Cerddi Rownd 2
1 Trydargerdd: Gair o Gerydd
Y Cŵps
Er mynnu eu bod nhw yn gwrando,
Mewn cyfnod o hunan ymlwybro
Maen rhaid i mi ddeud mai hen ddiawlad
Am groesi dros lôn di'r Samariad!
Rocet Arwel Jones 8.5
Caernarfon
Fel angel y daethost i’m bywyd,
A llwyddo i’m gwneud yn ddyn gonest.
Dim ond un peth fedrai goroni ein serch:
RHO’R CAEAD YN ÔL AR Y TWTHPÊST!
Emlyn Gomer 8
Cynigion Ychwanegol
Ti’n beryg, dyna ddigon, - cer o’ma,
Cer ymaith ar d’union.
Yr un brwnt sy’n braenu bron,
Cilia, ti’n ofid calon.
Â’r angylion wedi’u heintio,
Rhy hwyr fydd i godi cri:
Pa wallgofrwydd esgeuluso’r
Rhai ofalant drosom ni?
Cyfarchion o baradwys bur
Na phrofa gur gormesydd;
Na llid coronafeirws chwaith –
Dewch draw ar daith i Gerydd!
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘claf’
Y Cŵps
Â’i wely’n wely olaf,
Cael ei wynt oedd braint y claf.
Iwan Bryn James 9
Caernarfon
I glaf ac i’r di-glefyd
yr haf sy’n farw o hyd..
Geraint Lovgreen 9
Cynigion Ychwanegol
Rhostiais saith math o bathew.*
Wên i’n glaf. Nawr wi’n go lew.
*GPC pathew: dormouse; edible dormouse. Afraid dweud y bu farw pob un o’r saith o achosion naturiol.
I’r eiddil, i’r claf tila,
Llond bol o ddetol sy’n dda.
Dawn yr angel a welaf
Yw coelio ofn dua’r claf.
Dwi’n glaf ’rôl bwyta afal.
Dwi’n sic. Wnes i ddweud? Dwi’n sâl..
Dettol nid arloesol yw
Niweidiol i’r claf ydyw
Dwi’n glaf, dymunaf gael dos:
Mi a’i i estyn domestos!
Dan glo, a’r holl fyd yn glaf,
Anweswn y wawr nesaf
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Bu raid imi ddwys ailystyried’
Y Cŵps
Bu raid imi ddwys ailystyried
a oedd gen i gymaint o syched
ar ôl gweld lliw top
a thrwyn merch y siop,
a chlywed sŵn "plop" yn fy mhaned.
Geraint Williams 8.5
Caernarfon
Bygythiais y peilot â bwled:
“I Foscow!” gorchmynnais yn galed.
Atebodd yn syfrdan,
“I Foscow ni’n hedfan...”
Bu raid i mi ddwys ailystyried...
Emlyn Gomer 8.5
Cynigion ychwanegol
Roedd rhaid i mi ddwys ailystyried
Mynd draw i'r Ty Haf yn Uwch Aled,
Ond o'n i yn becso
Fod y plan wedi rhacso:
Gath taid ei Fed-exo 'r y pumed.
Bu raid i mi ddwys ailystyried
Pa fodd gallaf fyw heb rôls toiled,
Ce’s syniad go chwim,
Y Sun wna i’r dim,
Mae’n bapur am ddim nad yw’n galed.
Bu raid imi ddwys ailystyried
fy marn fod ein meistri yn ffylied
pan ddaeth Covid-19
a’i wae ar y sîn:
nid ffylied di’r rhein ond penbylied.GL
Ro’n i’n barod i’w roi ar y carped:
Ond am nad oedd fel gwnes i ragdybied –
Llai Danny DeVito,
Mwy fel El Bandito –
Bu raid i mi ddwys ailystyried.
Ei harddwch oedd hwnt i amgyffred -
Fy nghalon a droes ben i waered.
Ond pan ddwedodd Doris,
“I voted for Boris!”
Bu raid i mi ddwys ailystyried
.
.
4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Golygfa
Y Cŵps
Yn Llanfihangel gwelaf
O’r gell hon genhadon haf
Wrthi’n hau, a’r eithin iach
Eleni yn felynach.
Harddach y gerddi gwyrddion,
Eu hegino’n brifo, bron.
Gwelaf heb weld y gelyn
Sy’n llechu’n fawr, nawr, fan hyn.
Rywfodd trodd, mewn byd cyd-rhwng,
Ebrill yn un cynhebrwng.
Yn Llanfihangel gwelaf
Ddrain rhy wyn, a’r Glyn yn glaf.
Huw Meirion Edwards 9.5
Caernarfon
Coron o flodau ceirios
yno’n wyn un gyda’r nos
Lle ddoe ni bu ond düwch
roedd drannoeth, drannoeth yn drwch;
coron wen, coron o iâ
a choron fel lluwch eira!
Ni wn sut na sylwais i,
nes i Ebrill fy sobri,
ar y goeden cyn ’leni
neu weld dim o’i blodau hi.
Yna’i noethni ’mhen wythnos
a’i godre’n wyn gyda’r nos.
Ifan Prys 9.5
5 Triban beddargraff unrhyw gymeriad ffuglennol
Y Cŵps
C'add gyngor milfeddygol
o le anghonfensiynol.
Trwm iawn Å·m ni rôl Jaci Soch,
a gymrodd joch o Dettol.
Geraint Williams 9
Caernarfon
Au r’voir, ’rhen Hercule Poirot,
Y Belgiad byr didaro:
Ni ddaliaist ’rioed mohonof fi -
’Lly twll dy dîn di, Pharo.
Emlyn Gomer 9
Cynigion ychwanegol
I Heledd
Goroesodd oesoedd ystyr;
Ond carreg lân sy’n ddolur,
Heb unrhyw air, dim ond 'you wot?'
Ar bot o rosod papur
Ffarwél i Sali Mali,
A Jac y Jwc a Jini:
Ni chollwn gwsg, lle bynnag f’och:
Ni wnaethoch ’rioed fodoli.
Ni fu ’rioed deulu glanach
Nag Anti Bac a’i llinach:
Ond yn sgîl Covid-19
Mewn baw y trigant bellach.
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Cyfeillion Tywydd Teg
Y Cŵps
Fy mreuddwyd gyfeillion ers wn i ddim pryd
Oedd cael fy nyrchafu yn Frenin y Byd.
Roedd yr au pairs a’r nannies wrth newid fy nghlwt
Yn mynnu fy mod i’n athrylith o grwt.
Yn Eaton fe fÈ—m i yn ffrind i bob un,
A’r Bullingdon Club a’m gwnaeth i yn ddyn.
Fel Winston, fy arwr, llefarwn, yn goeth,
Er, yn ôl rhai, nid bob amser mor ddoeth.
Fe hudais y marched, fe heuais fy had,
A dod heb or-ymdrech yn ben ar fy ngwlad.
Roedd pawb wedi mopio, edmygent yn syn,
A fi’n fwy poblogaidd na’r hen Vera Lynn.
Ond nawr gyda’r feirws yn cerdded y tir,
Synhwyraf na phery mhoblogrwydd yn hir,
Mae’r Jordies, y Cockney’s a’r Cofis, Dduw Mawr,
Yn awchu i droi yn fy erbyn yn awr,
Bydd y dorf o addolwyr oedd gynt wrth fy nhraed,
Cyn hir, yn neu dicter yn udo am waed.
Mae’n greisus, a hwythau’n encilio o’m gŵydd,
‘Dyw gwaith Prif Weinidog, bois bach ddim yn rhwydd.
Dafydd Morgan Lewis 8.5
Caernarfon
Yn ôl yn ’rysgol gynradd, pan o’n i’n tua deg,
mi ddarllenais i yn rhywle am Gyfeillion Tywydd Teg.
Dychmygwn mai criw dethol iawn o bobol oedd y rhein
oedd wedi cael y fraint o fod yn ffrindiau’r Tywydd Ffein.
O hynny ’mlaen bob blwyddyn wrth i’r gwanwyn droi yn haf
dyhëwn am gael bod yn un o fêts y Tywydd Braf.
Ac nid jyst mêt, ac nid jyst ffrind, o nage, coeliwch fi,
ond Cyfaill, gair arbennig gariai lawer mwy o fri.
Ond sut roedd dod yn Gyfaill? Mi holais bawb yn daer,
ond ches i’m ateb call gan Mam a Dad na ’mrawd a’n chwaer.
Darllenais yn y papur am Gyfeillion Capel Seion:
a allen nhw fy helpu i? Roedd gen i fy amheuon.
Fy nghadw mewn o’r heulwen wnâi y capel bob dydd Sul,
a doedd na’m sôn am dywydd hafaidd ar y Llwybyr Cul.
Cyfeillion ’Sbyty Gwynedd? Diniweitiaid efo ffydd
yn codi arian ddylai ddod o’r ll’wodraeth yn Gaerdydd.
Ac erbyn meddwl dwi’m am fod yn Gyfaill Tywydd Teg:
mi ddweda’i wrtho fynd i’r diawl, a’i gyfarch efo rheg.
’Chos dyddiau hyn, a phawb yn gaeth, heb hawl i grwydro’n rhydd,
mae’r Tywydd Teg tu allan yn ein gwatwar ni bob dydd.
Geraint Lovgreen 8.5
7 Ateb Llinell ar y Pryd
Y Cŵps
Yn syfrdal o wahanol
Dywedwn nawr nad awn ‘nôl
0.5
Caernarfon
Dywedwn nawr nad awn ‘nôl
I ryw fory arferol
0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Pellter
Y Cŵps
A thrwy’r ffenest hon mi welaf res
o geir, yn stond, a wal a thopiau coed
yn glasu’n ddyddiol. Mi welaf haul
ac awyr las. O wrando’n astud, ar droed
mae’r mynd a dod tu hwnt i’r wal.
Mae f’anadl i yn siarad mwy â mi fy hun.
Mae’r cyfarfodydd Gwaith i gyd ar sgrîn.
Mae byw a bod i gyd drwy’r ffenest hon yn llun.
Rwy’n darllen Thomas Merton; hwn yw’r un
a wingai yn ei gell gan ddiffyg caethdra’i fyd.
A dywedodd, unwaith: nid â sŵn morthwylion, chwaith,
y codir teml ar ei thraed ond gan dawelwch gweddi fud.
Dafydd John Pritchard 9.5
Caernarfon
Paid mynd o flaen covid;
er bod gorwel dy fyd yn gam,
y feirws pell yn agos
a'th deulu agos mor bell;
ac er mor greulon yw Ebrill
a'i flagur heb eu gohirio,
cân ei adar yn hoelion yn dy ben,
a'r Pasg gwag wedi'u clensio,
paid mynd o flaen covid.
Cana yn hytrach o'th ffenest,
cura dy ddwylo ar garreg dy ddrws,
dysga ddaearyddiaeth newydd ein gobaith;
fel y gall ein cylchoedd meddwl ymledu
wrth dderbyn cloffrwymo ein cyrff.
A gwn y cawn eto ysgwyd llaw,
cofleidio'n wyllt wrth ddathlu gôl;
daw'r blas ar gymdeithasu'n ôl,
ond da ti... paid mynd o flaen covid.
Ifor ap Glyn 9.5
9 Englyn: Arian Poced
Y Cŵps
Gwelwn o bell ddatgloi ein byd – rywbryd,
Blagur Ebrill hefyd
I’r golau’n bwrw golud
Y ceiniogau gorau i gyd.
Huw Meirion Edwards 8.5
Caernarfon
O plis rhowch ffyrlo i’r plant: adre maent
drwy’r mis ac ni helpant.
Heddiw mwy wir na’u haeddiant
yw cael ’mond wyth deg y cant!
Ifan Prys 8.5
Cynigion Ychwanegol
Anogaeth mewn ceiniogau yw ein tâl
mewn Talwrn; ond, weithiau,
fe ddaw o hyd un neu ddau’n
agored at ein geiriau.
(cyflog nyrs)
Yn her a sŵn y peiriant - anadlu,
Heb edliw, heb seibiant,
Heb lol, heb gael gweld dy blant,
Heddiw, a ge’st dy haeddiant?