Main content

Cerddi Rownd 1

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Pennill yn rhoi sglein gadarnhaol ar un o benawdau’r newyddion

Tir Iarll

“Bydd Boris yn brif weinidog,
O leia tan y Pasg.”
Does dim sglein gadarnhaol...
Dw i wedi methu’r dasg.

Tudur Dylan Jones 8.5

Beirdd Myrddin

Arwen Takes Our Wind Away

Ag Arwen ar ei gwaetha’
fe fentrais daro rhech
ger stondin gaws y farced
a gariwyd i Drelech.

Aled Evans 8.5

Cynigion ychwanegol

Hiliaeth Clwb Criced Swydd Efrog
Bu ergydion i’r bonyn – un hydref
nes pydru ei wreiddyn,
ond rhai sy’n gweld rhosyn gwyn
â gwawr yn ei flaguryn.

Storm Ahwin
Er dymchwel ein colfenni
gan wyntoedd mawr eu grym,
ni ildia ein cytseiniaid
i’r un awelon llym.

2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw fath o felysion

Tir Iarll

Lic’ris Olsorts a’u short sy’,
Fel henwyr, yn diflannu.

Aneirin Karadog 8.5

Beirdd Myrddin (GR)

Bwyta’r aer i mi bob tro
yw apêl twll mewn polo.

Lowri Lloyd 9

Cynigion ychwanegol

Iddi’n wên, rhoddi a wnaf
yn hael fy Rolo olaf.

Beth yw prish dy licrish l’as
a minnau moyn cymwynas?*
(* y ‘chat-up line’ arweiniodd
at rigwm Hen Fenyw Fach Cydweli)

Ar yr awr daw’r ddau neu dri
â’u polos i’r capeli.

Wedi siom a’r funud sur
un gisen sydd yn gysur.

Duw a Εµyr, gyda’r wyrion,
i ble’r aeth y toblerôn?

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae angen tynhau’r holl reolau’

Tir Iarll

Mae’r agwedd at osod limrigau
Yn wfftio’r gwir feirdd a’u hen grefftau;
‘Sdim cân heb gynghanedd -
Drwy’r oesau bu’n drosedd…
Mae angen tynhau’r holl reolau.

Emyr Davies 8.5

Beirdd Myrddin

Mae angen tynhau’r holl reole
ynglΕ·n â’r drefn gweithio o adre;
dim agor y gwin
tan chwarter i un
a chodi cyn deg bob un bore.

Ann Lewis 8.5

Cynigion ychwanegol

Mae angen tynhau’r holl reolau
Parthed trwseri heb ben-olau
Cans mas yn y rhew
Nid yw chydig o flew
Ar fochau mawr tew’n neud y job, ay!

Mewn oedfa o fwrdro carolau
anghofiodd y côr eu mygydau.
Nawr mae hanner y saint
Yn achwyn am haint,
mae angen tynhau’r holl reolau.

Beth yw’r “buzz” ar hyd coridorau
San Steffan ac yn llygaid Aelodau?
Pam mae pecyn bach gwyn
ar waelod pob bin?
Mae angen tynhau’r holl reolau.

Mewn gêm rygbi â Chymru’n chwarae
mae angen tynhau’r holl reolau,
a chael ambell saib
i’r rhai meddw gaib
i reibio y bar a’r toiledau.

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): StΕµr

Tir Iarll

Y Fam Ddaear wrthom ni, ei phlant.
Gaeaf 2021

Clywch, fy mhlantos agos i,
nos da daer sy’n fy stori,
bu hytrach yn rhy betrus
fy nwrdio heb bwyntio bys,
fy siarsio’n ddim digon dwys,
yn awgrymog or-amwys -
a mwy mae’n rhy hwyr i mi,
i ni gyd, eich ail-godi.
Os clywsoch fy sgrech echnos
ei dal hi mewn ffoto dlos
a wnaethoch, ’run peth neithiwr ...
‘mond dwy storm – a dim ond stΕµr’.

Mererid Hopwood 9.5

Beirdd Myrddin

Tref fechan arfordirol ym Mae Caerfyrddin oedd San Ishmael cyn i lefel y môr godi o’r G14 ymlaen a’i boddi. Erbyn heddiw mae’r dref wedi diflannu bron yn llwyr a bu archaelogwyr yn archwilio rhan fechan o’r safle yn ddiweddar.

Archaeolegydd yn San Ishmael
Am oriau ar lan moryd
y mae hwn rhwng meini mud,
troi‘i drywel i’r tawelwch
a rhoi llaw yn nhwrw’r llwch
ar y traeth lle daeth y don
i dafoli’r adfeilion.

Mae wrthi yn cyfri cur
hanesion dan bren mesur,
berfa lwyd sy’ lle bu’r floedd
yn ufudd drwy’r canrifoedd,
â’i bolyn a’r labelau
trais y dΕµr sy’n ein tristáu.

Geraint Roberts 9

5 Pennill ymson athro barddol neu athrawes farddol

Tir Iarll

Ers union dri deg mlynedd
Dwi wedi dysgu’r rhain,
Mae’r Lusg yn dod yn weddol,
Dan ni rwan ar y Sain.
Ddechreuwn ni’r Draws mewn degawd,
Ac wedyn at y Groes,
Mae’n dda bod gen i ’fynedd…
Bydd hyn yn cymryd oes.

Tudur Dylan Jones 9

Beirdd Myrddin

Tudur Dylan Jones
Mi rwyf mewn cyfyng gyngor,
‘sdim ennill yn ôl rhai;
os colli wna’r disgyblion,
yr athro gaiff y bai.

Garmon Dyfri 9

Cynigion ychwanegol

Mi dreuliais lawer oriau
Yn dysgu’r slej am bethau,
A nawr mewn talwrn fe yw’r sbarc
Geith farc yn fwy na finnau.
Dysgais y cynganeddion
i sawl un jysd fel Garmon,
a dyna'n wir y rheswm pam
mai'i dasg yw'r pennill ymson.

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Gwefru

Tir Iarll

Dros y ddaear, a thros eraill, dwi’n hoffi gwneud fy rhan,
Mae fy ngwefrwr holl-gludadwy wrth fy ochr ymhob man.

Mae ganddo banel solar, a llafnau sy’n troi rownd
A thwtsh o W. Dy. Fforti rhag i’r cogiau fynd yn sownd.

Ar lan y môr, mae’r gwefrwr yn llenwi fel y diawl
Wrth gael ei roi wrth angor yn y tonnau ym Mhorthcawl.

Dwi’n gwefru’r ffôn a’r oriawr a batris fesul cant,
Ac yn gwefru’r lamp sy gen i i ddarllen ‘Cymru’r Plant’.

Dwi’n gwefru fy Nhoyota yn gyfan gyda hwn,
A phe bai gen i’r amser, mi wefrwn y byd yn grwn.

Ond mae amser i bob gorchwyl, ac mae weiren i bob dim,
Ac felly, toriad trydan, nid yw hynny’n ofid im.

Yr unig broblem sgen i, pan af o gwm i gwm,
Mae ’mreichiau’n mynd i frifo, mae’r bocs yn pwyso’n drwm.

Mae gwefru’n waith llafurus, ru’n fath â sgwennu cân,
Mae’r corff yn llwyr ddiffygio, a minnau’n blino’n lân.

Cyn i’m golau i ddiflannu, cyn i bethau fynd yn fwll,
Mi wefrwn i fy hunan...
pe gallwn ffindio’r twll.

Tudur Dylan Jones 9

Beirdd Myrddin

Wi’n un am gadjets letrig, ma’ nhw yma yn eu trwch
fel chwech o hwfyrs newydd sydd jysd yn casglu llwch.

Fe brynais brydydd trydan a hwnnw’n un ail-law
gan foi o Bontyberem odd wedi’i adel yn y glaw.

Gwell na Tudur Halogen, lot gwell na Myrddin amp
oedd y bardd bach statig â’i draws fantach braidd yn damp.

Fe weithodd hwn yn wyrthiol gan greu’r holl gerddi gwych
a’n gyrrodd ni i’r ffeinal, a’n hawen yn un sych.

Ond ‘leni pan es ati i danio’r peiriant hoff
ni chefais sill ohono, ei allu oedd yn gloff.

Rhos odliadur newydd i festyn ar ei oes,
ailweirio ei brydyddiaeth, rhag ofn bod cyswllt croes.

Newidiais ei thesawrws a hynny yn ddi-ffael
- rhagorol yw thesawrws, sdim arall air i’w gael.

Fe’i gwefrais ac fe’i gwefrais gan rwto’i ffiws â mwsg,
ond nid oedd cyffrad iddo, fy mardd ydoedd yng nghwsg.

Fy nghyfaill AC/DC oedd bellach yn ddi-rym,
ciliodd ei gilowotiau a ‘ngadael i heb ddim

i’w wneud ond ymwroli, wynebu’r golled flin
a heno rhwng fy nagrau, sgrifennais hon fy hun.

Aled Evans 9.5

7 Ateb llinell ar y pryd - Es i weld y nyrs nos Iau

Tir Iarll

Es i weld y nyrs nos Iau
Iach ydwyf o’i brechiadau

Aneirin Karadog

Beirdd Myrddin

Rôl aros am wythnosau,
es i weld y nyrs nos Iau.

Garmon Dyfri 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Golchi

Tir Iarll

Amser bath

Roedd y dΕµr yn rhy dwym iddo, druan,
yn rhy frawychus o ddwfn, er i’w Dad
drio’i orau i gonsurio’r lle yn gaffi, yn salon,
yn llong fôr-ladron. Ond wnaeth dim byd
mo’r tric, hyd yn oed wrth i’r twb newid siâp
dan glic ei fysedd, arhosodd yr ofn fel cwmwl
o’i fewn. Clic. Ac mae’r llun wedi’i ddymchwel,
y teils wedi gwawrio o lwyd i las, a hen ofnau
wedi disgyn fel dannedd o’i geg. Amser bath,
meddai’n dyner, wrth gonsurio’r lle
yn gaffi, yn salon, yn llong fôr-ladron...
a chyn tynnu dillad yr henwr oddi arno,
fe’i harweiniodd, yn dadol, tua’r twb.

Gwynfor Dafydd 10

Beirdd Myrddin

Mae dΕµr y bath yn oeri
a’r sbwng Peppa pinc
yn arnofio’n ufudd o lonydd.

Yn ei chrud, mae babi deufis, diddos
yn chwythu swigod.

Mae ’na dywel ar dasg i’w hanwylo,
a’r eli croen tyner
yn y twba’n disgwyl.

Uwchben ’run fach
mae’n swatio’n orofalus
ac yn damnio’r ochenaid
sy’n diengyd dan y cwrlid,

Mae’n mwytho’r bochau bychain
gan gropian dros y landing
rhag i sΕµn ei chleisiau’n stwrian
atsain ei ffordd lawr stâr;
ac yno yn ei chwrcwd, yn ei hofn,
aiff i’r dΕµr heb dynnu’r plwg.

Lowri Lloyd 9.5

9 Englyn: Cerdyn Adnabod


Tir Iarll

Os yw’r rhif cod a nodir yno’n iawn,
Y faner anghywir
Wela i drwy’r plastig clir -
Nid â hon y’m hadwaenir.

Emyr Davies 9.5

Beirdd Myrddin

Mewn waled mae manyleb – o’i hestyn
ar blastig ddaw’n ateb,
rwyf innau’n rhif a wyneb
hyd yn oed os ydwy’n neb.

Geraint Roberts 9.5

Cynigion ychwanegol

Os Geraint sydd ond sgwaryn – a rhesi
o ddryswch ar frethyn
wedi eu gwau mewn du a gwyn;
heb y barcód mae’n borcyn.

Cerdyn Adnabod Ffoadur
O’r lli dan olau’r lleuad y daw rhai
ar drywydd ein cariad,
a’u hel hwy a wnawn o’r wlad
â’n Rhufain o gyfrifiad.

CYFANSWM MARCIAU

TIR IARLL 72.5

BEIRDD MYRDDIN 73