Main content

Cerddi Rownd 3

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Cyhoeddi Apwyntiad Aelod Newydd o Staff

Y Cwps

Dwi yma’n Aber efo Gwyn
Yn y swyddfa’n dîm bach tyn.
Mae Leri’n zoomio mewn o Splot,
Mae Lois ym Mharis eitha lot,
A Brenig sydd ar bwys Kabul.
Griw, ’ma Jac, sy’n Ista’n Bwl!
Rhowch groeso cynnes iddo fo
At y Tîm Cydlynu Bro.

Rocet Arwel Jones 8.5

Ffoaduriaid

Ni wnaeth unrhyw un ymgeisio
am y job ar fy fan arlwyo.
Rhof fy ffedog, felly yn ôl
bydd rhaid i minnau lenwi’r rôl.

Gwennan Evans 8

Cynigion ychwanegol

(Swyddog Marchnata Cwmni Gwerthu Tractorau Llangeitho cyf.)
Am iddo ddangos adnabyddiaeth a dawn
YnglΕ·n â thractors a’u henwi yn llawn,
Ef ddaeth i’r brig mas o gant mwy neu lai;
Bydd Mr Parish yn dechrau mis Mai.

Wel, Carlo, rwy mor sori na allan’
nhw bellach benodi
heb gynwysoldeb, wel’di.
Y King newydd fydd…wel… fi.
Croesawn Dwm Cadwallon,
a chofiwn ddweud "helo!"
ac os oes gennym ordor te
rhown wybod iddo fo.

Ac o ran rota'r dolig
wele, bawb, ynghlwm,
mae amser inni un ac oll
gael gwyliau. Diolch, Twm!

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘cwt’

Y Cwps

Mae’n Abersoch gwt mochyn
Sy’n rhy swanc i lanc o LΕ·n.

Huw Meirion Edwards 9.5

Ffoaduriaid

Y cyfoethog gwtogant
drwy wacáu platiau ein plant.

Gruffudd Owen 9.5

Cynigion ychwanegol

Sigl-di-gwt paid a hwtian
Yn y gors, bydd driw i’th gân.

Ar werth: Cwt ar draeth – cei hwn
Yn hael am chwarter miliwn.

. Aiff crwt i'r gwt i gwato,
yn lle cael ei alw'n llo.

Os ’di pobol yn holi –
aeth i’r cwt i fwytho’r ci.

Mond cwt, myn Duw!... ac eto
Rhywun hurt wnaiff brynu o.

Digio at fochyn deugwt
ydi gwaith y moch di-gwt.

Yno’n dwt yng nghwt fy nghar
dacw fy milidowcar.

Heb ddannedd, bu i Ddennish
ffoi i’w gwt i shglaffio’i Gîsh.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Fe roddais y gorau i weithio’

Y Cwps

Rôl f’ethol ar gyngor Llangeitho
Fe roddais y gorau i weithio.
Yn ystod pwyllgorau
Rwy’n gwglan tractorau
A weithiau beiriannau gwrteithio.

Iwan Bryn James 8.5

Ffoaduriaid

‘Fe roddais y gorau i weithio!’
Meddai’r Sais efo tΕ· yn Llangeitho
ar Air BnB...
‘Cym dy dΕ·’ medda fi,
‘a’i stwffio cyn bellad ag eith o!’

Gruffudd Owen 8.5

Cynigion ychwanegol

Fe roddais y gorau i weithio
A phrynais hen camper, i deithio.
A rhyw ddydd breuddwydiol
Ymhell i’r dyfodol
Fe fforddiaf y petrol, gobeithio.

Er imi gael swydd ro’n i’n joio
Fe roddais y gorau i weithio
‘Chos prin oedd y tonnau

A dim argyfyngau
I wyliwr y glannau’n Llangeitho

Fe roddais y gorau i weithio
er mwyn magu’r plant a’u gwareiddio.
Mae’n jobyn y’r diawl
a does gen i mor hawl
i gael pî-pî mewn hedd nac awr ginio!

4 Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘‘Rwy’n ofni’r cellwair yn fwy na’r cyllyll’

Y Cwps

‘Rwy’n ofni’r cellwair yn fwy na’r cyllyll’,
Mor drwm dy eiriau dan warchae erchyll
Y bygythiadau fu’n cau fel cewyll
Ar iard dy ysgol, nes fferru d’esgyll;
Ond daw, er pob gwawr dywyll, – dy dro di
I ddweud pwy wyt-ti, i godi’n gudyll.

Huw Meirion Edwards 10

Ffoaduriaid

Yng nghornel dawel fy stafell dywyll
rwy’n ofni’r cellwair yn fwy na’r cyllyll,
yn ofni’r beio yn fwy na’r bwyyll.
O sgrin fach arall, mi all yr ellyll
drywanu gair draw’n y gwyll i’m llorio,
a’i fin yn cydio fel crafanc cudyll.

Llyr Gwyn Lewis 10

5 Pennill mawl neu ddychan (rhwng pedair ac wyth llinell): Sylwebwyr Chwaraeon

Y Cwps

Pàs wrthol, crymanu, dihangiad, mewnwr,
Cic hosan, cael pluen, y datglwm, maswr.
Mae rhai’n werth eu ffortiwn, mae hynny’n ffaith,
a’u cyfoeth yn sgleinio yng nghampau’r iaith.

Geraint Williams 8.5

Ffoaduriaid

Mae sΕµn y chwiban cyntaf fel cyffur drwy ei waed,
ac yno wrth y llinell, mae’n dawnsio ar ei draed
yn dweud ei ddweud am bob un cic
fel tase pawb yn ddall neu’n thic.
Mae’i lais yn dechrau codi. Uh-oh. Mae’n gweiddi’n groch.
A yw e yn cael harten? Mae’n eithaf blincin coch.
Ac yna môr o ddagrau llaith;
gôl gynta’i fab i’r tîm dan saith.

Gwennan Evans 8.5

Cynigion ychwanegol

Mae Dychan Jones a’r criw am godi tim eleni,
Un pump bob ochr chwim ’di noddi gan Sonneti.
Fydd hyn yn dodl sbo, yr hen reolau caethion,
Herio’r hen elyneg, a gwau’r Glen Hoddle union.
Er ambell dacl fydr, paladr-x, a bwciad,
sdim hala gwant. Cic rydd! I lawr yr esgyll. Croesiad
O gyswllt, dan y draws, a fydd dim nam sefyllian!
A thriphwynt balch gaiff rhain pan chwytha’r reff ei driban

6 Cân ysgafn: Iaith Babis

Y Cwps

Alexander, cwji cw,
Daeth yn amser i wneud pw;
Bydd yn hogyn da i Nanny,
Dysga’i wneud o yn y poti,
Achos rwyt ti, coelia, Pwt,
Yn rhy hen i wisgo clwt.
Mae dy wili wincs rwyn gwybod
I ni oll yn fawr ryfeddod
A all mewn amser, rwyn rhagdybio,
Achosi llawer iawn o ffraeo .
Ond rwan, canolbwyntia Blodyn
Ar wneud ych-a-fi mewn potyn!
Yna, fe gei fynd i barti,
Lot o yum yums, bwyta’n harti;
Cyn cael cyci bei am orie,
A breuddwydio am y dyddie
Pan y byddi f’arwr bychan
Yn frenin ar y byd yn gyfan.
Ond nawr Bojo, Blodyn Tatws,
Rwyf am sychu dy benolws.

Dafydd Morgan Lewis 9

Ffoaduriaid

Gan E. D. Owen (2 a ½ oed ) (Cyf. Cymraeg gan Gruffudd Owen)

Dacw Dadi’n dwad yn reslo efo’r pram.
Mae dadi’n yn cael ei hamro, (di’r boi ‘im patsh ar Mam).
Mae’r bag ‘fo petha newid yn dal yn yr hall,
dwi’n trio deud wrth Dadi ond dio’n gwrando bygyr all.
Ffwrdd i’r parc a finna i rowlio yn y baw
i ddysgu gwers i Dadi. RHAID cofio’r dillad glaw.

Dacw Dadi’n dwad â iogyrt hyd ei farf
(ma gosod llwy ar ffwlcrwm yn blydi gwd arf).
Dwi’n trio deud wrth Dadi fy mod i isho mwy
a pan mae’r diawl yn gwrthod dwi jyst yn taflu’r llwy.
Dadi bach yn crio tra’n gorwedd ar y llawr.
Efallai dysgith Dadi i wrando arnai nawr.

Dacw Dadi’n dwad yn trio sgwennu pwt
o bennill at Y Talwrn ond dwi di llenwi nghlwt.
Dadi’n sgwennu cerddi â’i lygaid o ymhell.
(Mae’r hyn sydd yn fy nghlwt i o ansawdd tipyn gwell.)
Di dadi ddim am symyd, mi s’mudith dipyn cynt
pan agora i fy nghlwt ar y garthen Tregwynt.

Dacw Dadi’n dwad yn edrych braidd sdressed
(Mi nath o eitha smonach o’r poppers ar fy fest.)
Dwi’n trio deud wrth Dadi bod o’n lwcus iawn i nhghael.
Dwi’n barod i’w gywiro bob amser yn ddi-fael.
Gwaith di-ddiolch ‘di bebisitio Nhad.
Pwy fyddai’n cadw Dadis a thedi bêrs mor rhad?

Gruffudd Owen 9.5

7 Ateb llinell ar y pryd - ‘A wyt-ti’n mynd i Qatar?’ neu ‘A wyt ti’n mynd i Qatár?’

Y Cwps

‘A wyt-ti’n mynd i Qatar?’
Na'dw boi, dim blydi bar!!

Dafydd John Pritchard 0.5

Ffoaduriaid

Stopiais Wil ger Llanilar:
'A wyt ti’n mynd i Qatár?’

Gethin Wynn Davies

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Terfynau

Y Cwps

terfynau

ac yno, mae
darnau bach o

wlân yn glynu'n
fudr yn y

crawia ym mhen
pella'r cae.

Dafydd John Pritchard 9

Ffoaduriaid

(Gwasgaru llwch yn Aberystwyth)

Welis i rioed mo siâp y gwynt o’r blaen,
wyddwn i ddim sut roedd o’n chwipio a chyrlio,
ond heno mae dy lwch yn llenwi pob cornel ohono.

Mae’n cydio, ti’n codi,
yn disgyn fel cawod dros y traeth
cyn chwyddo eto.
Mae hi’n nosi mewn eiliadau yma,
yn dywyll cyn i ti sylwi.

Ac o unman, daw’r drudwyod
yn un gosgordd i dy gario tua’r gorwel.
Mae’r awyr yn frith o lwch a phlu
a phob deryn yn ei wisg ddu.

Yna mae’r gwynt yn gostwng
i dy arwain dan y pier.
Ti’n cwympo,
yn ôl i’r tywod llwyd i glwydo.

Llio Maddocks 10

9 Englyn: Arwerthiant


Y Cwps

‘Aelwyd eich holl freuddwydion – bob carreg,
Caer Deg, Ceredigion’ –
Gair cyn hogi’r cynigion;
Amnaid ... Going ... Going ... Gone.

Huw Meirion Edwards 10

Ffoaduriaid

Beth i ni ’di bwthyn Nain – erbyn hyn
ond ryw bnawn yn cywain
ein galar a’r lle’n gelain?
Neb ar ôl ond cΕµn a brain.

Gruffudd Owen 10

Cynigion ychwanegol

Naid enbyd. Ond daw ambell i adeg
ymadael â’r stafell
rhag i wal droi’n fur i gell,
neu i wreiddiau droi’n briddell.

CYFANSWM MARCIAU

Y CWPS 73.5
Y FFOADURIAID 74