Y Ffeinal
1 Neges yn apelio am gwsmeriaid
Tir Iarll
Ry’n ni’n gwmni feiolinau
Sy’n diodde’n y cyfnod clo
Ac os na chawn gwsmeriaid
Rhaid rhoi’r ffidil yn y to.
Tudur Dylan Jones 8.5
Y Cŵps
Oes gennych chi gi sydd yn crwydro
Neu gymar na wyddoch lle mae o?
Am ddim gwerth o bres
(Na’i gynnwys y ces!)
Cewch app Track&Trace heb ei iwshio.
Rocet Arwel Jones 8.5
Cynigion ychwanegol
Ry’n ni’n gwmni gwydro dwbwl
Ond rhaid sacio pawb en masse
Os na chawn ni gwsmeriaid,
Er gwneud ein gorau glass.
Ry’n ni’n gwerthu moch sy’n rasio
Ond mae’r busnes 'di dod i stop,
Ac os na chawn ni gwsmeriaid
Bydd yr hwch yn mynd drwy’r siop.
Ry’n ni’n gwmni rawplugs
Ond all pethau byth â dal,
Ac os na chawn ni gwsmeriaid,
Bydd y cyfan yn mynd i’r wal.
Yn llon, dewch eilwaith yn llu - i fy sied
Am fasáj, mae hynny
.
Yn saff, cans sheet berspex sy’
Yn haen i’n ymwahanu
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘blîp’ neu ‘blip’
Tir Iarll
Trwy’r dŵr â’r llong lechwraidd
A’i blip…blip…blip…fel ffroen blaidd.
Emyr Davies 9.5
Y Cŵps
Fy mab gwranda arna’ i,
Hogyn, paid ‘blîp’ ‘blîp’ rhegi.
Iwan Bryn James 9
Cynigion ychwanegol
Gwell yw blîp na blîp yn blwmp
Na hyfdra un gwallgofDrwmp.
Y drafferth gyda’r draphont
Yw gwn fod Boris yn blîp.
Diflas yw rhegi deuflîp,
Gwell rhegi un blydi blîp
Pwy ŵyr werth un blîp a’r haint
Fel gefel am ysgyfaint?
Os ffolais ar Prins Philip,
Wobl oedd, nid oedd ond blip.
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi es i ŵyl amgen eleni’
Tir Iarll
Mi es i ŵyl amgen eleni
A neb yn cael cyfle i holi
‘Yn lle wyt ti’n aros?’
‘Ti lan am yr wythnos?’
A ‘Ti’n gwbod pa gae mae fy nghar-i’?
Tudur Dylan Jones 8
Y Cŵps
Mi es i wyl amgen eleni
I chwilio am un i'm digoni
Ac mewn pabell fach glyd
Daeth gorfoledd i'm byd
Pan ildiais i hud Maggi Noggi.
Dafydd Morgan Lewis 8.5
Cynigion ychwanegol
Lle bûm yn stiwardio’n llawn egni.
Yn hwyr y cyrhaeddais
A’m drysau a gaeais
A chollais ddau gôr a’r coroni.
(Y limrig gyda’r Northern Lights yn gefndir ar y zoom)
Mi es i ŵyl amgen eleni,
gŵyl Waldo, sef ‘Gŵyl Môr Goleuni’,
daeth tyrfa ryfeddol
o’r teips athronyddol
mewn dillad o’r canol i fyny.
Mi es i ŵyl amgen eleni,
Dim sticers, dim ffair, dim toesenni,
Dim beiros, dim pizza,
Dim Tegan gan Tina:
Ha ha! Dyma nef i rieni.
Mi es i ŵyl amgen eleni,
Hey man, roedd yn funky a groovy.
Cyfunais fy Zooms
 'nghnwd mysharŵms;
Mi rôth va-va-vooms i'r barddoni.
Mi es i ŵyl amgen eleni
I siarad am iaith fy rhieni;
Ond trodd pethau’n reit erchyll,
Roedd y Gelli yn gandryll,
Rhyw Hopwood â’i dryll aeth a’n slot-i.
Mi es i ŵyl amgen eleni
A minnau yn vigan a veji
Yn wyryf ti-total
Mi fethais ymatal
Ces ddau darw potal a sherri.
4 Hir a thoddaid yn cynnwys y geiriau ‘Mae’n bryd i minnau’
Tir Iarll
Mwy na phrotest
Cyn i ni allu cynnu canhwyllau
a goleuo’n neis sioe ein gwylnosau,
a chyn creu twrw i alw am hawliau,
rhaid peidio bod ofn y ‘pam?’ na’i fflamau
mi wn; mae’n bryd i minnau – fentro’r daith
a herio eilwaith yr hen reolau.
Mererid Hopwood 9.5
Y Cŵps
Mae’n bryd i minnau heb rwyd am unwaith,
Heb faldod amod na llaw cydymaith,
Na chelwydd newydd na chywilydd chwaith,
Roi naid i affwys yr hunan diffaith;
Ffeirio ffydd am gyffro ffaith, – a cheisio’n
Y fron atebion tu hwnt i obaith.
Huw Meirion Edwards 9.5
Cynigion ychwanegol
Ar awr dywyll
Mae’n bryd i minnau, ebe’r demoniaid,
Gilio i gell o’r golau, â gwylliaid
Meddyliau yn hel eu castiau’n locustiaid
Yn gwledda ar rawn o gelwyddau’r enaid…
Ond gyda’r wawr daw’r awr euraid, sadiaf.
Gwenaf. Gwelaf fod gen i fugeiliaid.
5 Triban beddargraff ystadegydd
Tir Iarll
Fe welais yn y graffiau
Anffafriol dueddiadau,
Ni fûm ers sbel yn gant y cant,
Wyf sant yr ystadegau.
Aneirin Karadog 8.5
Y Cŵps
Yn deyrnged iddi brofi
Bod du yn wyn, aed ati
I lunio graff ddangosai'n glir
Na wnaeth hi, wir, fodoli.
Geraint Williams 9
Cynigion ychwanegol
Mi sganiodd ei syms ganwaith,
er hyn bu farw, unwaith,
mae yma’n bod yn stat mewn bedd:
Y Diwedd. Does dim dwywaith
Mae un yn fwy eleni
Ac un yn llai yn cyfri,
Er bod 'na duedd am i lawr
Caiff nawr weld ei gofnodi.
Hwn a garodd ffigurau,
Hurtiodd ar lunio siartiau;
Wedi herio'r data dyrys,
Yn heintus, rhifwyd yntau
Rhifyddwr mawr dihafal
Y Talwrn; fu neb cystal.
Diflannodd wedi iddo - ŵps! -
Wneud cam â'r Cŵps mewn ffeinal.
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Cyflwyniad Pwerbwynt
Tir Iarll
Wrth Aros Bojo Boris: AK Dr Chris Whitty: TDJ Dr Jenny Harris: MH
Boris: Dyma ni â’r panto dyddiol, dau led gall, a fi’n y canol.
Dr Jenny, Dr Whitty... sai’n dyall beth chi’n siarad biti.
Dr Jenny: Fi yw’r un â llais cyfoglyd, Arbenigedd? - rwy’n nawddoglyd.
Dr Whitty: Fi sy’n cuddio gwir ffigurau (Peidiwch craffu ar y graffiau).
Boris: Gwell yw cadw at ein sgriptie, neu daw Cummings mas o’i grypt e.
Dr Jenny: Dewch, Albanwyr, Gymry wedyn! Ni yn Lloegr dylech ddilyn,
Helpwch gyrraedd ein targedau - cyfradd uwch o farwolaethau.
Dr Whitty: PPE sydd yma’n doreth, (Braidd yn hwyr i wneud gwahanieth)
Er, mae masgiau’n brin yng Nghymru ’rôl i’r Talwrn hawlio’r rheiny.
Boris: Aeth y byd i gyd ar ffyrlo – hoffwn i fy hun fynd yno;
Hoffwn adael pob un cytbac i Siôn Corn, sef Rishi Sunak.
Dr Whitty: Cafwyd cwestiwn am y profion: Pam nad Å·m yn profi digon?
Naddo, wnes i ddim anghofio prynu stamps er mwyn eu postio.
Dr Jenny: Haedda’r nyrsus gwych eu canmol; diolch wnawn drwy’r ffordd arferol...
Llawer gwell na chodiad cyflog ydyw clapio ar y rhiniog.
Boris: Down ni drwyddi, mae ffydd gennyf; Ac fel dwedodd nanny wrthyf:
Mea stultus, omnis morte - Eton mess yw’r pwdin gore.
Emyr Davies 10
Y Cŵps
(ger bron Ysgol Farddol Caerfyrddin)
Mynach wyf fi a gipiwyd mewn Tardis
O Briordy Caerfyrddin gan rhyw Emyr Davies.
A minnau bryd hynny, fel rhan o’m defosiwn,
Yn prysur gofnodi’n llenyddiaeth ar femrwn.
“Tyrd,” meddai’n chwyrn, “mae Mererid fy meistres,
Heno, mewn darlith, am adrodd dy hanes.
Fe glywodd mewn séance trwy Fyrddin y Dewin
Mai ti fu’n gyfrifol am Lyfr Du Caerfyrddin.”
Roedd hi’n saith canrif o daith ac nid yw yn syndod
Ein bod wedi cyrraedd yn hwyr i’r cyfarfod.
Nid fod hynny o ots! Roedd yno le garw,
Rhwyg yn y sgrin a’r cliniadur yn farw.
‘Co bach’ ar goll, llond stafell o banic,
Ac yna’n ddirybudd, diffoddodd y lectric.
Roedd rhyw Dudur Dylan a’i fys yn y potes,
A hwnnw mae’n amlwg yn decnoffôb useless.
A fi’nne’n y t’wllwch, ŵr llwyd yn ei abid,
Yn ysu am ddianc rhag dicter Mererid.
O Dduw! Os mai dyma’r sefyllfa yng Nghymru
Does ryfedd i foncyff yr Hen Dderwen bydru.
Dafydd Morgan Lewis 9
7 Llinell ar y Pryd
Tir Iarll
Adre’r af mewn dim o dro
Adre ond dal i grwydro
Aneirin Karadog
Y Cŵps
Drwy iet Tregaron eto
Adre’r awn mewn dim o dro
Huw Meirion Edwards 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cwtsh
Tir Iarll
Roedd gwallt byr yn dy siwtio di’n well,
dwi’n credu, a’th lais i’w glywed yn freuach
o bell, fel se’r patshyn o ardd oedd rhyngom
yn tampro ’da’r geiriau wrth iddynt hercian,
yn boenus ac yn flinedig, i’m clust. Allwn ni
fynd mewn nawr? Roedd dy wyneb mor welw
ag erioed, wrth gwrs, a thithau wedi dy bod
yn y cysgod cyhyd, yn cwato rhag y bobl greulon,
gas. Ond roedd rhywbeth yn dy lygaid, heddiw,
rhyw ddryswch nad oedd yno cyn hyn i gyd:
y bwrw sosbenni, y partïon stryd, y fisitors glas
mewn menyg mawr yn dy dywys o’r gwely i’r gadair,
mor druenus o araf â chrych yn bradychu’r wyneb,
neu dabled yn gweithio’i ffordd i lawr gwddf.
Ac am unwaith, dwi’n deall dy benbleth; yn deall
awydd plentyn pengoch i blannu ei ofnau yn dy gôl
hyd nes bod pob dim – abracadabra! – yn well. Alla i ddim,
Tad-cu, smo ti’n cofio? ... rhag i’m dwylaw dy dagu.
Gwynfor Dafydd 10
Y Cŵps
Yng nghynteddau celf
ac yng nghilfachau hardd
eglwysi’r byd, pietà yw’r gair
sy’n gosod hyn -
mam yn mwytho’i mab
yn ei breichiau hen –
yng nghyd-destun popeth.
Mewn pren a marmor, ac mewn
marmor ffug mae’r dod ynghyd
fel hyn, wedi’r angau, yn eiliad
sy’n oes oesoedd yn y garreg stond.
Ni all y dagrau ac ni all plygion gwisg
wneud dim ond arllwys
tua’r llawr gan rym
disgyrchiant celf.
A’r Fam yng ngalar du ei breichiau hen
yn ymgeleddu’i Harglwydd,
yn rhoi cwtsh i’w Mab.
Dafydd John Pritchard 10
9 Englyn: Penlinio
Tir Iarll
Er fy mod yn warchodol o hawliau
Pob un hil wahanol,
Mae darn o’m rhagfarn ar ôl
Ar eu gwddw’n dragwyddol.
Emyr Davies 10
Y Cŵps
O faes i stryd am saib fud, fer, – o ddwrn
I ddwrn rhag gorthrymder,
Mae i’r disgyn ei hun her,
I’r ymostwng rymuster.
Huw Meirion Edwards 9.6
Cynigion ychwanegol
(Er cof am John Lewis, yr ymgyrchydd hawliau sifil, fu farw ar yr 17eg o Orffennaf eleni. Roedd wrth ochr Martin Luther King pan draddododd yr araith ‘I have a dream’.)
Er bod pwysau’r gwadnau gwyn – ar wddw
Dy freuddwyd fel gefyn,
Yn enaid taer fel dwrn tyn
Dysgaist amynedd disgyn.
Mae'r rheg yn nrama'r hogyn yn ddi-lais;
ei ddwy law sy'n erfyn,
a'i osgo llen-ar-ddisgyn
drwy nos ddu y gwely gwyn.
Yn un awn ar ein gliniau, - yn gadarn
Fe godwn ein dyrnau;
Dyrnu’r aer a darnio’r iau
Garw sy’n gwasgu’n gwarrau