Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Cyflwyno'r aberthged Cyhoeddi Eisteddfod Môn a'r cylch, 2009
Mai 2008
Ddechrau mis Mai, cafwyd gorymdaith drwy Amlwch i gyhoeddi y bydd Eisteddfod Môn yn dod i Amlwch a'r Cylch y flwyddyn nesaf.

Yn ffodus iawn, roedd yr haul yn tywynnu a chafwyd prynhawn arbennig o braf yn ystod y daith ac yna yn y seremoni wrth feini'r Orsedd yn Ysgol Syr Thomas Jones.

Cychwynnodd yr orymdaith o'r Ysgol Gynradd gyda Band Porthaethwy'n arwain ac roedd yn cynnwys y Derwydd Gweinyddol, Cyn-Archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Robyn Llŷn; aelodau o Orsedd Môn, Cyflwynydd yr Aberthged, Plant y Ddawns Flodau, gwahoddedigion, swyddogion pwyllgorau lleol, cynrychiolwyr o Eisteddfod Môn Llandegfan ac unrhyw un arall a oedd yn dymuno ymuno yn yr orymdaith.

Yna cafwyd Seremoni'r Cyhoeddi ar dir Ysgol Syr Thomas Jones. Siôn Roberts a Gruffydd Owen oedd cludwyr Baner yr Orsedd. Yn ystod y seremoni, roedd y Derwydd Gweinyddol, Huw Goronwy'n trosglwyddo'r awenau i'r Derwydd newydd, Eurfon. Canwyd Cân y Croeso gan Haf Wyn gyda'i wyres, Ellen Ann.

Darllenwyd y Proclamasiwn gan Gofiadur yr Orsedd, Evan. Yn ystod y seremoni urddwyd saith o aelodau newydd i'r Orsedd gan gynnwys o'r ardal yma, Evie Jones, Llannerch-y-medd i'r Wisg Werdd a Siân a Ken Owen, Marian-glas i'r Wisg Las.

Cyflwynwyd yr Aberthged gan Anys Jones gyda phlant Ysgolion Cynradd Amlwch, Carreg-lefn, Moelfre a Rhosybol yn aelodau o'r Ddawns Flodau. Datganwyd yr Arawd gan Robyn Llyˆn ac estynnwyd croeso i bawb i Eisteddfod Môn Bro Llandegfan a gynhaliwyd yr wythnos ddilynol gan Bill Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith ac rhoddwyd gwahoddiad i Eisteddfod Gadeiriol Môn 2009 gan Alwen Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Amlwch a'r Cylch. Hefyd, cyflwynodd copi cyntaf o'r Rhestr Testunau i'r Derwydd Gweinyddol.

Mae'r Rhestr Testunau ar werth ar hyn o bryd - am 50c yn unig - rhywbeth at ddant pawb.

  • Eisteddfod Môn

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý