Cerddi Rownd yr Wyth Olaf
1 Trydargerdd: Y Cyngor Diweddaraf
Y Cŵps
Gwna fasg fel sydd gennyf i - o hen deits,
A llun Dom, os gelli.
Gyda’i wep, yn saff gei di
Fyned i’r fan a fynni.
Iwan Bryn James 9
Dros yr Aber
Yng ngardd teulu'r wejen 2 fetr i ffwrdd
anela'n ofalus o dan y bwrdd
rhag iti dwtsh dy fam yng nghyfraith:
y mae hynny'n erbyn y gyfraith.
Iwan Rhys 8.5
Cynigion Ychwanegol
Mae canu'n beryg bywyd
Yn lledu'r pla yn chwim, *
Mewn côr neu yn y gawod
Ar y radio'n waeth na dim.
Baniwch ganu, nawr ar frys,
Nenwedig ganu Iwan Rhys.
Cadw pellter ddeil yn rheol,
Golchi dwylo, cadw’n lleol,
Ond caiff claf sy’n gweled dwbwl
Ddreifio ‘mhell heb fynd i drwbwl.
Rhegai’r bladres acen Brum:
“Boris said that we could come.”
Ar y clogwyn oedden ni.
Trwy ryw anffawd baglodd hi.
@Daniel Kawczynski
Hei Daniel, y cwd o wenwyn, un gair
i gall (gan foi addfwyn):
yn ein gwlad fach, â’th achwyn
twp, trahaus, paid hwpo trwyn.
Agorwch ysgolion. Sori eu cau.
’Sdim angen masgia. Sori oes mae.
Dri mis yn hwyr ynyswch ’rôl ffleit.
Neb i ymgynnull. Mewn sŵ mae’n ôlreit.
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘cip’
Y Cŵps
Daw inni gip, dyna i gyd,
Dros riniog drws yr ennyd.
Geraint Williams (Gwaith Huw Meirion Edwards) 9
Dros yr Aber
Geiriau doeth pob creigiwr da:
paid rhoi cip tua’r copa.
Carwyn Eckley 9.5
Cynigon ychwanegol
Mentrwn gip bob yn dipyn
Yn segur wâr ar wae’r sgrin.
Dwi’n ffond iawn o’r cylchgrawn Cip,
Hustler (a Jamie Heaslip).
Er y cur, cawn gip o’r cwm
Yn nhawelwch erstalwm.
Gwelodd Wil, ger Llanilar,
Un cip o Cummings mewn car.
Cip o bell yw copa byw,
eiliad hud o weld ydyw.
Fesul cip, bob yn dipyn,
gelli weld Seisnigo LlÅ·n.
Fesul cip, bob yn dipyn,
cei di weld mai crwc yw dyn.
Ces gip ar raglen Tipit
brynhawn ddoe. Wel am sioe shit.
Ym môn clais fe gefais gip
ar blacard – rwbel UKIP.
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ces rybudd gan aelod o’r heddlu...’
Y Cŵps
Rôl neidio ar gerflun a’i falu
A ffrwydro sawl pont ar ffin Cymru,
Ag andros o wên
A llais hynod glên,
Ces rybudd gan aelod o’r heddlu.
Iwan Bryn James 8
Dros yr Aber
Ces rybudd gan aelod o'r heddlu
Bod rhaid imi hunanynysu.
Atebais "Sut, myn?!
Yng ngeiriau John Donne
'No man is an island' a ballu.”
Iwan Rhys 8.5
Cynigion ychwanegol
Ces rybudd gan aelod o’r heddli
Gan hyni rwy’n barod i rani,
Fe chwalodd fy mhen
Ma hi yn ‘Amen’,
Mae dybli yr ‘n’ wedi beni.
Ces rybudd gan aelod o’r heddlu
i gadw i’r drefn, i ddistewi.
Roedd gwadn ei droed,
fel buodd erioed,
yn f’atal, George Floyd, rhag anadlu.
Ces rybudd gan aelod o'r heddlu
Fy mod heibio'i gamera'n goryrru.
Refyrsio'r o'n innau
Ac felly gwnes ddadlau
Mai minws pumdeg fyddai hynny.
Ar ganol y sgwâr yn Llanboidy
Agorais fy nhrowsus a rhechu
Cyn gweiddi "Un dydd,
Fe fydd Cymru'n rhydd!"
Ces rybudd gan aelod o'r heddlu.
4 Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Fy mhedair wal yw fy myd i, er hyn’
Y Cŵps
Fy mhedair wal yw fy myd i, er hyn,
Fe wn i unwaith i’r trai fy nhynnu’n
Ôl i’r fynwent lle rhois law ar fonyn,
A’r môr yn esgor a’r meirw’n esgyn
O’u beddau i’r golau gwyn, – nes deffro
Holl glychau Gwyddno i udo wedyn.
Huw Meirion Edwards 9.5
Dros yr Aber
Fy mhedair wal yw fy myd i. Er hyn,
er treulio’r haf rownd ’tÅ· yn gwarafun
a finnau heno ar ben fy nhennyn,
lond fy sgrin, amser gwin, mae wardiau gwyn
a gwÅ·r â’u heirch ger eu herchwyn cyn pryd.
Daw’r haul o hyd drwy ’mhedair wal wedyn.
Rhys Iorwerth 9.5
Cynigon ychwanegol
Ym mhoen y waliau mae pob manylyn,
Pob awr, pob moment o’m bywyd plentyn;
Y graith fu’n agor, fu’n rhwygo’r hogyn
Yn nhwll dioddef, o hollti deuddyn.
Os aeth pob pared wedyn mor ddi-ddal,
Fy mhedair wal yw fy myd i, er hyn.
5 Pennill telyn o fawl neu ddychan: Dylanwadwyr
Y Cŵps
(Ymgyrchwyr Black Lives Matter)
A'r dydd yn drwm ar ana'l dyn,
Yn mygu hen ochenaid,
Fe gosodd hen, hen furmur blin
Hen hwyliau llac eu henaid,
A chodi'n chwip o awel fain
Yn wynt, yn gorwynt berw,
A'u sgrech fel bollt, yn iau, a'i hawch
Wrth gyff yr hen, hen dderw.
Arwel Rocet Jones 9
Dros yr Aber
Y mae'n wir y gall talyrnwyr
Ddylanwadu ar wrandawyr
Ond y dylanwadwyr penna'
Yw y rheini sy’n meuryna.
Marged Tudur 8.5
Cynigion ychwanegol
Pan fydd y ffŵl yn cychwyn
dy gorddi a dy ddychryn,
edrycha am y ddirgel law
sy’n distaw dynnu’r cortyn.GW
[i’w ganu ar dôn Ar Lan y Môr]
Ar Instagram mae lluniau cathod,
Ar Instagram mae prydau hynod,
Ar Instagram mae rhai hyderus
Yn gwneud bywoliaeth, yn anffodus.
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Fy Hoff Ap
Y Cŵps
Erioed bu Sais pwysig yn ‘jolly fine chap,’
Yng Nghymru, doi’r statws, o arddel yr ‘ap’.
Ap Cynan, ap Gruffudd, ap Gwilym, ap Siôn,
Cryn fforest ohonynt o Fynwy i Fôn.
Ac enw reit od fel Dafydd ap Gwilcws,*
Wnai i’r Saeson ddyfalu fod yma rhyw feirws.
Roedd yr apiau fe dybient yn dyrfa beryglus-
Aed ati i’w difa â chenfaint o Jonesus.
Fe ledodd y Jonesiaid fel chwyn drwy’r gymdogaeth
Gan erlid pob ‘ap’ bron yn llwyr o’u tiriogaeth.
A mae nhw ‘yma o hyd’ yn boen ar y frest
Fel Rocet, a’r Meuryn a brodyr Parc Nest.
Ond bu’r apiaid a’u bryd ar ail gipio’r Winllan,
A chafwyd arloeswr yn Emrys ap Iwan.
Daeth eraill i’r rhengoedd a’u bryd ar wrthryfel,
Fel Mabon ap Gwynfor ac Elin ap Hywel
A bellach mae ganddynt arweinwyr tra nerthol -
Ein Hybarch Archdderwydd a’n Bardd Cenedlaethol.
Rwyn hoff iawn o’r ddau, ac rwyn dweud ar fy enaid,
Bydd angen y ddeuddyn i orchfygu’r Jonesiaid.
*Dafydd Johnston, Llên yr Uchelwyr, tudalen 268
Dafydd Morgan Lewis 9
Dros yr Aber
Mae gen i gasgliad hynod o apiau ar fy llechen
A bron bob un ohonynt i mi sy’n werth eu halen.
Os bydd fy mad pysgota yn sownd ar draeth, rwy’n siŵr
O droi at ap bach clyfar all wthio’r cwch i’r dŵr.
Pan fydd rhyw wleidydd surbwch yn gwneud dim byd ond cwyno
Mae gen i ap i dynnu sawl blewyn bach o’i drwyn o.
Mae gollwng hobi diflas yn anodd ambell dro
Ond mae ’na ap i’m helpu i roi’r ffidil yn y to.
Wrth baentio llun o’r awyr ond heb gael mynd tu fas
Mae ap a wnaiff fy annog i wneud fy ngorau glas.
Wrth ddewis pa deisennau i’w pobi, pan rwy’n brysur
Mae dau ap i’w defnyddio: un i bwyso, un i fesur.
Os nad wy’n siŵr pa sanau i’w gwau, ai’r rhain neu’r lleill,
Rwy’n troi at ap i ddewis pa rai fydd ar y gweill.
Pan oedd fy musnes sosejys bron iawn â dod i stop
Roedd gen i ap i atal yr hwch rhag mynd drwy’r siop.
(Ond ap rhy araf wedyn yw’r un, os ydw i isho,
All wneud fy mhais i godi ar ôl ’mi orffen pisho.)
Ac er mor dda yw’r apiau, mae fy ffefryn, rwyf fi’n dal,
Yn rhoi idiom i gloi brawddeg a chael y maen i’r wal.
Iwan Rhys 9
7. Ateb llinell ar y pryd
Y Cŵps
Yn fy nghymun â’r hunan
Yr wy’n ymweld â’r un man
Dafydd John Pritchard 0.5
Dros yr Aber
Yr wy’n ymweld â’r un man
f’adref waeth beth fy oedran
Carwyn Eckley
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Enfys
Y Cŵps
(ar ôl gwrando ar gerddoriaeth Arvo Pärt)
Er ceisio cydio ynddi, pob un tro,
ni allaf; ni allaf deimlo’r gawod liwiau’n
diferu rhwng fy mysedd, chwaith.
Mae iddi ei chynghanedd, saith gwedd,
saith lliw’n goferu’n hardd wrth ddatrys braw
y cordiau; mae iddi hyn i gyd.
Mae iddi fwa ei chymalau llyfnion a’r cyrion
pizzicato’n syrthio dros yr erchwyn. Ond celwydd
ydi hyn i gyd, nid oes dim o hyn yn hollol wir;
gwirionedd ansylweddol, ar y gorau.
Ond yng ngherddoriaeth Arvo Pärt a’i nodau
prin yn haenau tenau i gyd, yn y fan lle mae
ofn yn gysur a dirgelwch yn oleuni, yn fanno
nid â nerf blaen bys mae dyn yn teimlo.
Yn fanno, daw’r cyfan hyn yn ddiriaeth i’n taro.
Amryw yw talentau dyn a’i holl wendidau o,
amryw ac anghyson; ac fe safaf i fan hyn
rhwng gwres yr haul a’r diferion glaw.
Dafydd John Pritchard 10
Dros yr Aber
‘Yli’ meddai ac mae ’mabi gwyn
yn denig o glwt yr ardd
gan godi gwrychyn y gwylanod
a hanner baglu dros bêl wedi byrstio
ym mhen draw’r cae.
Ond dal i redeg mae o
â’i fysedd yn ymestyn i’r awyr
am gynffon y rubanau.
Mae’n rhoi naid am y clawdd
cyn diflannu i’r lôn bost
a’r pridd yn sownd yn ei sawdl.
Dwi’n cau fy llygaid.
Marged Tudur 10
9 Englyn: Ystafell Ddosbarth
Y Cŵps
Hollti mae’r deri ond erys – y nyth,
A thrwy’r noethwynt heintus
Daw rhyw drydar direidus
O lam i lam – ‘Yma, Miss.’
Huw Meirion Edwards 9.5
Dros yr Aber
Yng ngwers hegar y chwarae, y tu hwnt
i waith a rheolau,
y ddysg na cheir ar ddesgiau
yn nhop yr iard sy’n parhau.
Carwyn Eckley 9.5
Cynigion ychwnegol
(Ffotograff blwyddyn ysgol)
A dyma ni. Ond mae ’na un a’i wên
a’i enw, yn sydyn,
yn rhoi croen gŵydd i’n blwyddyn
o’i wylio’n llithro o’r llun.