Cerddi Rownd 2
1 Trydargerdd: Hysbysiad o Newid Trefniadau
Llewod Cochion
Paid dod i’r Llew Coch ar nos Iau,
Mae dryse y lle wedi cau.
Paid trio linc Skype,
Mae o’n lol botes maip,
Jysd sgwenna rhyw bennill neu ddau.
Arwyn Groe 8
Gwylliaid
Ni fentra i eto i garu Gwen
efallai tan yr Hydre,
cans ni thry’r wraig i’r Llyfrgell mwy -
mae nawr yn gweithio gartre.
Alun Cefne 8
Cynigion Ychwanegol
Paid dod i'r siop mae wedi cau,
Mae pawb yn gorfod ymbellháu,
Dosbarthwn bob dydd Llun ac Iau,
Plîs tecstia Dylan312.
Neges at Ifan Bryn Du
Be rof i lonni'r brefu - y wasod
Sydd eisiau dawelu,
Agoriad, mae'n rhaid gyrru
Am sylw dy darw du.
O Nel a Fflos a Swsi
Mae’n ofid calon imi
I ddod i’ch gweld ni allaf wir
Mae’n glir na fydd drygioni.
Bu'n rhaid i'r Llew Coch gau ei dryse,
Bydd cyfnod go sobor i'r tîme,
O'i wâl Ceri Wyn
Gaiff joio ei jin,
Fe sylwch ar hyn yn y marcie.
‘Science progresses one funeral at a time’
Os dysgais i mai du yw du
Fe ganfu’r mab nad du ydyw,
Eglura ef mai gwyn yw’r du.
Ond tra bwyf byw, fy nu ydyw.
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘ond’
Llewod Cochion
Dim ond un gwybedyn bach
Dyfodd yn glefyd afiach.
Gwerfyl Price 8
Gwylliaid
Mae cred gan iob i’w dwedyd,
ond iob sy’n ei dweud o hyd.
Mari Lisa 8.5
Cynigion Ychwanegol
Ar ddiwrnod angladd Richard Tudor
Dim ond tawel ffarwelio
Â’r un fu’n gynhaliaeth bro.
Ger dyfnder dŵr Tryweryn
Sefais, ond syllais yn syn.
Nid diet iach ond detol
Yw'r ateb, a daw neb 'nôl.
Nid Elerydd ond Lawrie
Yw'n archdderwydd newydd ni.
Os yw dy haf ond ’stafell,
o bost i bost ei di’n bell.
Mae’n ddefod mewn ‘Steddfode
seinio’r “Ond”, yn llond pob lle.
Y rheol wrth hel straeon,
Daw y dweud ar ôl dweud "ond".
Ond ei byd i gyd sy’n gau
yn ddiawl o’i hen feddyliau.
Cwrw mawr sy'n creu meuryn,
ond nid yw yn newid dyn.
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Rhaid dweud mod i’n dechrau cael digon’
Llewod Cochion
Rwy’n seiclo bob bore yn gyson
I’r Foel, Llanbrynmair neu Bont Cleifion
A hyn fel ryw bry’
Heb symud o’r tÅ·
Rhaid dweud mod i’n dechrau cael digon
Huw Jones 8.5
Gwylliaid
Rhaid dweud mod i'n dechre cael digon
O siarad bob dydd â'r planhigion,
Fe drefnais un bore
Stomp Rhandir y Llysie,
Ennillwyd y stôl gan y moron.
Rhiain Bebb 8.5
Cynigion Ychwanegol
Rwyf bellach yn ŵr digon gwirion
‘Ròl dechrau ryw hen ddrwg arferion
Sef golchi y llestri
A smwddio fel hobi
Rhaid dweud mod i’n dechrau cael digon
Rhaid dweud mod i’n dechrau cael digon.
Ar gerddi so-so’r Gwyllied Cochion,
Rhaid nôl o’r ddaearen
Yr hen farwn Owen
I grogi y chwech prydydd comon.
Rhaid dweud mod i'n dechre cael digon,
Am syniad dwl - Talwrn y Cochion?
Y Gwylliaid 'den ni
A'r Llewod 'dech chi
Ond yr un yw pob ci a'i gynffon.
Rhaid dweud mod i'n dechrau cael digon
Ar hiwmor limrigau anghyson,
'Di hwn ddim yn ddoniol
Roedd hyn yn fwriadol,
Ond beryg 'i fod o'n un gwirion.
4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ymgynnull
Llewod Cochion
(Cafodd Moise Kean, Eidalwr sy’n chwarae i Everton ei ddal yn cael parti adeg y Gofid Mawr)
 doniau glew o dan glo,
Mintai’n f’appartamento!
Yn doedd wych i ffrindia ddod
 gwin a llwyth o gennod.
Feirws?! Pa ots am ‘fory
Rownd ein tân a ffrindia’n tÅ·?
Wfft i reol meidrolyn,
Dwi’n ddi-ddeud a dwi’n dduw-ddyn.
Drannoeth, â ‘mhen yn d’rannau,
Fy ing i! Unig fy ngwae!
“Twt twt! Mae hi’n ciao i ‘ti
Y lowt!” medd Ancellotti.
Pryderi Jones 9
Gwylliaid Cochion
Am i gannoedd ymgynnull
i rannu'u dweud drwy'r un dull
lledwyd ysgwyddau llydan
ein bro. Mae pawb ar wahân,
yn dangos rhwng eu stingoedd
gwâr maint eu galar ar goedd,
a'u parch tra â'r arch o'r fro
i Aber ei fynd heibio;
Richard a'i deulu'n unig
ddaeth; er inni deimlo'n ddig
i bawb roedd wtrëydd bro'n
demlau ein cydymdeimlo.
Tegwyn Pugh 9
5 Triban beddargraff unrhyw gymeriad o lên gwerin neu hwiangerddi traddodiadol
Llewod Cochion
Fe blesia’r ham yn arw,
A’r bacwn ffein ofnadw,
A gwych y sosejes, ond och!
Mae Jaci Soch ‘di marw.
Arwyn Groe 9
Gwylliaid Cochion
Bonheddwr Mawr o'r Bala
A ddaeth i'w helfa ola'
Boed tali hô i'r bali Wâ
Ha hâ, ha hâ, ha ha-ha.
Rhiain Bebb 8.5
Cynigion Ychwanegol
Bu hon yn ddi-drugaredd
Yn pedlo pydru dannedd,
Fe dagodd ar ei losin du
A dyna fu ei diwedd
Ym Mawddwy mae 'na oerfel
Rôl brwydr ola'r rhyfel -
Y Gwylliaid oll i gyd mewn hedd
Mewn bedd yn dawel, dawel.
Ym Mawddwy, aeth yn chwalfa
Yn rownd y rhyfel cartra'
Y Llewod a fu'n rhuo'n groch -
Mae'r Gwylliaid Coch 'di’i difa!
Yr het , hi aeth yn bygddu,
Mae'r coesau wedi pydru,
'Dyw Jac ddim bellach ar y to -
Mae dan y gro yn cysgu.
Hen geiliog bychan dandi
A’i sŵn a’i goese bandi
Am iddo ganu trwy y nos
Fe’i rho’s mewn ffwrn reit handi
Deryn y Bwn o'r Bana
'Rôl cario'r holl afala
A drengodd, wedi llwyth mor drwm,
A dyna'i fwm bwm ola'.
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Gorchmynion
Llewod Cochion
Ma' rhaid 'mi ufuddhau mae'n siŵr, neu fe gaf stŵr am beidio,
Ond dow mae'n anodd ffeindio'r wmff a chitha wir ddim isho !
Rhaid imi aros yn fy nhÅ·, rhaid peidio colli ‘mynedd,
Rhaid imi fyw ‘fo gwreiddiau gwyn a ffrinj lawr am fy nannedd.
Rhaid imi beidio mynd am heic ar fotobeic na thandem,
Rhaid dysgu byw heb T K Max a CK’s Pontyberem.
Rhaid imi ddysgu iwsio Sŵm a Wots-ap i ffêsteimio,
A pheidio ateb ffôn ‘ny bath rhag ofn 'mi gael fy Sgeipio
Rhaid dysgu byw fel ‘r oes o’r blaen, mae bron fel amser rhyfel -
Daw’r bwyd i gyd i’r tÅ· mewn fan a’r llaeth i’r drws mewn potel !
Ni chaf ymweld â mosg na llan i'm cynnal drwy'r wsnosa,
Mi af i'r ardd i blannu maip a heu a hel syniada'.
Rhaid clirio’r garej i neud lle i mi gael gwneud fy 'yoga'
Sy’n llesol iawn i glirio’n mhen i ddelio â'r sefyllfa.
Rhaid peidio mynd i sioe na gig - mond gwrando ar Côr-ona -
Rhaid bod yn gryf a dal i fynd, - caf nerth o'r dorth banana.
Mae'r dydd yn troi yn nos o hyd a'r pwysau yn cynyddu,
Ond rhaid im, rhaid im gario 'mlaen er mwyn, er mwyn gorchfygu !
* * * * * * * * * *
Bum ynys unig drwy'r 'lock-down', bum ufudd, ni fum stwbwrn,
Bum wraig ddi-hwyl ac ar wahân - nes gorffen cân i'r Talwrn.
Mair Tomos Ifans 9
Gwylliaid Cochion
Erbyn hyn dwi wedi blino, ‘cofia neud a chofia beidio’,
Cadwa bellter rhag cymdogion, hefyd Lyrts a Llewod Cochion. Cofia neud.
Cofia hefyd ymdacluso cyn cyfarfod ffrindiau’n zŵmio,
Heb dy wallt a dannedd gosod fydd ‘na neb yn dy adnabod. Dim ond deud.
Pan aeth Nain ar y Côr-Ona i berfformio ei hoff aria
Ddaeth o Gosi ei Ffan Twti, diolch byth mai rhithiol oedd hi. Mynnai neud.
Ddoe, roedd ci drws nesa’n cwynfan, “plîs oes raid i mi fynd allan?
Rôn i’n arfer bod yn gorgi, erbyn hyn dwi’n fwy o filgi. Blino deud”
Ac i ganol y trybini fe ddaeth i ni Forris mini,
Flwyddyn nesa fydd o’n Eton, prif feithrinfa ‘mess’ y Gleision. S’dim Dad-neud.
Wedi i griw o g’nafon estron fynnu mynd i’r fan a fynnon
Mi gysylltes â’r hen Offa i archebu un o’i gloddia’. Fydd o’n g’neud.
Gyda’r encil, daeth coginio, yr holl seigiau gwych diguro,
Cyn bo hir ar ôl y gwledda rhaid cael deiet fawr yng Ngwalia. Cofiwch neud.
Ond, i chi brydyddion selog, s’dim rhaid colli’r pwysau’n frysiog,
Welith neb eich gor-gordewdra, tan y Talwrn flwyddyn nesa. Nhw sy’n deud.
Ac ôl-nodyn bach i Ceri, cofia fod yn 10 iawn inni,
Os ‘rhen Lewod fydd fuddugol, ac yn haeddu clod anfarwol. Plîs…. paid â deud.
Rhiain Bebb 9.5
7. Ateb Llinell ar y Pryd
Llewod Cochion
Rhyw wên neu sgwrs rhieni
Am un awr dymunwn ni
Pryderi Jones
Gwylliaid Cochion
Am un awr dymunwn ni
ein paned a’ch cwmpeini
Tegwyn Pugh 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Pont
Llewod Cochion
O dan y bont, fis Chwefror,
Yng nghwmni'r llygod mawr,
Yr oedd cefnaint o boblach yn byw;
Mi groeswn drostynt beunydd
Heb ofid yn y byd,
Cans nid oeddent cweit yn blant duw,
O dan y bont fis Ebrill
Neb, ond y llygod mawr;
Cafodd y cefnaint le diddos i fyw
Am nad allwn groesi drostynt
Heb ofni y gofid mawr,
Cans hwy a beryglent blant duw.
Mair Tomos Ifans 9.5
Gwylliaid Cochion
O danaf, Afon Dyfrdwy ar ei rhawd
hudolus, hardd. Nid dyna’r rheswm pam
na allwn symud gewyn, bys na bawd,
heb sôn am allu mentro cymryd cam,
ond sylweddoli, braidd yn hwyr y dydd,
nad oedd ond pwyth o ganllaw, edau harn,
rhyw hem o garreg, ffawd, a gwinedd ffydd
i’m hatal i rhag mynd i’r glas yn sarn.
Roedd pob un arall wedi croesi’r hafn.
A daethost ti, fel ’taet ti’n ddarn o’r plan,
i’m tywys dros yr afon fesul dafn,
gan gymryd arnat feichiau gwneud dy ran,
a’m rhoi ar dir cadarnach ’rochor draw
drwy estyn imi enfys o dy law.
Mari Lisa 9.5
9 Englyn: Cymeradwyaeth
Llewod Cochion
Yn sŵn curo dwylo nos Iau – hen ŵr
sy'n aros ei angau
Yn herio drwy'i baderau
Adain cwsg amdano'n cau.
Gwerfyl Price 9
Gwylliaid Cochion
Daw i arwyr, y dewraf ohonom
a chanwn i’r eithaf
eu clod. Ond rhown glap i’n claf,
clap Boris, yn glap araf.
Gwion Aeron 9
Cynigion Ychwanegol
Yr ooo hen, O! Be rown-i – mor ingol
Mae’r angen amdani,
Fel riwbob heb ei bobi
Heb ei sŵn drwy’r bbc!
Yr Uwch Gynghrair
Glywi di’r rêf bonllefau yn y stand
yn stamp ar dy chwarae,
ac ail filltir cewri’r cae
ar ddwylo’r papur-ddoliau?