Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Owen Griffiths a'i weithlu yn Nhredath Diwedd Cyfnod
Mawrth 2003
Am 34 o flynyddoedd y bu Becws y Paget yn gweithio ond roedd hanes cwmni Owen Griffiths a'i feibion yn mynd yn ôl ymhellach o dipyn.

Bachgen o Amlwch oedd Owen Griffiths a ddechreuodd weithio ym mecws Stryd Wesle, neu Becws yr Hen Het, pan yn 14 oed. Cario dwr oedd ei waith bryd hynny. Yn ddiweddarach fe aeth yn brentis o fecar gyda'r diweddar Richard Gussey ond fe dreuliodd nifer o flynyddoedd ar y môr yn ystod y 1930au a thrwy'r Ail Ryfel Byd.

Bu'n gweithio am gyfnod wedyn yn Tarvin ond yn 1953 fe ddychwelodd, gyda Bessie, ei wraig a'r plant, John, Margaret a Currie i Amlwch. Mentrodd brynu Becws Ben Pritchard yn Nhredath ac yno y bu'n cadw busnes tan 1969.

Ar ôl prynu Siop y Paget fe gododd fecws newydd, modern a dechrau pobi yno yn Awst 1969. Cyd-ddigwyddiad rhyfedd oedd i Owen ac Elizabeth Griffiths o Amlwch ddod yn berchnogion ar siop a fu'n eiddo i Owen ac Elizabeth Griffiths arall am flynyddoedd cyn hynny. Daeth cryn lwyddiant i'r busnes gyda'r teulu i gyd yn cydweithio mewn gwahanol ffyrdd. Danfonwyd bara a chacennau ar draws Sir Fôn ac ymhell i Sir Gaernarfon a rhaid dweud bod eu bara brith yn nodedig.

Bu farw Owen Griffiths yn 1987, un mlynedd ar bymtheg ar ôl ei wraig, ond parhaodd y busnes o dan ofal John a Currie er gwaethaf cystadleuaeth gan y cwmnïau mawrion sydd yn brysur lladd ein busnesau bach. Serch hynny, gwaeledd a ddaeth a'r gwaith i ben yn y diwedd, ac ar 31 Ionawr 2003 fe bobwyd y dorth olaf ym Mecws y Paget.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý