Cerddi Rownd 1
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Pennill yn rhoi sglein gadarnhaol ar un o benawdau’r newyddion
Manion o’r Mynydd
Guardian 2/2/22 ‘ Wales to serve weaker beer and shut bars at half-time in Six Nations games’.
Stop tap half time
a chwrw gwannach
Ciw byr i’r bog
a’r piso’n sythach.
Gwilym Rhys Jones 8.5
Bro Alaw
Ar ôl cael swydd gan BoJo,
Ai cyngor cyntaf Guto
I brifweinidog gwlad y Sais
Oedd, “Cod dy bais cyn piso”?
John Wyn Jones 8
Cynigion ychwanegol
‘Can Rishi Sunak’s high-wire act land
him the top job?
Am syrcas! Ond mae’n fargen,
Dau glown sydd yn y llun,
Os Tori wnaiff y wifren
Yn sydyn fydd ’na ’run
Fe glywaf Guto’n waldio
Gitâr ac aralleirio
Cân Huw: “Dwi isio bod yn llais
I Sais o’r enw BoJo”.
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw neu lysenw unrhyw dîm pêl droed
Manion o’r Mynydd
Â’i luman yn rhubanau,
Bryncoch, ydi’r briw yn cau?
Alwyn Evans 9
Bro Alaw
[Delia Smith, cadeirydd Norwich]
O Delia, taw â’r dwli,
Cofis yw’n Caneris ni.
Ken Owen 8.5
Cynigion ychwanegol
Mei mae’n ffwl-teim ond tymor
Bryn Coch a bery’n encore.
(Zebras – Juventus, Teddy Bears – Rangers; timau Aaron Ramsay)
Nefoedd i’r Zebra ofer
Ydyw bod yn Dedi Bêr.
I’r gad â thîm Porthmadog,
Tîm goliau, tîm gorau’r Góg.
Ni chawn ymhlith elyrch chwil
Un seren fwy na Cyril
Mae trin cath ddel fel gelyn
A’i morthwylio’n digio dyn
Esgyn a disgyn i’r don
Yw loes yr Adar Gleision.
Ar y cae yn ffau y ffans
Y dewraf ydyw’r Darans. (Llanberis)
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’n fater o farn ond dwi’n credu’
Manion o’r Mynydd
Mae’n fater o farn ond dwi’n credu
Mai o Fôn y daeth beirdd gorau Cymru,
Penceirdd penrhydd a chaeth
Rhai lleddf a rhai ffraeth
Ond ysywaeth, pob un wedi’u claddu.
Tudur Puw 8
Bro Alaw
‘Mae’n fater o farn ond rwy’n credu’
Fod merch orau’r byd yn fy ngharu,
Mae’n ateb heb ddadla’
Na rhestru gwendida’ -
“Alexa – play Radïo Cymru”!
Ioan Roberts 8.5
Cynigion ychwanegol
Mae’n fater o farn ond rwyn credu
Bod credu yn odli ‘da Cardi
Bod bwji dat cu
Yn cyfarth fel ci
A Ceri yn feuryn real tidy.
Mae’n fater o farn, ond ’rwy’n credu
Nad ydyw y Meuryn yn credu
Fod y Manion yn credu
Y pethau mae’n credu
Y dylent eu credu, ’rwy’n barnu.
‘Mae’n fater o farn ond rwy’n credu’
Pan ddaw gwobrau sdandyps teledu,
Nid Tudur nac Elis
Na Rob gaiff ei ddewis -
‘Rhen Boris a fydd yn serennu.
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Prysurdeb
Manion o’r Mynydd
O do, bu’r straffîg bob dydd
Yn hen hwdwch annedwydd,
- Bod yn berffaith wrth weithio,
- Byw y rhaid i ‘gynnal’ bro,
- Y ras i gymdeithasu,
- Tasg anhepgor twtio’r tΕ·.
Mynd a mynd oedd hyn i mi
A’r alwad yn rheoli ...
Yn ddiwerth o ymddeol
Dyheu wnaf am weld yn ôl
Her yr alwad a’r helynt
I aildanio cyffro cynt.
Nia Watkin Powell 9.5
Bro Alaw
Llwyfan wag, llenni’n agor,
SΕµn Rhagfyr ym murmur môr
A sioe adar chwim sydyn
Yn dod i wefreiddio dyn;
Pob chwechawd o’r gatrawd gall
Yn arwain chwechawd arall
Yn nrama’r cain batrymu
A’r holl frys wrth droelli fry.
Yna’r wyrth! Fe syrth y sêr
Ar wib i gors yr aber,
A llen glos cyfnos yn cau
O’u cwmpas wedi’r campau.
Richard Parry Jones 9.5
5 Pennill ymson adarwr neu adarwraig
Manion o’r Mynydd
Ar gudyll coch dwi’n ffoli,
Mae’r gwalch, un glas, yn lyfli,
Ond diawlio ’rwyf yr wylan wen
A’i sen wrth ddwyn fy chips i.
Alwyn Evans 8
Bro Alaw
(ar ôl darllen erthygl am Virginia Crosbie)
Fe laniodd deryn diarth yn fy ngardd,
Ac ar y dechrau chefais i ond cip
Ar dderyn llwydwyrdd, ond yn ddigon hardd
Sy’n mynnu cael fy sylw a’i jip-jip.
Fe ‘nelodd wedyn at y soser ddΕµr
A’r cawell hadau bach mewn fawr o dro,
O’i weld yn bwydo roeddwn inna’n siΕµr
Fod gennym groesbig fechan yn ein bro.
Ond, nhw drws nesa oedd ei heisiau hi,
A hawdd oedd denu sylw’r gywen fach
Drwy gynnig hadau brasach, twr di-ri
Y gallai’r groesbig gael heb unrhyw strach.
I bwy fydd ei theyrngarwch pan fo’n hawdd
Cael boliad yn ddi-ymdrech dros y clawdd?
Ken Owen 8.5
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Y Bwthyn Gwyliau Perffaith
Manion o’r Mynydd
Yr wyf yn Εµr llewyrchus â bitcoins lu mewn code,
Yr wythnos waith sydd drosodd, mae’r gwyliau wedi dod,
Mi af i’m bwthyn unig mewn cerbyd 4x4,
Gan lusgo jetski grymus at donnau gwyllt y môr.
Ac yn y bwth cyfforddus a’r gwin yn llifo’n oer,
cawn orwedd ar y decking, bob nos yn gwylio’r lloer,
neu syllu a rhyfeddu, tu hwnt i’r patio door,
ar wildlife Aberdaron a Donna Wyllt o’r Ffôr.
Caf eistedd efo’r Mrs mewn twba twym o ddΕµr,
Bydd ffrwd o fybyls ynddo, a’r wraig yn beio’i gΕµr,
Ac yna ar ôl gorffen y botel Piat D’or,
Fe awn mewn budgie smugglers, a thong mewn hollt i’r môr.
Ac yn y bathroom moethus mae crochan aur fel throne
Mae’n hyfryd eistedd arno, er gwaetha’r sΕµn trombone,
Oblegid mi af yno pan fydd ystormus wynt
Yn cronni fesul potel Prosecco’r noson gynt.
Yr wyf yn Εµr tra chwaethus, yn enw Dewi Sant,
Y patio fydd yn llwyfan i gynnal gwyl cerdd dant
Neu Dalwrn bach anffurfiol a Ceri’n cadw’r sgôr
Mewn bwthyn gwyliau perffaith, tribannau gwych galore.
Alwyn Evans 8.5
Bro Alaw
Gan ‘mod i yn amharchus, heb ffadan yn fy nghôd,
A’r beirnadaethau’n tyrru a neb yn canu ‘nghlôd
Mi af i’m bwthyn gwyliau sy ‘nghudd rhwng bryniau’r wlad,
Rhwng Byclings a’r Cwm Tecaf - i siambar sori nhad.
O’i long-tir-sych fe fyddai y giaffar yn cael hoe,
A chwmni lleol difyr heb neb yn prepian – ddoe,
Ond heddiw mae’n rhaid cuddio rhag papuratsi’r wlad
Pan ddaw Miss Robaitsh arall i fwthyn dirgel ‘nhad.
Yn rhydd o bwysau’r teulu, medalau trwm di-ri,
A lifrau cyrnol drama rhyw wlad tu hwnt i’r lli,
Caf rodio’n rhydd fel Adda gyda’i Efa ‘ngardd fy stad -
Lle perffaith rhag pob camra yw pied à terre fy ‘nhad.
Mae ’mrawd yn edliw ’mhechod, ond 12 miliwn mam,
Er gwaetha'r holl gyfreithwyr, a'm cadwodd rhag cael cam.
Mi wardia i o'r golwg a fydd ’na neb a wad
Fy hawl i’m mân bleserau yn y tΕ· ges gan fy nhad.
Oherwydd fe gaf yno, o olwg Stryd y Fflyd,
Lonydd i ymdrybaeddu ‘nôl f’arfer ers cyhyd,
Caf weld pwy bynnag fynnaf heb was i fygwth brad -
Lle perffaith i hen bero yw bwthyn gwyliau ‘nhad.
John Wyn Jones 9
7 Ateb llinell ar y pryd - ‘Wele, ar lawr ar y lôn’
Manion o’r Mynydd
Wele ar lawr ar y lôn
Hel o hyd y mae’r tlodion
Tudur Puw 0.5
Bro Alaw
Wele, ar lawr ar y lôn
Unig, grach feirdd y Manion.
Ken Owen
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Bwrw’r Bai
Manion o’r Mynydd
Cop 26
Bwrlwm o wleidyddion
fesul un
ac un
yn glanio’n eu jets;
fel brain ar gae Ε·d,
a’u crawcian byddarol o addewidion gwag
yn atseinio’n y cyfryngau.
“Rhaid newid y drefn!”
“Er mwyn y blaned”
Tra bo tyrau’r sigarets concrid
yn gwenwyno’i hysgyfaint,
A gronynnau plastic
yn heigio’i moroedd,
cyn gorffwys yn dalpiau
ar draethau
wet wipes.
Cei blannu dy goeden - cei fynd i Dubai,
Cei dithau’r bugail ysgwyddo’r bai!
Gwilym Rhys Jones 9.5
Bro Alaw
Aur o dan y rhedyn,/Arian o dan yr eithin,/Newyn o dan y grug.. Hen rigwm traddodiadol a oedd yn arweiniad gwerthfawr wrth wella tir mynydd, gan fod gwraidd y rhedyn a’r eithin angen mwy o ddyfnder pridd na’r grug.
Fe’i magwyd mewn cymuned glòs
A gofiai beth oedd newyn.
Fe dreuliodd oes yn meithrin pridd,
Yr aur oedd dan y rhedyn.
A magodd hwn ei deulu’n falch
Wrth gyd-fyw gyda natur,
A’r arian dan yr eithin droes
Yn bopeth trwy ei lafur.
Wrth bwyso’n drymach ar ei ffon,
Nid yw yn gallu dirnad
Paham fod rhai yn pwyntio bys,
A gwaith ei oes yn afrad.
Ond yn ei galon cyfyd ofn
Dros rai sydd nawr yn erfyn
Am droi y wlad yn ôl yn wyllt,
Cans dan y grug mae newyn.
Ioan Roberts 9
9 Englyn: Canlyniad
Manion o’r Mynydd
(Prawf DNA)
Er bod dedfrydu’r papurach – yn dweud
nad yw hwn o’i linach,
ar wyneb byw yr un bach
mae gwên y prawf amgenach.
Tudur Puw 9.5
Bro Alaw
Gwylia wrth daflu’th gelwydd – drwy ffenestr
Y ffynnon, oherwydd
Daw y carth o’r gwaelod cudd
I’r wyneb eto drennydd.
Richard Parry Jones 9