Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Un ochr o fedal arian Smithfield 1858 O'r Dwygir i Smithfield
Chwefror 2009
Stori gwerth ei hail adrodd yw'r stori sydd tu ôl i'r fedal arian fawr gyda phortread o ben John Charles, Iarll Spencer (hen daid Ledi Diana) ar un ochr iddi a phortread o ben Charles, Dug Richmond ar yr ochr arall, y ddau yn Lywyddion Sioe Smithfield 1825-1860.

Ar yr ymyl gellir darllen - 'presented to Mr John Owen, Dwygir Farm, Amlwch, Anglesey, as breeder best beast in class 1858.

Mae fferm y Dwygir yn Rhosgoch ar gyrion Amlwch. Cafodd adeiladau'r fferm ei dymchwel pan ddaeth cwmni Shel i'r ardal i godi eu tanciau storio olew ar ddechrau'r 70au y ganrif ddiwethaf.

Yn 1793 sefydlwyd y Bwrdd Amaeth gan y Llywodraeth i geisio gwella a datblygu amaethyddiaeth trwy'r wlad.

Gŵr fu'n cynorthwyo gyda'r gwaith yma oedd y bardd Dafydd Thomas - Dafydd Ddu Eryri o Amlwch.

Dyfeisiwyd offer newydd a gwell ar gyfer trin y tir, plannu a chynaeafu cnydau. Peiriant newydd enwog iawn oedd y Scotch Plough gyda gofaint fel John Evans, Maenaddfwyn, yn wneuthurwr lleol o'r aradr arbennig yma.

Dechreuwyd defnyddio gwrtaith cemegol, llawer o hwn yn cael ei gynhyrchu yng ngwaith Mills yn Amlwch.

Yn fferm Dwygir defnyddiwyd 'gwano' fel gwrtaith, cwmni Davies o Amlwch yn mewnforio'r gwrtaith.

Y teulu Owen oedd tenantiaid Dwygir a bridio gwartheg oedd prif ddiddordeb John y mab.

Roedd ffermio da yn sicrhau cyflenwad amrywiol o gnydau ac yn magu gwartheg ardderchog.

Perchenog y Dwygir oedd William Owen Stanley ddaeth yn ddiweddarach yn Arglwydd Stanley ac yn Aelod Seneddol Ynys Môn.

Roedd yn ymwelydd aml a'r Dwygir gyda'i finteioedd saethu a rhaid oedd i'r teulu Owen baratoi gwledd arbennig ar eu cyfer.

Cymerai'r Arglwydd Stanley ddiddordeb yn y fferm a'r anifeiliaid ac awgrymodd y dylai John fynd ag un o'r bustych i'w arddangos yn Sioe Smithfie1d yn Llundain.

Roedd John tua 38 oed ar y pryd ond heb symud ryw lawer o'r ardal. Cytunodd i fynd a'r bustach 4 oed (short horn mae'n debyg) i'r daith bron 300 milltir i Smithfield.

Taith ar droed i John a'r bustach oedd hon, taith o tua 6 wythnos.

Cyn cychwyn rhaid oedd mynd i Lannerch-y-medd i bedoli'r bustach a chafodd set sbar o bedolau rhag ofn y byddai angen ail bedoli ar y ffordd.

Mae'n siŵr fod John wedi cymysgu a phorthmyn y cyfnod a arferai ddod i ffeiriau Llannerch-y medd i brynu gwartheg cyn eu cerdded i farchnadoedd a ffeiriau canolbarth Lloegr ac ymhellach.

Dilyn ôl troed y rhain a wnaeth John ar ei daith gan deithio tua 20 milltir y dydd gydag ysbeidiau i ddadflino.

Cai lety dros nos gyda theulu neu ffrindiau, ond wrth bellau o Fôn rhaid oedd dibynnu ar y tai tafarnau niferus. Gwyddom iddo aros y noson gyntaf gydag aelod o'r teulu yn Lledwigan Llangefni, a'r ail noson ym Methesda cyn dilyn ymlaen ar y 'Welsh Road' drwy Landegla i gyfeiriad Wrecsam a Chroesoswallt cyn croesi'r ffin i'r Amwythig, heibio i Northampton a Bedford a chyrraedd pen y daith yn Llundain.

Mae'n debyg i John a'r bustach gyrraedd Llundain ryw ddwy wythnos cyn dyddiau'r Sioe a chafodd droi y bustach i gaeau un o ffermwyr caredig ar gwr y ddinas er mwyn iddo adfer ei gyflwr a 'chodi ei fol'.

Mae cofnodion y Royal Smith field Club yn dangos 7-10 Rhagfyr 1858 - Class 25 bred by John Owen Dwygir Farm, AmlwchAnglesey, fed on grass, hay, linseed cake, bean and barley meal '.

Ar ôl rowndiau cynnar y gystadleuaeth, cyrhaeddodd bustach John y rownd derfynol gan ennill y wobr gyntaf yn ei adran.

Ar ôl y seremoni cafodd y bustach ei werthu am bris da a chyrhaeddodd John yn ôl i Fôn i ddathlu ei gamp nodedig gyda'i deu1u yn Dwygir.

Diolch am y stori gan Mr John Owen, gor--wyr, cofnodion y Royal Smithfield Club a chylchgrawn BYD rhif9.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý