Cerddi Rownd 1
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Pennill yn rhoi sglein gadarnhaol ar un o benawdau’r newyddion
Y Diwc
‘Prince Andrew settles’
Dwi’n cofio beth ddywedais,
mod i ddim yn cofio cystal.
Nid euog wyf o gwbwl
serch ‘mod i’n talu ‘iawndal’.
Martin Huws 8.5
Dwy Ochr i’r Bont
‘Pum ffordd y gall y rhyfel yn Wcrain ddarfod’
Fel cae o wenith dan awyr las,
a geiriau’n codi’n bili-palod
cyn glanio’n dawel ar ddwylo gwynion,
gleision, cochion, a swatio -
gobaith glöyn-byw.
Gareth Evans-Jones 9
2 Cwpled caeth yn cynnwys yn cynnwys unrhyw swm o arian
Y Diwc
Crypto sy’n bwydo ein byd,
Yfwn o Bitcoin hefyd.
Dewi Rhisiart 8.5
Dwy Ochr i’r Bont
Babe, cym fy mreib, cym fy mhres.
Ceri Wyn, crëa hanes.
Osian Wyn Owen 8.5
Cynigion ychwanegol
Disgyn haf o’n ffurfafen
Os daw hynt y bunt i ben!
Y llwm sy’n rhoi punt yn llon
er marwaidd ydyw’r mawrion.
Ar ffi bach y Bîb mae'r bai,
dyma werth dwy a dimai.
Churchill ar ffeifar? Silly!
Byddai Nain yn well gen i.
Rhyw dîm ceiniog a dime
ydi Y Diwc, onidê?
Nid yw’r Diwc yn werth niwc*. Na.
Yn chwim, Talyrnwch o’ma.
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Yn sydyn, dechreuais i grynu’
Y Diwc
Gwin cymun oedd wedi dibennu!
Rhois jeli mewn dΕµr a’i gymysgu.
Ond yn ystod yr oedfa
Troes yn oer, oer fel gaea’;
Yn sydyn, dechreuais i grynu.
Gwilym Wyn Williams 8.5
Dwy Ochr i’r Bont
Yn sydyn dechreuais i grynu,
a neges NatWest yn fy synnu!
Mae’n ddipyn o greim
gan Amazon Preim,
y sothach yr ydw i’n brynu!
Bethan Eirian 8
Cynigion ychwanegol
Yn sydyn dechreuais i grynu,
Y fi oedd y nesaf i ganu
Ond beth sydd yn syndod
Ym mhob un eisteddfod
Rwy’ wastod ar ôl ‘Pavarotti’.
Dychwelais, nid oedd hi yn gwenu.
Roedd Mam wedi bod yn cymhennu
ond roedd hen gylchgrawn mochedd
tu fewn Canllaw i’r Senedd.
Yn sydyn, dechreuais i grynu..
Mi wnes i un tro benderfynu
Fy mod am roi’r gorau i brynu
coffi, bisgedi,
cocên a siocledi,
Yn sydyn dechreuais i grynu
.Pris bwyd (A’r oel sy’n fy nghnesu)
A thanwyd fy nghar sy’n cynyddu.
Y letric (a’r gas)
Bil ffôn (a’r Shiraz!)
Yn sydyn, dechreuais i grynu..
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gweithredu
Y Diwc
(Prison Letters: John Jenkins)
Y groes Geltaidd uwchben Gelligaer (Gelligêr i’r brodorion)
yn ddihangfa ac yn ysbrydoliaeth i’w waith celf
Yn ei gell ac yno’n gaeth,
du yw’r awr y daw’r hiraeth:
y co'n gwrando gerwinder
y gwynt ar waun Gelligaer,
a'i gri’n arwain at y groes
huda’i enaid hyd einioes.
Wrth liwio’i gredo a’r groes
hynafol â’i baent cyfoes
clywai ddolef hen grefydd
a ffordd y werin at ffydd;
rhith wna iddo hiraethu
hyd y wawr drwy’r oriau du.
John Lloyd 8.5
Dwy Ochr i’r Bont
O ddrws i ddrws, mynd sydd raid
i rannu â thrueiniaid
y stad dy sgwrs gynnes di’n
eiriau rhad o ddirieidi.
Nes y daeth at ddrws ei dΕ·
hwn a’i druth lond ei drothwy
yn hanner gwên, hanner gwae,
yn wyneb memrwn tenau.
Ond ar ôl yr etholiad,
wedi i’r storm droi o’r stad,
rhoir wyneb y gΕµr yno
drachefn ar fainc gefn y co’.
Osian Wyn Owen 9
5 Pennill ymson wrth wagio’r biniau
Y Diwc
Roedd llwch ymadawedig
mewn jar ar waelod bin.
Cysyllton ni â’r teulu.
Nid damwain ydoedd hyn.
Martin Huws 8
Dwy Ochr i’r Bont
Elsie Eldridge
Fe’u codaf yn dawel heb iddo sylwi
a smwddio’r geiriau a grensiai bob dydd,
eu cadw’n ddirgel nes iddo oeri
a gweled rhin y penillion rhydd.
Gareth Evans-Jones 8.5
Cynigion ychwanegol
Ai ei losgi neu ei balu
I’r ddaear fydd ei ffawd?
Gwell fyth, mae gen i syniad,
‘Wna’i ei roi ym mΕµt fy mrawd.
Yr oedd y pla yn slaco:
fe wagien ni ar ras
ond sefes i fel delw
pan neidiodd llygod mas.
Y limrig, y gân, a’r englynion.
Y cywydd, myn diân, a’r penillion!
Fe’u rhown yn y bin,
naw wfft, Ceri Wyn,
dymunwn ar frys droi yn Saeson.
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Fy Hoff Ddilledyn
Y Diwc
Nid yw nag Aquascutum,
Na Daks, na Jaegar chwaith
I’m gwisgo yn drwsiadus
At drin y dydd a’i waith.
I mi, hen grys-t bratiog
Fel balm ‘rôl gwres y dydd
A rydd i’m berffaith lonydd
I fynd a dod yn rhydd.
Does dim o’r lliwiau llachar
Oedd arno oesau gynt,
Fe gannwyd rheiny’n berffaith
Gan haul a glaw a gwynt.
Mae tyllau dan ei gesail
Ac ôl fy llaw yn glir
Ar fol y crys, a’i odrau
Ar ddechrau datod wir.
Ond yn ei goflaid gynnes,
Er gwallau mawr eu rhi,
Fe wn yn nwfn fy nghalon
Fod o’n fy nabod i.
Gwilym Wyn Williams 8.5
Dwy Ochr i’r Bont
Fy Ngwisg Las
Yn ôl ym Mawrth dwy fil dau ddeg, cyn dechrau'r cyfnod clo,
Mi brynais ffrog o 'H&M'. Wel, r'on i'n ddel o'n ngho'.
Ffrog laes liw'r awyr pan mae'n braf ar ddiwrnod hafaidd, hyfryd
Sy'n ymdebygu i'r wisg las ond 'chydig bach fwy 'fitted'.
Roedd cynllun mawr i wisgo'r ffrog i'r 'Steddfod yn Nhregaron,
I Dafwyl ac i'r Sesiwn Fawr i greu llond gwlad o atgofion.
Ond buan iawn bu tro ar fyd a'r planiau'n cael eu canslo,
A'r neges ddaeth yn hanner clir o weflau dryslyd Bo-Jo.
Tair wythnos drodd yn fisoedd hir, pob dydd yn mynd fwy diflas
A minnau'n treulio mwy a mwy o amser mewn pyjamas.
Doedd dim i'w wneud i helpu'r dydd fynd heibio yn gyflymach
Ond gwylio Netflix, yfed gwin a bwyta llwyth o sothach.
Drwy ryfedd wyrth mae'r cyfyngiadau bellach wedi llacio.
Tregaron, Tafwyl, Sesiwn Fawr - eleni, dwi'n mynd yno.
Ond erbyn hyn dwi'n poeni mod i rhyw ddau haf yn lletach
A'r ffrog las laes liw'r awyr braf yn llawer, llawer tynnach.
Dwi ddim am brynu dillad mwy, dwi angen pob un geiniog
'Nenwedig pan fo peint Bar Gwyrdd yn costio'n ddrud gynddeiriog.
Ac felly, at yr Orsedd af yn gynnar fore Sadwrn
I fenthyg gwisg, un las, laes, lac i ffeinal fawr y Talwrn.
Anest Bryn 9
7 Ateb llinell ar y pryd :
Y Diwc
Y baedd a ddaeth â byddin
Un sgwâr o wae yw fy sgrin.
Dewi Rhisiart 0.5
Dwy Ochr i’r Bont
Ysbaid o fod yn hasbin
Un sgwâr o wae yw fy sgrîn.
Osian Wyn Owen
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Pe bai neu Pe na bai
Y Diwc
Pe na bai
Carreg ar bob cornel o’r lliain twt,
Y Thermos yn y fasged gyda’r rholyn papur i ddal plisg yr wyau,
Brechdanau ciwcymbyr tenau, tenau
A chacen Marks.
Gorweddian.
Heli ar fy ngwefus, a’r tywod fel pupur rhwng bysedd fy nhraed.
Sgrechian y plant wrth i’r gwylanod lafoerio uwchben,
A haf yn llond yr awyr.
Roedd pob dantaith o’n blaen
A godrau disglair y cwmwl yn mynd a dod fel sglein y llestri swper.
Pob tamaid yn tagu
Pan wenai wrth ymestyn at bopeth,
A’r haul yn goch.
Mae’r graean yn rhygnu a’r awel yn fain;
Troi
A dilyn ôl fy nhraed ar y cysgod hir.
Gwilym Wyn Williams 9
Dwy Ochr i’r Bont
Pe bai gen i’r iaith, mi rown i hi i ti,
ei sibrwd i ddechrau
â’i synau hi’n syrthio fel plu dros dy glustiau:
ei lapio hi mewn geiriau gwneud
a’i suo mewn penillion cyfarwydd:
ei chuddio – heb drio – dan hymian hwiangerddi
nes iddi liwio dy freuddwydion
a threiddio i dy chwarae a dy chwerthin,
nes i tithau ei pherchnogi yn dy straeon dy hun.
Mi gait ti hi, heb ei cheisio,
gan y pridd a’r mynyddoedd, ie, yr ysgol a’r arwyddion ffordd,
ond gen i yn gyntaf. Pe bai gen i hi i’w rhoi.
Hithau’n datgloi byd o dy gylch,
llawn hanes a hen gerddi, yn emynau mewn gêm rygbi
ac yn floeddio canu yn maes b.
Pe bai ond gen i’r geiriau, y stôr o idiomau,
y gystrawen a’r berfau a’r llyfrgell o chwedlau,
mi rown i nhw i gyd i ti.
Manon Wynn Davies 9
9 Englyn: Cloc
Y Diwc
Cloc (Aber-fan)
Toc fe rewyd y tician - yn iasoer
daeth nos yn rhy fuan.
A braw fydd yn Aber-fan
o gofio ysgol gyfan.
Martin Huws 8
Dwy Ochr i’r Bont
Cloc, Aberfan.
Awr ar awr fel machlud triw, trwy bob oes
troi’r bysedd fu’n edliw
ond mae’r bysedd stond heddiw
fel ei byd, i gyd ar sgiw.
Bethan Eirian yn darllen gwaith Osian Wyn Owen 8.5