Main content

Cerddi Rownd 1

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Pennill yn rhoi sglein gadarnhaol ar un o benawdau’r newyddion

Tir Mawr

Mae Boris yn hollol agored,
Mae Boris yn gryf ac yn soled,
Mae Boris yn gwneud
Be mae Boris yn ddweud,
Wnaeth Boris ddim gwneud ‘run adduned.

Huw Erith 8

Talybont (GLlI)


Downing Street party: No 10 staff joked about party amid lockdown restrictions

Do, fe gafwyd parti
â’r byd i gyd dan glo,
ond cadwyd at reolau,
ein rheolau ni, on’d do?

Gwenallt Llwyd Ifan 8.5

Cynigion ychwanegol

Pob lwc medd Carlo wrth Barbados
Cic-owt i’r Goron? Teg eich achos:
Heddiw CHI sy’n penderfynu…
Yna nôl i’w dΕ· ha’ yng Nghymru.

Trafnidiaeth Cymru dan y lach unwaith eto am drenau gorlawn
Newyddion da a ddaeth i ran pob un sy’n brin o gwmni,
Bydd cyfaill newydd ar y trên, yn eistedd ar dy lin di.(PD)

2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw gân adnabyddus

Tir Mawr

“I’r Gad”, “Hen wlad fy nhadau”,
Ro eto’u hias i’r to iau

Carys Parry 8

Talybont

Pob rhiniog a berchnogwyd;
un heb dΕ· yw Lleucu Llwyd.

Anwen Pierce 8.5

Cynigion ychwanegol

“Yma o Hyd”, anthem yw,
Un alaw yn y dilyw.

Sach wag (dan olau agos),
Nia Ben Aur y clwb nos.

Bu’n anodd dal Lisa Lân;
Ei rhoi-hi dw’isio rΕµan.

O Gymru, O Gymru gwêl
y rhai syn dros y sianel.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘‘Gwell dau ben nag un’ yw’r ddihareb’

Tir Mawr

Yng nghysgod Big Ben, bu trychineb –
Hedbytiwyd y Gw’nidog Casineb
Oherwydd ei iaith;
Gwnaed hynny ddwy waith –
‘Gwell dau ben nag un’ yw’r ddihareb.

Myrddin ap Dafydd 8.5

Talybont

“Gwell dau ben nac un” yw’r ddihareb,
“Gwell tri phen na dau” sy’n synhwyreb,
“Gwell yw pedwar na thri”
Meddai rhai wrtho chi,
I unben fel fi mae’n wiriondeb.

Phil Davies 8.5

Cynigion ychwanegol

Pôs cwis i Wil Ddwl a’i frawd Caleb:
“Gwell dau ben nag un” yw’r ddihareb,
Ond ai gwell yw un
Na dau ben di-lun?
 ’ch pennau fo’i gilydd, rhowch ateb.

Y gacen fu bron yn drychineb
Ond yna, i’r adwy, daeth Caleb
Efo’i reindar ei hun
Tra bo’r llall efo cΕ·n
“Gwell dau ben nag un” yw’r ddihareb

“Gwell dau ben nag un” yw’r ddihareb
Ond nawr rwyf yn ama’i chywirdeb,
Yma yn griddfan
 mherfedd allan
A’r pan lai na llathan o ngwyneb.

‘Gwell dau ben nag un’ yw’r ddihareb;
nis credaf fod hynny’n ystrydeb.
Os am achub yr hin,
Rhaid it siarad trwy’th din
a chroen dy ben-ôl ar dy wyneb

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cwch

Tir Mawr

Yn ddiweddar liw nos dygwyd chwe peiriant “outboard” gwerth oddeutu trigain mil o bunnoedd o borth fechan ddiarffordd Porth Meudwy ym mhen eithaf LlΕ·n,ac amddifadwyd tri pysgotwr o ennill bywoliaeth dros nos.

Meg Co25

Tan ddûwch mae’n gwch di gur
yng nghesail porth fy nghysur,
mewn niwl araf o’r afon
oer,o draw daeth golau’r drôn.
A thrwy adwy’r plwy daeth pla,
clefyd mewn balaclafa,
maneg cadw Meg o’r môr
ei dreisio,dwyn ei drysor
a rhwygo tlws y rigin,
aeth o dawch yn noeth ei dîn.
Galar cyw drycin arall
a gwawr o fudd gwΕ·r y fall.

Huw Erith 9.5

Talybont

(llythyr at Siôn Corn, oddi wrth SW1A 1AA)

Nid rhwydd y bu fy mlwyddyn –
ffraeon dwl, y coffrau’n dynn,
y Goron hon yn gwanhau ...
un dilyw o sgandalau.
Rwy’n teimlo’n hen eleni
felly gad rhyw fad i fi,
un roial iot, a’r hwyl wen
yn gwdyn dan y goeden,
fy leinar o filiynau
ar draul y gwΕ·r bur hoff bau.
O gaf, nid dingi o gwch
ond hengaer o Fritangwch.

Anwen Pierce 9

5 Pennill ymson ogofwr neu ogofwraig

Tir Mawr

Wgi Wyllt fy annwyl gymar
Sydd yn hela drwy yr amsar
Er fod ganddom yn y ffrisar
Bedwar Mammoth ar eu hannar

Gareth Jos 8.5

Talybont

Dwi yma yn y t’wllwch yn gorwedd ar fy hyd,
fy nwylo’n ymbalfalu, a’m gafael ar ddim byd.
Mae rhyw lysnafedd erchyll yn glynu i fy het;
nawr, fe af i’r ogof, i gael hoe o ‘ngwaith fel fet.

Phil Thomas 8.5

Cynigion ychwanegol

Be ddywedodd yr hyfforddwraig,
“Stalagmites sy’n dod o’r llawr”
Yna fe ddangosodd imi
Stalactites yn dod i lawr.

Heb signal i gael paramedics,
Dwi’n sownd, efo poen yn fy mhendics;
Pob gwaedd ’mod i’n bod –
Yn ôl mae hi’n dod…
Mae’n rhaid canu clod yr acwstics.

Wrth lusgo ar fy mogel
Trwy linyn main o dwnel;
Nid ofnaf, dof, trwy’u hymdrech hwy,
I’r adwy yn ddiogel.

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Addunedau

Tir Mawr

Ar Noswyl Galan ‘leni
Addewid a wnes i
Gwneud cân fer iawn i Ceri
a.. Bingo ! Dyna hi !

Gareth Jos 8.5

Talybont

Fe addunedais llynedd ar ôl rhyw beint neu ddau
I ddweud naw wfft i Gymru, a ffoi o’r bur hoff bau,
Dim mwy o’r Meuryn annwyl a’i farcio cytbwys call,
Cawn ffoi o wlad fy nhadau, a joio yn ddi-ball.

Fe fachais yn yr atlas, gan bori dros bob map,
Ond hwpais bin yn diwedd a dewis gwlad ar hap.
Fe wariais siec y Talwrn ac rydwyf erbyn hyn,
Yn gorwe’n hanner porcyn ar draeth o dywod gwyn.

Y tonnau sydd yn torri ar ben fy nhwtsys noeth,
A’m corpws sydd yn browno o dan yr heulwen poeth.
Rwy’n strymio iwcalili tra’n chwarae hwla hΕµp,
Gan wylio South Pacific, sydd gyda fi ar lΕµp.

I ginio caf gnau coco a physgod o bob lliw,
Ac adar o baradwys yn rhoi cyfeiliant byw.
Rôl cysgad wedi bwyta fe af am wâc i’r traeth
A chrwban yn fy mhasio tra’n myned ar ei daith.

Ond wrth i’r flwyddyn ddarfod daw hiraeth am fy mro
A gwn na allaf ddianc, rhaid mynd yn ôl am dro,
Ac addo gwneud y tasgau a ddaeth o’r Bî Bî Sî,
Gan wybod bydd y Meuryn yn llonni nghalon i.

Phil Davies 8.5

7 Ateb llinell ar y pryd - Awn ar daith yn hwyr y dydd

Tir Mawr

Awn ar daith yn hwyr y dydd
I Ddowning,Stryd ddihenydd.

Huw Erith 0.5

Talybont

Dros y don yn aflonydd
awn ar daith yn hwyr y dydd

Phil Thomas

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cytundeb

Tir Mawr

‘O na! Fy Yucca!’ meddai gwraig y Grand.
‘Aeth deugain Awst o ddail yn ddim mewn pnawn!’
‘Mae’u tail fel tryffyls o gylch traed y band,’
medd shèff yr Elsinôr. ‘Fydd eto fyth yn iawn
fy tjerri-loryl-hedj,’ ochneidiodd boi’r
Seint Jôrj. Ac fel un llais yn wyneb pla,
beirniadwyd haid na wyddai pryd i ffoi
yn ôl i fyw ar sbarion picnics ha’.
‘Bu’n gimic gwych am shots Pi-Âr mewn clo –
ond cofiwch ’bod nhw’n rafins creigiau’r byd,
heb hawl ar lawntiau tlws a dreifs ein bro.
Rhaid heirio reiffyls er mwyn clirio’r stryd…’
A dros y Gogarth daeth rhyw niwl – ac wedyn
nid oedd sôn am blant y grug a’r rhedyn.

Myrddin ap Dafydd 9.5


Talybont

Un o uchafbwyntiau’r newyddion o COP26 oedd bod cynadleddwyr yn prynu Irn Bru yn yr archfarchnadoedd ar gyfer partïon.

Mae llif y dΕµr yn Ystrad Clyd
eleni’n llawn o rwd, a storom fawr
yw genau’r gwynt
sy’n cyneafu’r ganrif olew a glo.

Mae bocsys brechdannau gwag
yn crynhoi yng nghorneli’r meysydd parcio.

Lle mae gronynnau cimychlyd
o blastig yn waddod ar wely’r môr,
drostynt mae tonnau o fagiau rhad
fel baneri ar awel.
A thra bo’r don cam-ceiliog yn nesáu
at draethau gwyn ym mhen draw’r byd,
mae tanau’n gadael golosg ar eu hôl.

Ond yma ar lannau Ystrad Clyd
cawn drafod amrywiadau un neu ddau y cant,
a glastwreiddio’r gwir
â chaniau lliw rhwd ein Irn Bru.

Gwenallt Llwyd Ifan 9.5

9 Englyn: Pàs


Tir Mawr

Nid creu ciw, nid dy gaethiwo, – y mae,
ond mynd â’r poenydio
i’w le’n y byd fel na bo
rhyddid drwy dy boer iddo.

Myrddin ap Dafydd 9

Talybont

Dihunwyd had o enyn- yn y gwaed
o’i gwsg gan y brechlyn,
a’i drwydded ryddha wedyn
y llengoedd o gelloedd gwyn.

Gwenallt Llwyd Ifan 9.5

Cynigion ychwanegol

gyda rhybudd rhag snogio Nadoligaidd
O’i gael cawn gwtshio’n gilydd – a rhoi sws
ar swch, ond â rhybudd
gan un coeth, Εµr doeth ein dydd,
gochelwch rhag uchelwydd!

CYFANSWM MARCIAU

TIR MAWR 70

TALYBONT 70.5