Main content

Cerddi Rownd 2

1 Trydargerdd : Apêl am Wirfoddolwyr

Glannau Teifi


Mae angen pobol fedrus
All stacio faniau’n ddestlus,
Llawn papur toilet hyd y to
I’r fro, cyn daw ‘na greisus.

Nerys Llewelyn Davies 8.5

Y Ffoaduriaid

Princess Anne, Nei Karadog a Boris,
Donald Trump, tîm y Glêr a Thwm Morys,
’di rhywun sy'n gwrando
ryw awydd ymuno
efo’r rhain sy’n meudwyo yng Nghorris?

Gruffudd Owen 8.5

Cynigion Ychwanegol

Yn wylaidd dof ar alwad – i ofyn
Am lafur o gariad,
O wirfodd am ymroddiad
I ymroi, a rhoi yn rhad.

Mae’n swydd llawn sen
ddi-dâl; ond na! -
nid elusen,
ond gwerthu Corona!

Mae’r byd i gyd yn gwegian,
Ac mae’n rhy hwyr i lolian;
Mae’ch angen chi, rai doeth y byd

I ddod ynghyd heb gonan.

Her, un tro, oedd canfod twpsod
i fynd i Fawrth ar gefn llong ofod.
Bellach tria ffeindio’r bygar
fysa’n aros ar y ddaear.

Rwy’n gwirfoddoli nawr ers tro
i fynd â Pero bach am dro.
Ond gaf i help pan ddaw y dydd
fydd gan y Shih Tzu ddolur rhydd?

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘gêm’

Glannau Teifi

Yn y gêm oes tacteg is?
Own gôl oedd gwasgu’r gwlis.

Elfed Evans 8.5

Y Ffoaduriaid

Pa gêm sydd mewn pandemic
o hyd yn saff? Hide an’ seek!

Gethin Davies 8.5

Rwdlan â seiniau rhydlyd,
Onid gêm ydyw i gyd?

Iesgob! Dyma anobaith;
Mae’n rêl shêm, dim gêm na gwaith

I’r twyllwyr drwg sy’n dwgyd,
Onid gêm ydyw i gyd?

Yn deulu y cyd-wyliem
hyn o gae, mae’n fwy na gêm.

Mae hwn am naw deg munud
o’r gêm yn Gymro i gyd.

Mi wn i fel pob rhiant
mai gêm lom ’di magu mhlant.

Hen gêm rom bach yn giami
’di gêm ’Mhrifweinidog i.

Hwnt y gêm chwyddant gymyn’ -
Eli nos i Alun Wyn

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ar ôl i mi gael diagnosis

Glannau Teifi


Ar ôl i mi gael diagnosis
O myxamo-cov-halitosis,
Newidiais y gŵr,
Yfais win yn lle dŵr,
Rwy'n dal ddim yn siŵr o'r prognosis.

Nia Llewelyn 8.5

Y Ffoaduriaid


Ar ôl i mi gael diagnosis
gofynnais beth ddiawl oedd Ffred Ffransis
yn gwneud ym Mheriw
yn ganol y ffliw?
Mae modd cael Sea View yn Nhreforys.

Gruffudd Owen 9

Cynigion Ychwanegol

Ar ôl imi gael diagnosis
Mai’r salwch oedd micsamatosis
Gorffennais y dasg
Cyn gweld yn y wasg
Y rheswm am fasg : halitosis

Ar ôl imi gael diagnosis
Am sbotiau ‘run maint â gwsberis,
‘Rwy’n ofni mai’r bedd
A rydd imi hedd
Os na chaf i fedd*, neu ryw bowltis. (* medd = ‘mead’)

Ar ôl i mi gael diagnosis
o TB a’r frech ieir a Phliwrosis
i geisio sirioli
mi brynais i fwni,
a dal blydi micsamatosis.
.
Dwi rioed di bo’n berson rhy iachus
ond ew, roedd yr ysfa yn heintus
i fynd fyny’r Wyddfa,
y Cnicht a’r Carnedda
ar ôl i mi gael diagnosis.

Ar ôl imi gael diagnosis
nad ydwyf yn ddyn, ond yn lindys,
roedd hynny’n gwneud sens;
dwi’n byw o dan ffens
ac oll dwi’n ei fwyta ‘di letis.

4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Arferiad


Glannau Teifi

Simon Powell (Sam), oedd yn byw gyda cyflwr meddyliol difrifol, ac a fu farw’n ifanc)

I Sam, ei fam oedd ei fyd,
Ei hafan, ei gefn hefyd.
O ddydd i ddydd, dathlai’r ddau,
O’r galon, oriau’r golau
Ag afiaith yn ei gofal;
A dôi ei wên iddi’n dâl,
Cyn dod oriau’r dyddiau du,
A gwaniad y gwahanu.

Bob dydd, mae’n dod â blodau
I’r fan, er mwyn ymgryfhau,
A daw afiaith rhwng deufyd –
Cwmni Sam yw Mam o hyd.

Terwyn Tomos 10


Y Ffoaduriaid

Ar y bws, ben bore bach
yn syth, i brynu sothach,
wedyn i’r llyfrgell, ella,
ac un darn, i hogyn da,
o deisen. Gweld trên. Cael tro
i’r cae chwarae, a chario
hadau i’r hwyaid wedyn.
Gweld ffrindiau; mwynhau ein hun.

Coffi rhad... Sul cyffredin:
teulu, hwyl, nôl potel win
at hwyrach. Mor naturiol,
a nosau’n hir, fis yn ôl.

LlÅ·r Gwyn Lewis 9.5

Cynigion ychwanegol


Wrth resynu gyrru i’r gwaith
addewais feddwl ddwywaith;
ymatal, a chomiwtio’n
ddi-fodur heb lygru’r lôn.
Ar y beic yr af i’r bae
neu iwsho’r system fysiau;
stop i’r brys, gwneud esgus dwl
yn ddifaddau ddifeddwl.

Ar fore gwlyb arferol,
A finnau’n hwyr, af yn ôl
at y car, a’m holl siarad
yn rhy hawdd sy’n eiriau rhad.

5 Triban beddargraff rheolwr/rheolwraig swyddfa

Glannau Teifi

Fe hoffai fod yn drefnus
A chael pob dim yn hwylus;
‘Na pam mae wedi’i roi i ffwrdd
Mewn cwpwrdd ffeilio’n daclus.

Terwyn Tomos 9

Y Ffoaduriaid


Arwyddair mawr ei swyddfa
oedd ‘Gorau arf yw Rota’
ond ar y rota yn y nef
ei dro ef oedd hi nesa.

Gwennan Evans 9

Yn inc at ei geseiliau,
Ei wendid ydoedd ffeiliau.
Ond heddiw daeth o’r trydydd llawr
Drwy’r ‘shredder’ mawr yn ddarnau.

Mae’r cactws wedi gwywo
a’r ffrij llawn llaeth di suro
a’r ebill deudwll yn rhy llawn.
At bwy yr awn i gwyno?

O’th ddesg di, mae golygfa,
mae’th gadair megis soffa
a’th golomendwll sydd mor braf.
Fe’u dygaf. Ha-ha, ha-ha.

Mor chwim y’i dygwyd o’ma
na cha’th y cradur gyfla,
cyn seinio off, i sortio’i fès
na’i neges ‘ffwrdd o’r swyddfa’

Fe ddarganfyddwyd Euros
’di marw ers pythefnos
ar ôl ’ni grybwyll stad y bin
a pha mor brin oedd beiros

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Dyddiad Cau

Glannau Teifi

Â'r wlad dan gwmwl enbyd, yn sydyn daeth yr awr
I Boris ein gorchymyn i gau ein gwlad i lawr.
Datganodd yn Jyrchiliaidd, gan annog naws y Blitz:
'Rhaid i chi gyd ynysu a dysgu golchi'ch mits'.
Bu och a gwae a phanig, yn wir fel gollwng bom,
Heb basta bîns na lw-rols, roedd Tesco fel y Somme.
Fe glowyd drysau'r caffi a'r pyb â phawb yn flin,
Y fflics, y gym a'r ysgol- i gyd dan gwarantîn.

Ond er ein bod dan warchae mae'n pentre ni'n OK
Yn lle mynd mas i joio cawn arlwy dêc-awê.
Mae'r caff yn cynnig cinio, cawn gwrw spâr o'r 'Red'
Ac os am jel i'ch dwylo cawn fodca cartref Ffred.
Mae'r we’n llawn gweithgareddau i'n cadw ni yn llon
Â'i gîp-fit a'i goginio a nwyddau Amazon.
Cawn gwrdd yn griw o ffrindiau nos Sadwrn nawr ar Skype
I siario clecs a diawlio Corona a'i holl heip.

Rhyw dro â'r cwmwl heibio, edrychwn mlân i'r dydd,
Y Covid wedi'i drechu a ninnau eto'n rhydd
Ac yna'n gwmni dedwydd down oll i gadw'r oed
I ddathlu'r ailagoriad, i'r parti mwya’ 'rioed.

Nia Llewelyn 9

Y Ffoaduriaid : Ar alaw Y Mochyn Du


Noson galan, gwnes adduned i ennill parch gan fy nghymuned
o’r hen wragedd i’r babanod, drwy gystadlu yn y Steddfod.

Cytgan: O ie hon yw ‘mlwyddyn i, ie hon yw ‘mlwyddyn i
rydw i’n mynd i ennill coron, i gael parch a chlod a bri.

Penderfynais ar ôl Dolig i gloi fy hun yn sownd yn ‘ratig
er mwyn dysgu sut i odli cyn y diwrnod cynta’n Ebri... ll

Cytgan: O ie hon yw ’mlwyddyn i, ie hon yw ‘mlwyddyn i
rydw i’n mynd i ennill coron, i gael bod ar S4C.

Wrth slafio’i sgwennu cyrch-gymeriad, meddai ngŵr, “dwisio ysgariad”,
mae o wedi mynd a’r babi, ond fydd ddim ots pan gai ‘nghoroni.

Cytgan: O ie hon yw ‘mlwyddyn i, ie hon yw ‘mlwyddyn i
rydw i’n mynd i ennill coron a chael cadair efo hi.

Rydw i’n gallu gweld fy hunan efo Myrddin ar y llwyfan
yn y clogyn hardda sgenti, prifardd dwbl twenti-twenti.

Cytgan: O ie hon yw ‘mlwyddyn i, ie hon yw ‘mlwyddyn i
rydw i’n mynd i ennill coron i ddangos mod i’n well na chi.

Fydd y beirniaid wedi mopio, does na’m byd yn mynd i’n stopio.
Dwi’m yn gollwr nac yn quitter. O na, be di hyn ar Twitter...?!

Cytgan: O nid hon yw ‘mlwyddyn i, na nid hon yw ‘mlwyddyn i
dydw i ddim am ennill coron, dwi’n rhoi’r gorau i farddoni.

Llio Maddocks 9

7 Ateb llinell ar y Pryd


Glannau Teifi


O’r dre fawr adre’r af i
Dod o lanast eleni

Y Ffoaduriaid


O’r dre fawr adre’r af i
i LÅ·n, ond nid eleni 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Gwyriad

Glannau Teifi

Rhywbryd, nifer o leuadau yn ôl
Pan oedd Arianrhod yn wincio ar Drawsfynydd,
Troediai bugail addfwyn y moelydd,
A chanai afon Prysor ei grwndi yn ei wythiennau
Nes serio’i freuddwyd dan fantell ysgafn Isis;
Yr haul ar ei anterth,
Telynegion yn atseinio ym meini’r muriau
A gwedd o hedd dros y brwyn.

Wedyn, yn oes mileniwm newydd
Pan oedd y Duwiau Celtaidd yn huno dan gwrlid y dail,
Cropiai ias ac arswyd fel cysgod
Dros weithredoedd a dinasoedd.
Ofn lle bu awen,
Bwledi lle bu curo dwylo,
Dinistr lle bu creu,
A’r diniwed yn disgyn fel myrdd o sêr yn diffodd
Dan gwmwl dieflig Isis arall.
Nerys Llewelyn 9

Y Ffoaduriaid

Gyda bod y lonydd
yn fwy tawel a llonydd
dyma droi oddi ar y lôn bost
i weld ffynnon Gwenffrewi
fu ar ein rhestr cyhyd.

Medd rhai na fydd pethau byth yr un
pan aiff hyn i gyd heibio:
sgubwn ludw’r marchnadoedd
i graciau’r tir lle cerddwn. Cyfarchwn
ein gilydd, a’r awyrennau’n rhydu.

Nid newid wnawn ni wir: dod nôl
yn bagan at y pethau hen, elfennol:
at wres haul, at flagur, ac at ddŵr
berwedig o oer. O lechen i lechen,
neu’n ôl i ddarllen braille y sêr
â’n bysedd dall a glân. At darddiad pethau,
down nôl i ymdrochi yn yr hyn
sy’n argoeli’n mendio, ond i ni eu coelio.

LlÅ·r Gwyn Lewis 10

9 Englyn: Baner


Glannau Teifi


Yn iau, hyn oedd ei awydd, – i fyned
Dros faner yn llofrudd,
A'i dâl dderbyniodd un dydd,
I'w arch mae nawr yn orchudd.

Nia Llewelyn 9

Y Ffoaduriaid

AUOB Cymru (All Under One Banner - sy’n trefnu gorymdeithiau dros annibyniaeth ar hyd a lled y wlad)

Fe unwn dan un faner - fesul tref
sawl tro; daeth hi’n amser
codi â phlwc o hyder
yn ymhél yn nwfn ein mêr.

Gethin Davies 8.5


Cynigion ychwanegol

(Mae nifer yn dangos baneri ar ffurf enfys i
ddangos cefnogaeth ynn ystod haint Coronafeirws)
Er yn hen, nawr yn ynys, - yn unig
Yn wan a phryderus,
Drwy’r braw, a drwy’r llymder brys,
Tystion sy’n anfon enfys.

Pwy ŵyr, a’r holl bapurach ar y gwynt
beth yw’r gwir ’ma mwyach?
Mae’n her. ’Tae rhyw Faner fach
gennym, gwyddem amgenach.

MARCIAU TERFYNOL


GLANNAU TEIFI 72
Y FFOADURIAID 73.5