Main content

Cerddi Rownd 2

1 Trydargerdd: Gwahoddiad i ymuno â grŵp ar lein

Y Glêr

Ni chawsom gwis teuluol
Erioed mewn oes flaenorol,
Ond dewch ar lein nos Sul ar Zoom
Am hwnnw (mae’n orfodol).

Osian Rhys 8

Criw’r Ship

Os ydych wedi blino
Ar ganu a choginio
Dewch atom ni i’n grŵp Whatsapp
I’r rhai sy’n crap am smwddio.

Nici Beech 8

Cynigion ychwanegol

Nid i rownd 3 a’r triawd

A’n braint wrth golli 3 brawd
i’r gad yw’n gwahoddiad gwÅ·r,
i le gwell – Cell y Collwyr.

Mae’r byd go iawn yn afiach.
Nai’m mentro yno bellach.
Ond doed mis Awst, dowch efo fi
i blesio rhithiol Geri.

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘pris’

Y Glêr

Er doethed caeed y cwm,
Y mae pris ymhob rheswm.

Hywel Griffths 9

Criw’r Ship

Mewn un llaw y mae ein lles,
A’i bris sy’n llywio’r broses.

Nici Beech 8.5

Cynigion ychwanegol

Arf tanfor rhyw fet anferth,
Os bras ei bris, byr ei werth.

Y mae i’n byr eiriau bris.
I fi’r byrraf yw’r ‘Boris’.

Pwer un i bennu pris
sy’n andwyo ein dewis

Fis Chwefror rhown allforion
am bris is yn ôl y sôn.

Joio, er crïo’r cread.
Y pris? Peryglu’n parhad.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Rwy wedi manteisio’n ddiweddar’

Y Glêr

Rwy wedi manteisio’n ddiweddar
Ar beidio â gweithio ’rôl pedwar,
Na chwaith cyn dau,
Heblaw ar ddydd Iau,
Pan dwi’n zoomio, yn Skypio a’n trydar.

Hywel Griffiths 8

Criw’r Ship

Rwy’ wedi manteisio’n ddiweddar
A gadael y gwaith dwtsh yn gynnar.
Dwi nôl yn fy ngwely’n
Ymlacio’n noethlymun
Rhyw fymryn cyn chwarter i bedwar.

Arwel Pod Roberts 8.5

Cynigion ychwanegol

Rwyf wedi manteisio’n ddiweddar
ar amser i fod yn fewnsyllgar.
Dwi’n hogan fach flin
sy’n gaeth iawn i sgrîn
ac rwan mi ydwi’n edifar.

Rwy’ wedi manteisio’n ddiweddar
ar dechnoleg sy’n hynod o glyfar
i weld pobol bell
o gaethiwed fy nghell.
Ond 5G ar y ffôn? Na. Byth. Nefar!

4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gweithle

Y Glêr

Pwy wêl waith yn nyddiau’r pla?
Ie, gwir arfog yw’r eirfa.

Na, nid cleifion meirwon Mai,
Rhesi batel yw’r ’sbytai,
Fe’u hailenwyd Rheng Flaenaf,
Brwydr wib ar wardiau’r haf,
A thrwy’r creisis, service yw,
Maes y gad i’r masg ydyw.

Rhodder i arwyr haeddiant
Mwy na chlapio’n taro tant
Heb ’styried na’u harbed nhw’r
Allweddol rhag y lladdwr.

Eurig Salisbury 10

Criw’r Ship

Codi’n hwyr (gwell na hwyrach)
yna bath a choffi bach
a llnau platiau, osgoi’r plant
(pur euog, fel pob rhiant).

Mwydro ar ap, mynd am dro.
Pa bryd iawn gawn i ginio?
Ffrae randym a hel ffrindia
ar Zoom heb reswm (na bra).

Manon, mae’r gwaith yn smonach
ond nawr rhaid ‘mi gadw’n iach.
Heb orffen, ‘dduda i heno,
o raid, mi neith fory’r tro.

Manon Awst 9

5 Triban beddargraff unrhyw gymeriad ffilm

Y Glêr

Cawn ofyn, ‘wyt ti’n teimlo
Yn lwcus?’ wrth ffarwelio.
Wel, wyt ti, pync? A’th draed yn rhydd,
Fe wnawn dy ddydd, rwy’n addo.

Osian Rhys 9

Criw’r Ship

‘DIRTY’ HARRY CALLAHAN
Wrth danio dy fwledi,
Diflannu wnaeth dy lwc di.
Mi gredaist ti fod gen ti saith;
Ysywaeth, chwech oedd gen ti.

Arwel Pod Roberts 9

Cynigion ychwanegol

I blentyn roeddet, Woody,

Yn arwr hawdd dy dorri.
Yn awr mae’n wir fod ar bob un
Oedolyn angen doli.ORHJ

Bu claddu John yn anodd,
Yn anodd, anodd, anodd,
A bron na chlywn ‘Yippee-ki-yay’
Bach slei o’i roi o danodd.ES

SALLY O ‘WHEN HARRY MET SALLY’
Anghofiwyd dy ffug-weiddi
Yn atsain drwy y deli,
A byth ers i ti fynd yn wael,
Doedd neb am gael be gest ti.

TRIBAN BEDDARGRAFF DRACIWLA
Gorwedda’i gorff digyffro
heb weddi, croes nac amdo,
na gwên i fygwth unrhyw un
mewn tawel hun. Tan heno.SA

Mewn arch â leinin khaki,
ger teml ‘rôl croesgad leni,
â’i benglog bellach heb yr het,
un set gaiff hen ddaeargi.

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Gwyliau Amgen

Y Glêr

Mi gethon ni ddêl munud ola’, wrth edrych mas drwy’r drws,
heb orfod mynd i Firmingham na gyrru i lawr i’r Rhws,

sef lle i godi pabell deuluol yn yr ardd
i fenyw a dau blentyn, un spaniel bach a bardd.

Nid oedd y daith yn hirfaith; er hynny, paciwyd cês
yr un a oedd yn ddigon mawr ar gyfer mis yn spês.

Er mwyn i’r plant gael gwyliau arferol bron yn llwyr,
dechreuon ni o’r lolfa ryw ddwyawr yn rhy hwyr,

a chyrraedd desg y terminal (bwrdd bach y gegin gynt)
â munud sbâr cyn tsiecio mewn a hedfan ar ein hynt.

Ac yna am ryw reswm, mi drodd fy merch wyth oed
yn swyddog diogelwch, y blinaf fu erioed,

a’r mab yn swyddog tollau, yn gwagio pob un cês,
gan chwilio’n ddyfal ym mhob man fel helgi, er ein lles.

Do, rywsut, rhwng y gegin a’r lawnt yng nghefn y tÅ·,
fe gollwyd dau o’r bagiau (cyrhaeddon nhw Capri),

y cefn, wel, hostel ydoedd, ymhell o olwg byd,
a’r blaen fel lle pum seren, a’r blodau’n sioe i gyd.

Ond drwy ryw amryfusedd, fe gafwyd double-booking,
Ac ar ein pitch roedd pâr oedrannus clên o Woking.

Hywel Griffiths 9

Criw’r Ship

1. Clirio dail yr hydref o’r gyters cyn y gaea’;
2. Sgwennu cân i’r Talwrn; 3. Dwysgraffu ar y llyfra’
blith draphlith yn y stydi yn chwilio am Odliadur;
4. Dileu holl apwyntiadau mis Ebrill o’r dyddiadur;
5. Myfyrio yn hiraethus am ddyddiau rhydd mis Chwefror;
6. Gosod llyfrau’r stydi i gyd yn nhrefn yr wyddor;
7. Ffonio Mam i holi be gafodd hi i frecwast;
8. Edrych ar y patio a chwyno am y llanast;
9. Mynd i’r afael efo’r patio; 10. Cael gwared ar y chwyn;
11. Tocio’r llwyn gwsberis, sydd yn goeden erbyn hyn;
12. Edrych ar Joe Wicks, ond dim byd mwy; 13. Llnau’r gegin;
14. Dileu holl apwyntiadau mis Mai a mis Mehefin,
marc cwestiwn wrth Gorffennaf; 15. Oelio sbrings y trampolîn;
16. Dysgu’r gair Cymraeg am ‘sprouts’ ac ‘aubergine’;
17. Ffonio Mam i holi be gafodd hi i ginio;
18. Creu model graddfa un i ddau o’r Meuryn efo Lego;
19. Peidio treulio wythnos yn gwisgo yr un dillad;
20. Ebostio Argos Bangor i drio gael ad-daliad
am y babell bop-yp newydd a brynwyd at y Steddfod;
21. Trio stretshio potel jin i bara pedwar diwrnod;
22. Treulio oriau ar gwis lluniau “Adnabod Aml Aber”;
23. Ffonio Mam i holi be gafodd hi i swper;
24. Trefnu llyfrau’r stydi yn ôl maint, y mwya’ i’r lleia’;
25. Trefnu llyfrau’r stydi yn ôl maint, y lleia’ i’r mwya’;
26. Trefnu llyfrau’r stydi yn ôl trwch; 27. Cael gwersi Sanskrit;
28. Creu fersiwn un-chwaraewr o Monopoly a Tipit;
29. Prynu cyfrol Eurig Salisbury; 30. Symud tÅ· drws nesa’
rhyw bedair llath i’r dwyrain er mwyn cael gwell golygfa;
31. Trio pobi torth yn cynnwys wylys ac ysgewyll;
32. Mynd i orwedd lawr am sbel go hir mewn stafell dywyll.
Arwel Pod Roberts 9.5


7. Ateb llinell ar y pryd

Y Glêr

Nid hawdd yw rheolau’r tÅ·
Ond hwyl yw cwis y teulu.

Osian Rhys

Criw’r Ship

Nid hawdd yw rheolau’r tÅ·
Ynyswn nes diflasu!

Manon Awst 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Rhannu

Y Glêr

Starlink, 25/04/2020

Aeth cadwyn o loerennau heno
fel conga trwy stondrwydd cytserau,
a dim yn dolennu’u dilyniant o olau,
dim a welwn, rhwng dau orwel tywyll.

Dyna fyd a’i hynt yn dal i fod.

Mae’r dyddiadur yn rhy lân erbyn hyn,
tudalennau’n rhy ormesol wag i’w deall.
Dieithrwch dim yn ein dychryn.

Ond gan nad yw awr ond awr o’r dydd
a’r dydd yn ddydd o oes,
yr un yw oes â seren wib.

A rhag methu dirnad echelydd araf y ffurfafen,
dawnsiwn ninnau’n dres aur,
dolen o deulu, ar noson braf.

Medrwn eto ryfeddu wedyn
at glymau’r amser
sydd gennym yn gyffredin.

Osian Rhys Jones 9.5

Criw’r Ship

Ychydig yn ôl, ers talwm, cyn hyn,
roeddwn yn rhannu fy hun
yn friwsion blêr
rhwng wyrion a mân bwyllgorau, galwadau ffôn a chwyn,
yn gadael i’r fisgeden frau
chwalu fel y mynnai
yn gnegwerth hwnt ac yma
nes bod y plat yn wag.
Dim digon i gynnal neb.
Ond heddiw dw i’n gacen gron,
a fi sy’n ei thorri’n dwt
yn ddarnau hael
i’w rhoi i’r rhai a garaf.
Ac yn tyngu y byddaf
mewn ychydig, fory, wedi hyn,
yn cofio sut beth ydi bod yn grwn.

Sian Northey 9.5

Cynigion ychwanegol

Rhannu
Bwrdd a dynion.
Paned, pensel, map,
a rhyw ychydig drafod a bargeinio
cyn nôl yr inc.
Y caeau a’r llennyrch a’r nentydd
yn crio neu’n gwingo neu’n chwerthin
yn ôl eu hanian
wrth deimlo aur y nib.
A’r dynion am y bwrdd a’I gilydd
yn agor potel
ac yn sylwi dim.

9 Englyn: TÅ· Haf

Y Glêr

Ger tai oer, gwâr y teras – heno mainc
glan y môr sy’n fatras;
wrth wacter wal y palas
y mae un yn cysgu mas.

Hywel Griffiths 9.5

Criw’r Ship

Mae’n hafan, mae’n anafu - od o rad
ond tra drud i’r Cymry;
mae’n ddel, mae’n diogelu
annoeth llwfr; a bygwth llu.

Sion Aled 8.5

Cynigion ychwanegol

Ein gwyliau yma’n Gwales – yw ein hawl.
Awn yn ôl i’n lloches,
I Danny Banc, a’I hances
o lawnt, wneith o fyd o les.

Er mai palas o demtasiwn i ti
yw’r tÅ·, sy’n werth ffortiwn,
dwyn ei gost wnawn i gwestiwn
yng ngwres eithaf yr haf hwn.

CYFANSWM MARCIAU

Y GLÊR 72

CRIW’R SHIP 71