Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Y gofeb Y Gofeb yng Nghemaes
Ebrill 2009
Ddiwedd mis Medi dwythaf roedd yn rhaid clirio Neuadd y Pentref, Cemaes am fod y Neuadd yn cael adnewyddiad sylweddol.

Wedi symud pob peth o'r Neuadd roedd un peth ar ôl a hwnnw oedd 'Memorial' i'r hogia oedd wedi colli eu bywyd yn Rhyfel 1914-1918.

Mae cofnod yn Awst 27ain 1919 o gyfarfod Pwyllgor y Neuadd "Fod y Pwyllgor hwn yn rhoddi ar gof a chadw, ddiolchgarwch diffuant i ŵyr Y Ddrama, Cemaes yn rhoddi i fyny yn yr Hall Gist Goffa mor ddestlus i ddewr-wŷr ieuanc yr ardal a gallasant eu bywydau yn y rhyfel diweddar."

Ar ôl tynnu'r Gofeb a'i chadw yn saff yn yr hen Glwb Billiards, penderfynwyd bod yn rhaid adnewyddu'r Gofeb.

Roedd yn amlwg fod rhaid cael rhywun gyda sgiliau arbennig i ymgymryd a'r gwaith.

Bu peth pendroni pwy oedd gyda'r sgiliau perthnasol. Roedd hogyn lleol, ond yn byw yn Llangefni, gyda blynyddoedd o brofiad yn gwneud y math yma o waith, sef Alan Torr.

Ar ôl glanhau'r Gofeb daeth Alan o hyd i ddau label un bob ochr i'r Gofeb, un yn dweud fod y Gofeb wedi ei gwneud allan o goed y llong HMS Britannia, Cadet Trainig Ship, 1869-1905.

Hefyd ar ôl glanhau'r Gofeb fe ddaeth yn amlwg fod y Groes sydd ar ganol y Gofeb wedi cael ei gwneud allan o gopor, doedd hyn ddim yn amlwg ar y cychwyn gan fod y Groes yn ymddangos mai wedi ei phaentio yn lliw gwyrdd oedd.

Mae enwau'r hogia a gollodd eu bywyd yn cael eu hail ysgrifennu ar y Gofeb, a bydd yn cael ei gosod yn ôl yn y Neuadd mewn lle amlwg.

Gwilym Iorwerth


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý