Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Ashley Evans o'r Benllech yn arddangos 'Step y Glocsen' yn yr Wyl. Ffidl Ffadl yn dawnsio yn yr 'Eil o Man'
06 Hyfref 2003
Â'r ysgolion newydd dorri am wyliau'r haf cychwynnodd wyth ar hugain o ddawnswyr a cherddorion Ffidl Ffadl am Wyl Geltaidd yn Chruinnaght yn Ynys Manaw.
Gwahoddodd Huw a Bethan, arweinyddion y grwp, ddau o'u cyfeillion i ymuno â hwy ar y daith arbennig yma sef y cerddor Rhiain Bebb a'r dawnsiwr Howard Potter.

Mae rhiain yn adnabyddus ym myd y ddawns werin yng Nghymru fel telynores a chwaraeydd acordion, a gyda Howard yn aelod selog o Gwmni Dawns Werin Caerdydd.

Wedi croesi o Lerpwl i borthladd Douglas rhaid oedd teithio ychydig tua'r Gogledd i dref fechan Ramsey lle cynhaliwyd yr wyl yn ôl yr arfer.

Roedd nifer o weithgareddau'r wythnos wedi eu lleoli yng ngwesty mwyaf y dref, sef The Grand Island Hotel ac yma hefyd yr oedd pawb a oedd yn cymryd rhan yn aros.

Heblaw am Ffidl Ffadl a rhai o'r partïon dawns a grwpiau gwerin lleol, roedd parti dawns o ardal Trebeurden yng ngogledd Llydaw, ffidlwyr a chwaraewyr acordion ifanc o ynysoedd yr Orkney, dawnswyr ifanc o Dingle yn Swydd Kerry yn Iwerddon a grwp o gerddorion a dawnswyr o gyffiniau Perranpoth ar arfordir gorllewinol Cernyw wedi eu gwadd eleni. Yn ogystal â'r dawnsio a'r gerddoriaeth mae'r wyl yn cynnal gweithdai yn ystod yr wythnos ar yr iaith frodorol, sef Manaweg.

Patrwm yr wyl i Ffidl Ffadl a'r holl ddawnswyr a cherddorion o'r gwledydd Celtaidd eraill oedd gorymdaith agoriadol drwy Ramsey, perfformiadau ym Mharc Mooragh ar gyrion y dref, ar y strydoedd, yn y tafarndai lleol, gweithgareddau amser te a min nos yn y gwesty (twmpath dawns, gweithdy a chyngherddau) ac ymweliadau ag ysgolion lleol a chartref yr henoed yn Ramsey.

Cafodd perfformiadau Ffidl Ffadl dderbyniad gwresog iawn gan y cynulleidfaoedd gyda dawnsiau bywiog a hwyliog fel Ceiliog y Rhedyn, Hoffedd ap Hywel, Ty Coch Caerdydd a Dawns Flodau Nantgarw yn dipyn o ffefrynnau.

Roedd Y Ddafad Gorniog yn ffefryn yn yr ysgolion oherwydd bod y 'ddafad' tua diwedd y ddawns yn mynnu cusan gan rai o'r athrawesau!

Profodd Step y Glocsen hithau i ddwyn sylw yn ystod yr wythnos, yn arbennig cyflwyniad y plant bach gyda chyfraniad unigol Siôn Gwilym yn derbyn llawer iawn o gymeradwyaeth. Yn ogystal cafwyd cadwyn o hwiangerddi gan y plantos i gyfeiliant y delyn deires ac ambell i gân werin ddi-gyfeiliant a chanu penillion yn yr hen ddull gan yr oedolion.

Roedd yr alawon Cymreig ar y ffidlau, y telynau teires, y pibgorn, yr acordion a'r gitâr wedi swyno sawl un yn ystod yr wyl ac wedi profi i fod yn boblogaidd iawn mewn ambell i sesiwn anffurfiol (.. a hwyr iawn) yn y Bar!

Gan bod ychydig oriau weithiau rhwng perfformiadau cafodd nifer o'r aelodau gyfle i ymweld â rhai o drefi a mannau o ddiddordeb hanesyddol ar yr ynys.

Roedd dringo grisiau cul a serth olwyn ddwr enfawr Laxey wedi codi pendro ar ambell un ac roedd pawb wedi dotio hefo pentref traddodiadol Cregneash gyda'i gasgliad o fythynnod to gwellt. Ymwelodd rhai â threfi bychan glan môr Peel, Port Erin a Castletown a bu eraill ar y tram ceffyl yn Nouglas cyn ymadael â'r ynys. glan môrDo, fe gafodd Ffidl Ffadlamser da iawn yn Chruinnaght eleni gwyl gyfeillgar wedi ei threfnu yn dda gyda'r haul yn tywynnu bob diwrnod heblaw am un prynhawn glawog!


Llwyddwyd i werthu sawl copi o CD y grwp a braf oedd gweld y plant a'r aelodau ifanc yn cymdeithasu hefo ieuenctid o blith y gwahanol grwpiau eraill a'r cerddorion hwythau yn rhannu alawon hefo'u cefndryd Celtaidd.

"Lle 'da ni'n mynd nesa'"? Dyna'r cwestiwn a ofynnwyd ar y llong yn ôl am Lerpwl gan ambell un o'r to ifanc megis Dyfan, Sean, Ashley a Gwennan. Wel mae'n debyg mai taith i Oslo, prifddinas Norwy ym mis Awst y flwyddyn nesa yw'r ateb ... Cawn weld!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý