Cerddi Rownd 2
1 Trydargerdd: Neges i Godi Calon
Aberhafren
Pan fydd y beirdd yn cuddio
a’r awen yn encilio,
dyddiau’n hesb a’r nos yn fwrn,
mae’r Talwrn ar y radio!
Aron Pritchard 8
Dros yr Aber
Cym’ wyrthiol Ddettol, cym’ ddos o Glorox
i glirio pob achos;
i fyw’n hir, cym’ Flash fin nos,
neu mae wastad Ddomestos.
Rhys Iorwerth 8.5
Cynigion ychwanegol
Dyma lun o’r plantos hapus
yn yr ardd â’i seiniau sawrus,
a phan ddaw y cyfle eto
byddwn yma, galwch heibio.ORH
Y mae enfys am anfon
lliwiau'n drwch i lwch y lôn.LlPR
Rhaid dal i fynd; daw haul ar fryn;
bydd rhyw ddaioni mawr o hyn;
ynysu sy’n ein dwyn ynghyd –
yn ystrydebwyr gorau’r byd!
Wel diolch byth mai gwlad y gân
yn nyddiau’r ffliw yw Cymru lân;
be wnaem ni heb y byd a’i nain
yn boddi’r we â’u lleisiau brain?
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘trin’
Aberhafren
Roedd gíg ar fwrdd y gegin
mor annoeth drannoeth y drin.
Owain Rhys 8.5
Dros yr Aber
Er oerfel mynd drwy’r felin,
haul sy’n aros dros y drin.
Carwyn Eckley 8
Cynigion Ychwanegol
Llesol i’n teulu llaeswallt
yw troi’n gardd yn siop trin gwallt!
Trin peiriant arian parod
â menig yw’n hunig nod!
Am feiddio ceisio trin cath,
herciog yw Wil y cwrcath.
Tewi’r gwir a’i droi yn gau
a wna gŵr all drin geiriau.
Medd Ger â'i sbaner a'i sbecs,
"rwy'n dwlu ar drin daleks".
Ni chei drin dy ewinedd,
Ni chei beint yn nuwch bedd.
Trin i-pad fel dad ydwyf –
dim ond un oed, myn diân, wyf!
3 Limrig yn cynnwys y llinell “Mae rhai yn fy ngalw’n hunanol’
Aberhafren
Mae rhai yn fy ngalw'n hunanol
am fynd, i ni'n dau, i ymorol
cael digon o fîns,
bog rôl a hand creams;
saith gant o bob un sy'n rhesymol!
Llion Pryderi Roberts 8
Dros yr Aber
Mae rhai yn fy ngalw’n hunanol
am ruthro drwy’r ciw at y bog-rol,
ond ar ôl Hot Tikka
o’r Balti House, dyna
sut bydda’ i’n siopa’n arferol.
Marged Tudur 8.5
Cynigion Ychwanegol
Mae rhai yn fy ngalw’n hunanol,
am imi ymgynnull ynghanol
criw Denver â’u hawl
i ddweud ‘Ewch i’r diawl’
i’r sawl sydd yn eithaf synhwyrol.
Mae rhai yn fy ngalw'n hunanol,
Mae rhai yn fy ngalw'n uffernol.
Mae rhai yn fy ngalw
Yn dwp ac yn salw.
On'd ydyn nhw'n griw adeiladol?
“Mae rhai yn fy ngalw’n hunanol
am beidio cau’r meic,” yn ddagreuol
medd Gething drwy splitscreen,
“ond botwm anhydrin
y mute oedd yn effing cyfrifol.”
Mae rhai yn fy ngalw'n hunanol
Am fynd mas am dro yn foreol,
Ac eto mi awn
Bob bore a phnawn
Pe cawn, ond nid dyna yw'r rheol.
4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Seibiant
Aberhafren (AP)
Lle mae galar yn aros,
daw un nyrs at shifft y nos,
daw o’r bron, â’i heno’n haint
a gofid lond ysgyfaint,
wynebau gwan heb eu gwaeth
a’r eiliad sy’n farwolaeth.
Rhaid yw dod o’r oriau du
i’r sbot wrth odre’r ’sbyty,
ffoi o’r ward, o afael ffrwd
o gemegau a mwgwd
at gornel sy’n dawelach,
at fan clud. Am funud fach.
Aron Pritchard 9.5
Dros yr Aber (IRh)
Troi o hyd mewn dyddiau trwm
yn rhy brysur heb reswm
oeddwn i, a'u llenwi'n llwyr
i'r awr olaf yn drylwyr.
Ond dod i stop wnaeth popeth
â bollt.
Er mai braf o beth
rywfodd yw cael arafu,
rhaid taclo’r drôr, twtio'r tÅ·,
ac er deall y gallwn
newid wedi'r gofid, gwn
go iawn y llenwaf â gwaith
fy awr olaf yr eilwaith.
Iwan Rhys 9.5
5 Triban beddargraff unrhyw ffigwr hanesyddol
Aberhafren
Thomas Crapper (dyfeisiwr y tÅ· bach modern)
Gwaredwr ymysgaroedd
trwy’r u-bend yn oes oesoedd
sydd nawr yn flush tu hwnt i’r bedd
ar orsedd yn y nefoedd.
Owain Rhys 9
Dros yr Aber
Beddargraff Margaret Thatcher
Heb arch fe'i taflwyd allan
mewn hen sach lo'n ddiffwdan,
a pheidiwch chi â llenwi'r twll
- caiff gau ei phwll ei hunan.
Iwan Rhys 9.5
Cynigion Ychwanegol
Beddargraff y ‘Ffigwr Hanesyddol’ π
’Rhen π sydd yma'n gorwedd.
Fe ddaeth i ben yn ’diwedd.
Roedd hyn yn syndod mawr i'r rhai
a gredai mewn anfeidredd.
Beddargraff Noa
Er achub buwch a mwnci,
llygoden, llew a bwji
rhag dilyw, rhedodd fath rhy llawn
i'w hun rhyw bnawn, a boddi.
Beddargraff Braich Dde Horatio Nelson
Un fraich sydd yma'n gorwedd,
o'r ysgwydd hyd y bysedd,
cans rhag Horatio roedd am ffoi
am iddo gnoi ei ’winedd.
Beddargraff Gwraig Lot
Gwraig Lot sydd yma'n cysgu.
Fe drodd er mwyn busnesu.
A chafodd, er na wnaeth fyth ddallt,
ei chosbi'n hallt am hynny.
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Golchi Dwylo
Aberhafren (LlPR)
Y mae'n hollbwysig golchi dwylo
ond rhaid cael rhywbeth gwerth ei hymio
sy’n para union ugain eiliad
er mwyn gwaredu unrhyw heintiad.
Ond beth i’w ddatgan? – cwestiwn dyrys;
dechreuais ganu ‘Pen-blwydd Hapus’,
yr oedd hi’n ffitio o ran eiliadau
ond ro’n i’n methu cofio’r geiriau.
Es am arwrgerdd go linellog –
Emmanuel gan Gwil Hiraethog –
datgenais filoedd o linellau
nes roedd fy nwylo’n sych fel crystiau.
Mi drois ar f’union wedi hynny
at Eiriadur Prifysgol Cymru;
fe fûm yn ’molchi am ddiwrnodau
cyn cyrraedd terfyn y byrfoddau.
Ond toc, ewreka, cefais syniad,
y gytgan berffaith at yr heintiad,
ac felly cofiwch, bawb, eleni
fod dwylo glân yn llawn daioni.
Llion Pryderi Roberts 9
Dros yr Aber (RhI)
Ar ôl gwyliau moethus di-gost ar bell ynys, fis Chwefror aeth Boris i Chequers am rest:
roedd Brexit ’di’i sortio (un caled i’n criplo) a rŵan: ymlacio mewn slipars a fest.
Rhyw annwyd o Tsieina a ddeuai ffordd yma, ond chill, meddai ynta, de Pfeffel: “Dim chwys,
’dio ddim yma eto a dwi’n ysgwyd dwylo; rhy ffôl yw gofidio a symud ar frys.”
Ac er cael agenda i bum cwarfod COBRA, fe aeth y papura’ i waelod y bun.
Rhesymodd: “Mae Blighty yn wlad high and mighty, a wir, does dim rhaid-ti ymboeni am hyn.”
Â’i blaid o blaid llymder, mae’n wir nad oedd offer na stociau cyfyngder yn ’sbytai y wlad;
roedd Ewrop ’di cynnig peiriannau a menig a masgs, ond dim peryg! ’Sa hynny yn frad
i Jacob a Dom’nic a’r Francois Saxonic a phob rhyw ffanatic a fôtiodd dros Leave.
P’run bynnag, diystyr oedd barn arbenigwyr byd-eang, a’r rheiny ryw dwtsh yn naïf:
“Dilynwn ym Mhrydain ein llwybr ein hunain”, medd Cummings (sy’n arwain), “mi heintiwn yr haid;
yn ddoeth, anwybyddwn y cyngor ’dderbyniwn. I beth yr ynyswn? Haws lladd nain a taid.”
Ond er rhoi drwy’r felin yr holl ddoctors foreign a’r nyrsys cyffredin, ymledu wnâi’r pla,
ac felly medd Boris: “Ie, lockdown, fel Paris, i bawb yn anffodus – apart from Papâ.”
Mi stopiwyd fan yna y profion Corona (bu glitch bach yn rhwla’ a doedd ’na ddim cit)
cyn inni oll ymbil ar Johnson, ein Churchill, i frwydro’r ffliw-fwystfil yn wrol fel Brit.
Mae’r wlad ar ei hanws, ond wele un bonws, i’n tywys drwy’r feirws mae Priti a Raab
(a werthai mewn ennyd yr holl sector iechyd), a BoJo’n dychwelyd yn frenin a phab...
A’r byd ben i waered, y rhain wnaiff ein harbed, a ddaw ’na fyth niwed o hynny, rwy’n siŵr:
pan ddaw’n adeg beio, maent eisoes ’di ordro – i olchi eu dwylo – fwcedaid o ddŵr.
Rhys Iorwerth 9.5
7. Ateb Llinell ar y pryd
Aberhafren
A oes gwirionedd heddi?
Nid wyf yn dy gredu di
Mari George
Dros yr Aber
Pan fo’r Tori yn crio
Nid wyf yn ei gredu o
Iwan Rhys 2
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Drannoeth
Aberhafren
...a phan agorith e’r drws,
bydd y cwbl yr un peth,
iddo fe
ac aiff yn ôl ar ei sgwter.
Bydd yr haul
yn teimlo fel dillad rhy dynn
ond fe aiff i rwydo’r byd,
at ben y stryd
tan i mi ei alw yn ôl
a bydd yn troi,
a’m gweld yn iawn,
yn gloff gan ryddid,
yn tagu ar yr awyr iach,
yn fach...
..a bydd yn gweld hefyd wrth nesáu,
y golled a dyfodd
dros lwybrau.
Mari George 10
Dros yr Aber
Roedd hi’n ddiwrnod eithriadol o braf –
yn llachar fel tasa’r bore newydd
agor ei lygaid ar ôl deffro’n hwyr.
Gallai dorri’r gwair
neu chwynnu craciau’r patio.
Dylai ddyfrio’r border bach
a ffrwyno’r eiddew cyn iddo sigo’r ffens.
Roedd angen nôl y biniau ailgylchu o’r lôn
a llwytho’r wythnos ar y lein.
Ond allai hi ddim.
Roedd hi mor llonydd â hoel y llaw
ar ddrws gwydr y parlwr.
Marged Tudur 9.5
9 Englyn: Blagur
Aberhafren
Dim ond pinsiad o hadau – a daenais
yn dyner mewn potiau
ac un haf, a mi’n gwanhau,
af i hel fy afalau.
Mari George 9
Dros yr Aber
Yn dair oed, clyw dwrw o hyd – rhyw sgrech
Ar sgrin byth a hefyd;
Â’i wyneb bach at boen byd,
Mae o’n hÅ·n ymhen ennyd.
Carwyn Eckley 9.5
Cynigion Ychwanegol
 hi'n wanwyn o huno, a’i aflwydd
yn cyflym egino,
mae’n cleisiau ar frigau'r fro,
mae’n dolur yma'n deilio.
Uwch y ddinas, mae’n lasach; – a murmur
hafoty’r pryfetach
yn afallon cyfeillach
ddaw â’i waedd i’n dyddiau iach
CYFANSWM MARCIAU
ABERHAFREN 71
DROS YR ABER 73