Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Heulwen, Barry, Shadow a Wickes Dathlu cŵn tywys
Hydref 2006
Dathlu 75 mlynedd o hyfforddi cŵn tywys i'r deillion: stori Heulwen a Barry Dickinson, Amlwch ac arwyddocâd dyddiad 'annibyniaeth bersonol' arbennig.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o arwyddocâd y dyddiad 4 Gorffennaf o safbwynt bron iawn bob un Americanwr. Tybed faint ohonoch sy'n sylweddoli pwysigrwydd y dyddiad uchod yn fy hanes personol i?

Cafodd yr Americanwyr eu hannibyniaeth ar 4 Gorffennaf yn ôl yn 1776, ac ar yr un dyddiad yn 1983, cefais innau fy annibyniaeth hefyd mewn ffurf Labrador melyn, hynod o annwyl, o'r enw Opal.

Un ar hugain oeddwn i ar y pryd, a newydd gwblhau fy ail flwyddyn yn y Coleg Normal ym Mangor.

Treuliais fis yn y Ganolfan yn Bolton yn hyfforddi gyda fy ffrind newydd, ymhlith dwsin o ddeillion eraill o ogledd orllewin Lloegr. Yn ystod y mis, cawsom ein dysgu sut i weithio nid fel dau unigolyn mwyach, ond fel uned gwbl effeithiol oedd yn ymwybodol iawn o gryfderau yn ogystal â gwendidau'r naill a'r llall.

Aethom o gwmpas strydoedd gweddol ddistaw yn gyntaf, cyn symud ymlaen i'r siopau mawrion, marchnad leol Bolton, yr orsaf drên ac i drefi cyfagos ar y bysus.

Ar ddiwedd y cyfnod hyfforddi, dychwelais adref i Amlwch gan gyflwyno fy mhartner newydd i'r trigolion lleol. Cafodd Opal groeso brwd gan bawb wrth gwrs, ac ym mis Medi dychwelais i'r Normal gyda hi. Cyn pen dim roedd Opal wedi dod yn gyfarwydd iawn â phob rhan o'r campws, ac yn fwy sydyn byth roedd hi wedi dysgu'r gwahaniaeth rhwng y Globe, y Vaults a'r adeiladau eraill sydd mor agos at galonnau myfyrwyr Bangor!!

Cefais y fraint o weithio gyda Opal am un mlynedd a'r ddeg. Yn ystod yr amser yma priodais a symudais i lawr i Eastleigh yn Ne Lloegr. Llwyddodd Opal i ddygymod â'r newid byd yn hollol ddiffwdan, a phan gyrhaeddodd ein mab, Edwin, yn Ionawr 1992, cafodd yntau groeso heb ei ail gan fy nghyfaill ffyddlon.

Ar ôl ymddeol yn Ebrill 1994, dychwelodd Opal i Stockport i fyw gyda'r bobl oedd wedi gofalu amdani yn gi bach. Parodd ei hymadawiad loes ofnadwy i mi ar y pryd, ond erbyn hyn roedd ei hiechyd yn fregus a fedrwn ni ddim crybwyll ei gadael hi ar ben ei hun drwy'r dydd a finnau allan gyda'r ci newydd. Roedd fy hen ffrind yn haeddu llawer gwell na hynny a rhaid oedd dweud ffarwél. Cedwais mewn cysylltiad â'i pherchnogion newydd ac rydym yn dal mewn cysylltiad byth, er fod Opal wedi ein gadael ers blynyddoedd bellach.

Annie oedd fy nghi tywys nesaf - Labrador du, hynod o fywiog, gyda chalon fawr. Cawsom ein hyfforddi yn Southampton, a chwta dri mis yn ddiweddarach, i fyny i Fôn â ni ar y trên er mwyn cyflwyno Annie i'r teulu a'r cyfeillion.

Yn Nhachwedd 1996, daeth Sophie, ein merch, i'r byd. Roedd yr hen Annie wedi dangos diddordeb mawr yn yr holl baratoadau cyn i'r babi gyrraedd, gan dreulio aml i noson yn pwyso'i phen yn ysgafn yn erbyn fy mol gan wrando a theimlo'r babi'n symud. Wedi i mi ddychwelyd o'r ysbyty gyda Sophie, sylweddolais yn sydyn, wrth eistedd i gael te, fod Annie wedi diflannu. Roedd ei lle arferol o dan fy nghadair yn hollol wag. Meddyliais mai wedi pwdu yr oedd yn sgîl ymddangosiad y babi newydd. Ond nid oedd ffasiwn beth â phwdu yn hanes Annie. Cerddais i'r ystafell fyw i chwilio amdani a'i chysuro, a dyna lle roedd hi, wedi gosod ei hun yn daclus a thwt o dan stondin y cot lle cysgai Sophie. O'r diwrnod hwnnw ymlaen, roedd gan Annie nid un ond dwy swydd - ci tywys i mi wrth gwrs, a ffrind pennaf/gofalwraig bersonol Sophie.

Daeth Annie a ninnau yn ôl i Amlwch i fyw yn 2001. Erbyn hyn roedd hi'n naw oed ond yn benderfynol o ddygymod â'i chynefin newydd serch hynny. Gweithiodd am ddwy flynedd arall a chefais ganiatâd i'w chadw wedi iddi ymddeol. Yn anffodus yn fuan iawn wedyn cawsom wybod fod cancer arni a dyna ddiwedd ar berthynas werthfawr arall. Rwy'n parhau i golli'r ci bach gyda'r galon anferth hyd heddiw!

Yn ystod mis Mai 2003, cefais fy hyfforddi gyda Shadow - labrador/retriever melyn hynod o addfwyn sydd yn parhau i weithio i mi hyd heddiw. Geist oedd Opal ac Annie, ac er dryswch mawr i Shadow, sydd yn gi, cafodd y creadur druan: 'Good girl!' fwy nag unwaith yn ystod ein cyfnod hyfforddi.

Erbyn hyn mae gan y gŵr, Barry, gi tywys hefyd - Alsatian anferth o'r enw Wickes. Mae Shadow a Wickes yn ffrindiau pennaf yn ogystal â gweithwyr ardderchog. Yn sicr mae'r ddau yn adnabyddus iawn bellach yn troedio strydoedd Amlwch a'r cyffiniau, gyda ni'n dau yn dilyn.

Bellach mae yna wyth ci tywys ar Ynys Môn - dau yng Nghaergybi, un ym Menllech, un ger Biwmares, un yng Ngwalchmai a thri yn Amlwch. Ym mis Hydref eleni yr ydym yn dathlu 75 mlynedd o sefydlu Cymdeithas Cŵn Tywys ym Mhrydain. Rydw i wedi mwynhau dros 23 mlynedd o annibyniaeth personol yn sgîl bodolaeth y gymdeithas hon a'i staff. Mae fy nyled yn fawr iddynt ac yn enwedig i'r tri cyfaill ffyddlon pedair coes sydd wedi rhannu fy mywyd ac wedi gweithio mor ddygyn i mi ers y dyddiau pwysig yna yn ôl yn 1983, 4 Gorffennaf, fy 'niwrnod annibyniaeth' personol i."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý