Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Criw y Charles ac Eliza Laura ar ôl eu gorchest arwrol Yr Excel 1927
Gorffennaf 2007
Ar yr wythfed ar hugain a'r nawfed ar hugain o Hydref 1927, fe gyflawnodd y Charles & Eliza Laura, y cwch a elwid yn gwch 'rhwyfo a hwylio' un o'r ymgyrchoedd achub mwyaf anodd yn hanes y môr.
Fe'i disgrifiwyd gan yr RNLI fel un o'r gwasanaethau achub mwyaf arwrol yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Derbyniwyd neges o Bwynt Lynas bod llong mewn argyfwng tua thair milltir a hanner tu draw i'r goleudy. Pan lansiwyd y Bad Achub tua 3 o'r gloch y prynhawn roedd tymestl enbyd yn ei hanterth. Capten William Roberts, yr ail gocsyn a gymerodd yr awenau, gyda chefnogaeth y gŵr hynod brofiadol Capten Owen Jones.

Ymhen hir a hwyr daethant o hyd i'r Excel. Roedd hi mewn cyflwr truenus, mewn perygl o suddo'n ddisymwth gan ei bod o dan ddŵr yn barod.

Yn dilyn cyngor Owen Jones penderfynodd y cocsyn gymryd y siawns o fynd a'r Bad Achub yn ei lawn hwyliau, dros yr Excel. Bu'r fenter arwrol yn llwyddiannus. Fel yr hyrddiwyd y cwch achub dros ddec yr Excel gan y mor stormus cipiwyd y tri morwr a oedd yn gafael yn dynn yn rhaffau'r llong a'u rhoi'n ddiogel ar y Bad Achub, cyn i'r Excel suddo.

Yn y broses, difrodwyd y Bad Achub yn ddrwg, ac yn fuan wedyn rhwygwyd ei hwyl flaenaf yn garpiau.

Oherwydd grym y corwynt roedd yn amhosibl dychwelyd i Foelfre, felly fe'u gorfodwyd i droi yn eu hunfan gan ddibynnu ar ddal gafael am eu bywyd yn eu rhaffau diogelwch. Roedd y cwch achub yn llawn o ddŵr. A'r criw ynddo y rhan fwyaf o'r amser. Nid hwylio ar y môr yr oeddynt ond drwyddo.

Am 2 o'r gloch y bore, cyraeddasant Ynys Seiriol, a'r unig ddewis oedd yn agored iddynt oedd cysgodi rhag y corwynt ym Mhenmon.

Ar y lan, roedd anesmwythyd mawr am nad oedd y cwch achub wedi dychwelyd ond ni fedrodd cwch achub Biwmares, er fod ganddo injan, fynd allan i'w dynnu i fewn tan y bore canlynol. Roeddent wedi bod allan ar y môr am ddwy awr ar bymtheg, ac arhosadd y cocsyn William Roberts wrth y llyw drwy gydol yr amser. Am sawl diwrnod wedyn roedd yn hollol ddall oherwydd yr halen, y gwynt a'r straen. Roedd y criw i gyd wedi ymlâdd ar ôl eu brwydr enbydus a hir.

Dyfarnwyd gwobr uchaf yr RNLI y Fedal Aur i'r cocsyn William Roberts ac i Capten Owen Jones am eu gorchest arwrol. Rhoddwyd Medalau Efydd i weddill y criw, ac i weddw'r William Roberts a fu farw'n y drychineb.

Gwasanaethodd y mwyafrif o'r criw dewr y cwch achub am beth amser wedi hynny. Enillodd Hugh Owen ddwy Fedal Efydd ychwanegol yn ddiweddarach, un ohonynt am ei ran yn achub yr Hindlea yn 1959.

Raedd y William Roberts a fu farw yn hen daid i Mrs Else Raberts a'i brawd William Raberts, Morannedd a fu'n gocsyn ei hun am flynyddoedd. Roedd yn hen daid hefyd i Mrs Linda Thamas, Benllech ac i Helen ac Eleri Treflys gynt, sy'n byw ar hyn o bryd yn y De.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý