw’r cyngor i’r deryn
Sy’n awchus i fachu rhyw damaid amheuthun,
Mil gwell i’r rhai bychain yw oedi’n y gwely -
Y mwydyn fo’n gynnar a gaiff ei draflyncu!
Harri Williams 9
7 Ateb llinell ar y pryd - ‘Y gamp yw osgoi o hyd’
Y Gler
I'r di-fai 'rhyd ei fywyd,
Y gamp yw osgoi o hyd.
Eurig Salisbury
Tanau Tawe
Y gamp yw osgoi o hyd
Achwyn am bob afiechyd!
Keri Morgan 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Sgrolio
Y Gler
Roedd y wawr yn betalau aur
a brath y gwynt yn gafael
ond ni wyddwn ddim am hynny
am fod fy llygaid wedi’u hoelio
fy mysedd yn sgrolio
heibio’r mamau oedd yn holi
pa bowdr golchi sydd orau i fabi?
Oes gan rywun strimmer i’w werthu?
A beth sy’n mynd i’r bag ailgylchu?
Taro wedyn ar hen lun
criw coleg mewn gwisg ffansi
dymuno’n dda ar ben-blwydd rhyw foi
ro’n i wastad yn ceisio’i osgoi
rhannu deiseb am wersi dawnsio
hoffi clip o gi yn udo.
Erbyn hynny,
roedd y dydd yn ei wely
a machlud arall wedi colli ei liw,
ond ni wyddwn ddim am hynny
am fod fy llygaid wedi’u hoelio
fy mysedd yn dal i sgrolio
wrth chwilio’n ofer
am rywbeth i’w deimlo.
Megan Lewis 9.5
Tanau Tawe
Dwy soffa; dau gyfandir
a’r llawr rhyngddynt yn gefnfor stormus.
Yn dawel y sgroliant.
Drwy gil eu llygaid,
gwêl y naill y llall,
ond heb ymgysylltu.
Ar dro, mae’u mynegfysedd
yn cydsymud
am eiliad . . . neu ddwy . . . neu dair.
Ond wedyn, oeda’r naill
i wylio fideo o gi clyfar
a gwibia’r llall ymlaen
rhag darllen am hynt a helynt
pâr diddig ar wyliau
gyda’i gilydd.
Sgroliant – drwy’r rhaff ddiddiwedd, ddi-ddal, ddiangor,
a broc môr eu perthynas
yn annibendod o’u hamgylch.
Elin Meek 9.5
9 Englyn: Lloches
Y Gler
I’r rhesi, ni rown groeso, nid i’r fam,
Nid i’r ferch – rhaid pwyllo …
Ond rhown i elw bob tro,
Arian budur neu beidio.
Hywel Griffiths 10
Tanau Tawe
Dan ddaear, a’r bomiau garw’n udo,
cofleidiodd gwraig weddw
hen ddyn na wyddai’i enw,
ond daeth nerth o’u hartaith nhw.
Elin Meek 9.5