Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Chwefror 2009

Gwylio'r Kremlin

Vaughan Roderick | 15:40, Dydd Iau, 26 Chwefror 2009

Sylwadau (4)

Does 'na neb yn y cynulliad sy'n fwy hoff o gymdeithasu na'r Ceidwadwyr. Maen nhw wastad yn barod am baned neu beint, i gyfnewid clecs a sibrwd sibrydion.

Nid fel 'na mae pethau heddiw. Roedd dirnad gwleidyddiaeth fewnol y Kremlin yn nyddiau Brezhnev yn hawdd o gymharu â cheisio canfod beth sy'n mynd ymlaen y tu ôl i ddrws caeedig swyddfeydd y Ceidwadwyr yn Nhŷ Hywel.

Serch hynny mae hi'n ymddangos bod 'na dipyn o ryfel cartref yn mynd 'mlaen gyda Nick Bourne yn ceisio ail-sefydlu ei awdurdod ar ôl y tymhestloedd ei dreuliau a'r "gyfrol gyfeiliornus" ynghylch Rhodri Morgan.

Daeth Nick o fewn y dim i golli'r arweinyddiaeth ar y pryd. Mae'n debyg mai dim ond gwyliau'r Nadolig a gwrthateb i ymosodiadau hysterig y "Western Mail" wnaeth achub ei groen. Gallai'r rheiny oedd wedi hogi eu cyllyll fod yn difaru peidio eu defnyddio heddiw.

O'r hyn ydym yn deall fe wnaeth y mab darogan Jonathan Morgan, y ffefryn i olynu Nick, wrthod cael ei symud o fod yn llefarydd iechyd i fod yn llefarydd addysg. O ganlyniad does dim swydd ganddo fe ar hyn o bryd. Y si yw mai Andrew RT Davies yw'r llefarydd iechyd newydd.

Nid Jonathan yw'r unig aelod anhapus. Mae'n ymddangos bod Alun Cairns, Brinle Williams a William Graham hefyd yn dawel gynddeiriog. Ydych chi wedi sbotio'r patrwm? Mae'r hen griw yn cael ei siaffto a chywion 2007 yn cael eu dyrchafu. Mae Nick yn gamblo y bydd hynny'n sicrhâi cefnogaeth ambell i aelod allweddol fel Darren Millar ac Angela Burns i'w arweinyddiaeth gan adael i Jonathan i fferru yn Siberia'r meinciau cefn.

Un cwestiwn, pam ar y ddaear y mae Brinle'n anhapus? Does bosib bod e wedi cael ei symud o'r briff amaeth? Wedi'r cyfan ar wahân i ffermio unig arbenigedd Brinle yw achosi trafferth i fodurwyr ac anghyfleustra i deithwyr. I ba swydd arall y byddai fe'n gymwys? Fe wnâi gyfrannu pum punt i "Comic Relief" pe bai'n cael ei benodi'n Llefarydd Trafnidiaeth!

Morgan Mâs?

Vaughan Roderick | 12:35, Dydd Iau, 26 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

Dyw pethau ddim yn dda yn swyddfeydd y Ceidwadwyr. Mae'n ymddangos bod ymdrech gan Nick Bourne i adrefnu ei gabinet wedi troi'n dipyn o lanast gyda'r aelodau wnaeth hogi eu cyllyll a methu trywannu cyn y Nadolig yn gandryll. "Uffernol" yw disgrifiad un Ceidwadwr o'r sefyllfa.

Y sibryd yw bod Jonathan Morgan, y ffefryn i olynu Nick, wedi gadael y cabinet ar ôl gwrthod derbyn y swydd o lefarydd addysg.

Pam heddiw, Nick, pam heddiw? Ni'n ddigon prysur yn barod yn dadansoddi canlyniadau arolwg barn y Â鶹ԼÅÄ! Mwy am rheiny am bump!

Cofeb Clive

Vaughan Roderick | 11:05, Dydd Iau, 26 Chwefror 2009

Sylwadau (1)

Dydw i erioed wedi credu mewn newyddiaduraeth ddiduedd. I rai o fewn y Â鶹ԼÅÄ mae hynny'n gabledd. Cyn i fi gael y sac felly, mae'n well i fi esbonio.

Nid anghytuno a'r ddelfryd ydw i ond a'r realiti. Efallai bod hi'n bosib bod yn ddiduedd mewn byd o ffantasi, ar fryniau Bro Afallon neu mewn maniffesto etholiadol! Yn y byd real mae newyddiaduraeth ddiduedd yn gwbwl anymarferol ac amhosib. Yn ei hanfod mae newyddiadura yn broses o gasglu ac o ddewis. Mae dewis, o'i natur, yn fater goddrychol.

Yn ddisymwth yr wythnos hon mae Clive Betts wedi ymddeol ar ôl dros ddeugain mlynedd o newyddiadura gwleidyddol am resymau iechyd. Y penwythnos hwn hefyd mae'n ddeg mlynedd ar hugain ers refferendwm 1979.

Ar Fawrth yr ail, 1979 gyda'r cwrw'n llifo yng nghlybiau Llafur Islwyn ac wrth i John Morris syllu ar yr eliffant ar stepen ei ddrws go brin y byddai unrhyw un wedi proffwydo y byddai gan Gymru gynulliad cyn troad y ganrif.

Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, ar ddechrau'r wythdegau cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ym merthyr i drafod lansio ymgyrch o blaid datganoli mewn swyddfa undeb y Merthyr. Roedd Denzil Davies a Geraint Howells yno a rhyw ddeg ar hugain o bobol yn y gynulleidfa, os hynny.

Yng nghefn yr ystafell roedd 'na grŵp arall o riw ddeg o bobol yn eistedd gyda'u camerâu a'u llyfrau nodiadau. Doedd dim diddordeb da'r cyhoedd yn y cyfarfod. Yn wrthrychol, pe bai cyfarfodydd yn cael sylw ar sail y nifer oedd yn bresennol, dyweder, roedd y cyfarfod ym Merthyr yn gwbwl dibwys ac amherthnasol. Doedd newyddiadurwyr gwleidyddol Cymru ddim yn credu hynny. Ein barn oddrychol ni oedd bod y cyfarfod yma'n bwysig ac yn haeddu sylw.

Mae Pat Hannan wedi dadlau bod Cymru yn bodoli fel uned wleidyddol oherwydd penderfyniad y Â鶹ԼÅÄ yn y dauddegau i wasanaethu Cymru Gyfan o Gaerdydd yn hytrach nac o Fryste a Manceinion. Dydw i ddim yn siŵr fy mod yn llwyr gytuno ond rwy'n sicr o un peth. Un o'r rhesymau y mae'r cynulliad yn bodoli heddiw yw oherwydd ystyfnigrwydd newyddiadurwyr fel Clive, John Osmond, Geraint Talfan Davies ac eraill wrth fynnu bod y cwestiwn cyfansoddiadol yn bwysig yn wyneb difaterwch eu darllenwyr a'u gwylwyr.

Dyw hynny ddim yn golygu, fel mae rhai yn credu, bod newyddiadurwyr gwleidyddol Cymru i gyd yn ddatganolwyr pybyr neu'n bumed golofn i Feibion Glyndŵr. Roedd newyddiadurwyr oedd yn ffyrnig yn erbyn datganoli (Geoff Ritch, Golygydd y South Wales Echo, er enghraifft) yn cytuno ynglŷn â phwysigrwydd y cwestiwn ac yn dyrchafu'r pwnc yn eu dewisiadau newyddiadurol.

Roeddwn yn meddwl am Clive wrth gerdded trwy'r senedd y bore 'ma ac fe ddaeth geiriau cofeb Cristopher Wren yn Saint Paul's i'm meddwl "'Reader, if you seek his memorial - look around you."

Brysia wella Clive!

Y 10 Uchaf - Bro Morgannwg

Vaughan Roderick | 14:42, Dydd Mawrth, 24 Chwefror 2009

Sylwadau (2)

Dyma beth rhyfedd i chi. Fe ges i fy magu ar gyrion gogleddol Caerdydd. Roedd ein cartref yn yr un etholaeth a rhannau goludog tref Caerffili ac ambell i bentref ar gyrion Casnewydd. Pa etholaeth oedd honno? Caerffili? Gogledd Caerdydd? Casnewydd? Na, Na ac Na eto. Roeddwn yn byw yn hen etholaeth Y Barri, creadigaeth ryfedd a rhyfeddol y comisiwn ffiniau.

Roedd yr etholaeth honno'n cynnwys y rhan fwyaf o erwau ffrwythlon Bro Morgannwg a thref y Barri gyda chwt cul yn amgylchynu'r brifddinas ac yn cyrraedd y môr rhwng Caerdydd a Chasnewydd. Roedd y cwt hwnnw yn cynnwys rhai o gymunedau mwyaf cefnog Cymru. O ganlyniad, etholaeth Y Barri oedd cadarnle mwyaf y Ceidwadwyr Cymreig.

Yn anffodus i'r Torïaid yn 1974 collodd ei chwt a rhedodd i ffwrdd. Ar ôl naddu etholaeth oedd yn hynod ffafriol i'r Ceidwadwyr fe waneth y comisiwn ffafr a Lafur wrth bennu ffiniau etholaeth newydd Bro Morgannwg. Trwy hollti Penarth o weddill y Fro crëwyd sedd oedd yn hanner gwledig, yn hanner trefol ac yn hynod ymylol.

Enillodd Llafur y Fro am y tro cyntaf ers 1951 mewn isetholiad cofiadwy yn 1989 pan gurodd yr aelod seneddol presennol John Smith y Ceidwadwr lliwgar Rod Richards

Dyw gwasanaeth Mr Smith ddim wedi bod yn ddi-dor. Methodd Llafur gadw llygad ar y bel yn etholiad 1992 gan feddwl bod mwyafrif John o 6,028 yn ddigon i warantu buddugoliaeth. Mae'n ymddangos bod y Torïaid o'r un farn. Yn lle enwebu un o'r mawrion lleol dewiswyd Walter Sweeney, gwr heb unrhyw gysylltiad â Chymru. Mae Walter yn ddyn dymunol a gweithgar ond byddai neb yn honni ei fod yn gyllell arbennig a siarp. Roedd hi'n dipyn o sioc felly pan gurodd John Smith o drwch blewyn.

Gyda mwyafrif o 19 doedd dim gobaith i Walter wrthsefyll swnami Llafur 1997. Fe aeth yntau yn ôl i Swydd Efrog a John Smith yn ôl i San Steffan. Enillodd Llafur yr etholaeth yn weddol handi yn yr etholiadau dilynol ond erbyn 2005 roedd mwyafrif John Smith wedi dirywio i 1808. Aeth pethau o ddrwg i waith yn etholiad y cynulliad gyda Jane Hutt yn crafu mewn gyda mwyafrif o 83. Does dim dwywaith yn fy meddwl i y byddai hi wedi colli pe bai Alun Cairns wedi ymgeisio am y sedd.

Ond nid ar y sedd cynulliad mae llygaid Alun ond ar y sedd seneddol. Mae'n debyg o'i hennill hefyd os nad oes 'na newid sylfaenol yr hinsawdd wleidyddol. Mae gan John Smith bleidlais bersonol gref oherwydd ei waith caled i sicrhâi datblygiad y ganolfan hyfforddi filwrol yn Sain Tathan ond go brin y bydd hynny'n ddigon i wrthsefyll ton Geidwadol. Os ydy David Cameron yn Brif Weinidog mae'n werth betio y bydd Alun Cairns yn eistedd ar y meinciau y tu ôl iddo fe.

Mae 'na un peth bach arall gwerth nodi am Fro Morgannwg. Am ddegawdau roedd arfordir y De-ddwyrain yn dir creigiog ac anffrwythlon i Blaid Cymru. Bro Morgannwg oedd yr eithriad. Yn Ninas Powys i ddechrau ac yna yn rhai o wardiau'r Barri adeiladwyd sylfaen gadarn mewn llywodraeth leol. Mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn etholiadau'r cynulliad. Yn 2007 derbyniodd ymgeisydd Plaid Cymru bron i bum mil o bleidleisiau. Does 'na ddim arwydd hyd yma bod y patrwm hwnnw yn ymestyn i etholiadau seneddol. Gyda'r ornest rhwng y ddwy blaid fawr yn un agos a ffyrnig y tro nesaf mae'n debyg y bydd y wasgfa ar Blaid Cymru mewn etholiadu seneddol yn parhau.

Cynhaeaf Toreithiog

Vaughan Roderick | 13:07, Dydd Mawrth, 24 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

Mae'r banciau ar eu tinau, ffatrïoedd yn cau, methdaliadau'n cynyddu a swyddi'n diflannu. Ond oes 'na unrhyw un sydd ar ei ennill o'r llanast economaidd?

Oes, fel mae'n digwydd. Ffarmwrs. Yn ôl ffigyrau Llywodraeth y Cynulliad mae incwm ffermwyr mynydd Cymru i fyny 16%. Yn ffodus mae gan y ffermwyr hynny lle i gwyno o hyd! Mae'r ffermwyr llaeth wedi gwneud yn well na nhw gyda chynnydd o 22%.

Cerddwch mewn i fanc a gofynnwch am fenthyciad ac fe wnewch ganfod bod y coffrau ar gau. Ychwanegwch y ffaith eich bod yn ffermwyr ac fe mae hi fel bod yn ôl yn nyddiau mwyaf afradlon Northern Rock. Ar draws y sector mae 'na fuddsoddant helaeth i elwa o'r dyddiau da a moderneiddio'r diwydiant.

Beth yw'r esboniad? Efallai bod cael Cardi fel Gweinidog Amaeth yn help ond y cwymp yng ngwerth y bunt sy'n bennaf gyfrifol. Mae taliadau fferm sengl yn cael eu pennu yn Ewros. Gyda'r bunt yn wan mae hynny'n golygu o gwmpas deg y cant yn ychwanegol ar y siec grant. Dim ond dechrau'r newyddion da yw hynny.

Mae pris bwyd o dramor i fynnu a'n hallforion yn fwy cystadleuol. Mae allforion biff yr Iwerddon i Brydain, er enghraifft, wedi gostwng yn ddifrifol tra bod cig oen Cymru yn llifo i'r cyfandir.

Yn wyneb hyn oll oes 'na bosibilrwydd y bydd y Llywodraeth yn ailgyfeirio peth o'r cymorth cyhoeddus o'r ffermwyr i sectorau o'r economi sydd wynebu argyfwng?

Dim ffiars o beryg. Mae'r Gymru wledig yn rhy bwysig i Blaid Cymru. Gall ein hamaethwyr stwffio'u harian dan y fatres a chysgu'n braf!

Rialtwch

Vaughan Roderick | 22:27, Dydd Gwener, 20 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

Dyma ffilmiau'r penwythnos. Cofiwch taw'ch awgrymiadau sy'n cadw'r gyfres yma i fynd! Roedd hi i fod i orffen ddeufis yn ôl!

"Salsa Celtica" i ddechrau!

Teledu Pacistan yn dathlu ei ddeugain.

Darpar newyddiadurwyr yr Urdd yn codi braw!

Ac yn olaf Huw Puw. Diawch, roedd HTV yn gwneud stwff da, weithiau!

Cawl o gogydd

Vaughan Roderick | 20:32, Dydd Gwener, 20 Chwefror 2009

Sylwadau (2)

Beth ar y ddaear sy'n bod ar gynghorwyr Llafur Caerdydd? Oes 'na firws yn y dwr, dwedwch?

Anghofiwch Ramesh Patel am eiliad. Ystyriwcharweinydd Grŵp Llafur y cyngor, Ralph Cook, ynghylch ffrae arall am ysgolion, y tro hwn yn nwyrain y ddinas.

Dyw addysg Gymraeg ddim yn ffactor y tro yma. Does dim angen elfen ieithyddol i gynddeiriogi'r Cynghorydd Cook.

"If the proposal is approved by the Assembly Government then the council will proceed with it at great risk. The costs are set to rise as the site will have to be secured like a fortress, builders will have to be paid danger money and supplies will be blockaded. The people feel that strongly about it."

Beth? Arweinydd y Grŵp Llafur yn proffwydo (neu'n bygwth) tor-cyfraith? Beth nesaf?

Yn wahanol i Rhodri Morgan dyw'r cynghorydd ddim yn gallu rhwystro ymchwiliad i'w sylwadau. Mae'n anodd dychmygu na fydd 'na gwyn swyddogol yn ei erbyn.

Un dyn bach ar ôl

Vaughan Roderick | 12:47, Dydd Gwener, 20 Chwefror 2009

Sylwadau (1)

Mae'n hawdd anghofio ond mae eleni yn flwyddyn etholiad. Ymhen ychydig fisoedd fe fydd gofyn i ni fwrw ein pleidleisiau i ddewis cynrychiolwyr Cymru yn Senedd Ewrop.

Mae'n anodd teimlo llawer o frwdfrydedd ynghylch yr ornest o ystyried y fathemateg. O'r pedair sedd byswn yn fodlon betio ein cwningen anwes y bydd Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn ennill un yr un. Dim ond un sedd sydd yn y fantol felly.

Er mwyn ennill y sedd honno mae'r targed i Blaid Cymru a'r Torïaid yn un digon syml i osod ond hynod anodd i gyrraedd. Y cyfan sydd angen yw ennill mwy o bleidleisiau na Llafur. Y cyfan sydd angen? Dyw hynny ddim wedi digwydd mewn unrhyw etholiad yng Nghymru ers dauddegau'r ganrif ddiwethaf. Ydy'r fath beth hyd yn oed yn yn bosib? Wel, ydy ond mae'n dibynnu ar sawl "os"!

Os oedd yr etholiad yn troi'n refferendwm ar yr economi ac os oedd seren UKIP yn pylu ac os oedd pleidleiswyr y cymoedd yn methu troi mas mae'n bosib dychmygu y gallai'r Torïaid drechu Lafur.

Yn yr un modd pe bai pleidleiswyr y cymoedd yn dewis cicio Llafur fel gwnaethon nhw yn 1999 a phe bai'r Gymru wledig yn pleidleisio'n drymach na'r Gymru ddinesig gallai Plaid Cymri gyrraedd y brig. Annhebyg, ond posib.

Oes 'na unrhyw blaid arall a gobaith o ennill y bedwaredd sedd? Unwaith eto, mae'r fathemateg yn syml. Y nod yw ennill 50%+1 o bleidlais pa bynnag blaid sydd ar y brig.

Dydw i ddim yn gweld unrhyw ffordd y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol, UKIP, y BNP na'r Blaid Werdd yn gallu cyflawni hynny. Mae Karl y bwci yn hoff o gynnig ei brisiau yn yr hen ddull. Mae'n well gen i'r system newydd o ganrannau. Dyma nhw.

Llafur; 70%, Ceidwadwyr; 15%, Plaid Cymru; 10%, Plaid Arall;5%

Y gwynt yn chwythu

Vaughan Roderick | 13:22, Dydd Iau, 19 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

Fe fydd y rheiny ohonoch chi sy'n selogion "Coronation Street" wedi sylwi ar braidd yn rhyfedd yr wythnos hon. Am ddwy funud a hanner wrth I Bob Dylan ganu "Blowin in the Wind" dangoswydd lluniau o blant yn chwarae, ffermwyr wrth eu gwaith ac anturiaethwyr yn yr Arctig gyda dim ond ambell i gliw bach ynghylch beth ar y ddaear oedd yn cael ei farchnata.

Dim ond ar y diwedd y datgelwyd mai'r Co-op oedd yn gyfrifol am yr ecstrafagansa. Ie, dyna chi. Y Co-op, y siop lle'r oedd Nain yn cael ei "dividend" sydd hefyd yn berchen ar fanc ac ystod o fusnesau eraill.

Ond beth oedd yn cael ei hysbysebu yn fan hyn? Nid y siopau, y banc, y trefnwyr angladdau na'r asiantaethau teithio, dybiwn i. Gwerthu'r syniad cydweithredol oedd y nod, mae'n ymddangos, ac yn hynny o beth mae'n debyg mai hwn yw'r peth agosaf at hysbyseb gwleidyddol i ymddangos ar deledu ym Mhrydain. Does dim modd camddarllen y bwriad. Tynnu cymhariaeth rhwng mentrau cydweithredol a'r banciau masnachol a chwmnïau amhoblogaidd eraill oedd y pwrpas.

Mae'r Co-op wastod wedi bod yn fudiad a phlaid wleidyddol yn ogystal â busnes, wrth gwrs. Ar hyn o bryd mae gan y blaid rhyw ddeg ar hugain o Aelodau Seneddol gydag Alun Michael a Don Touhig yn eu plith. Mae'r aelodau hynny hefyd yn aelodau Llafur ac wedi eu dewis trwy fersiwn anffurfiol o'r cyfundrefnau "" sy'n bodoli yn rhannau o'r Unol Daleithiau.

Ta beth am hynny, byddai dyn ddim wedi synnu i glywed y geiriau "That was a party election broadcast..." ar ddiwedd hysbyseb y Co-op. Mae rhywun wedi yn gyfrwys iawn wrth hwylio'n agos at y gwynt!

Gwledd y Cybydd

Vaughan Roderick | 11:52, Dydd Iau, 19 Chwefror 2009

Sylwadau (1)

Dw i yn ôl yn y Bae ar ôl ychydig o ddyddiau bant a, diawch, mae'n dawel 'ma. Yr unig beth sy'n digwydd 'ma heddiw yw dadorchuddio baner Sir Benfro yn y senedd fel rhan o'r paratoadau ar gyfer gorymdaith Gŵyl Ddewi. Dyw hynny ddim yn fy nghyffroi, rhywsut!

Mae hwn yn dipyn o lobscows o bost, felly, gydag un diweddariad bach ac un ddolen ddifyr.

Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod y rhyfeddu at y datblygiadau diweddaraf yn helynt Rhodri Morgan ac ysgolion Treganna, nid yn gymaint at graidd y ffrae ond at y diffygion wrth ddelio a chwynion yn erbyn y Prif Weinidog. Pwy sy'n plismona'r plismyn- os mynnwch chi.

Dyma'r sefyllfa. Mae Jenny Randerson wedi danfon cyfres o lythyrau yn honni bod Rhodri wedi torri cod ymddygiad gweinidogion y cynulliad. Ar yr olwg gyntaf mae 'na sylwedd i'r cwynion hynny. Rhodri ei hun sy'n gyfrifol am blismona'r cod ac mae yntau'n gwrthod yn blwmp ac yn blaen gydnabod bod cwynion Jenny yn unrhyw beth mwy na "mater gwleidyddol". Mae 'na gynseiliau o San Steffan sy'n awgrymu bod y pen bandit yn gallu gofyn i was sifil ymchwilio mewn achosion sy'n ymwneud a'r Prif Weinidog ei hun. Mater o wirfodd yw hynny ac os ydy Rhodri'n ystyfnigo does 'na fawr ddim y gall unrhyw un wneud ynghylch y peth. Rhyfedd o fyd.

Dyma'r ddolen. Mae 'na drafodaeth ddiddorol ar am newyddiaduraeth a'r dechnoleg newydd gan ddefnyddio digwyddiad yng Nghaerdydd fel enghraifft ddiddorol o stori'n lledaenu heb gymorth y cyfryngau traddodiadol.

Dwy ddinas

Vaughan Roderick | 21:50, Dydd Mawrth, 17 Chwefror 2009

Sylwadau (10)

Dydw i ddim eisiau rhygnu ymlaen gormod am enwau tafarnau ond fe es i a'n rhieni allan am ginio heddiw. Doeddwn i ddim wedi bod yn Llysfaen ers blynyddoedd ond roeddwn yn rhyfeddu i weld mai'r "Griffyn Du" yw enw'r "Griffin Inn" y dyddiau hyn.

Fe gododd fy nhad gwestiwn diddorol. Buodd yn Abertawe yn ddiweddar a dywedodd ei fod wedi sylwi bod y Gymraeg yn fwy gweladwy yng Nghaerdydd er ei fod yn tybio bod y canran o Gymry Cymraeg yn uwch yn Abertawe. Ydy fe'n iawn- ac oes 'na esboniad?

Rialtwch

Vaughan Roderick | 09:23, Dydd Sul, 15 Chwefror 2009

Sylwadau (1)

Lle awn ni i wylio'r ffilmiau'r wythnos hon? Mae 'na ambell i drysor yng Nghymru- sinemâu hen ffasiwn sydd rhywsut wedi goroesi. Dyna i chi'ryn Nhrefynwy a'r yn y Trallwng. Neu beth am fynd i wythnos hon y ym Mhrestatyn?

Diolch am yr awgrymiadau. Dyma'r ffilmiau. Bu farw yr artist a chyflwynydd teledu Tony Hart yn ddiweddar. Bydd hiraeth ar ei ôl.

Ond cofiwch mae angen trwydded!

Deg munud o Ryan.

A fersiwn Donny Osmond o "Myfanwy"!

Rheolau Rhodri

Vaughan Roderick | 11:01, Dydd Gwener, 13 Chwefror 2009

Sylwadau (3)

Mae'n fore Gwener. Cyn cau pen y mwdwl ar gyfer hanner tymor mae angen diweddaru un stori sef honno ynghylch Rhodri Morgan ac ysgolion Treganna.

Ddoe fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol gwyn swyddogol bod Rhodri wedi torri cod ymddygiad gweinidogion y cynulliad. Mae'r cod hwnnw yn gallu bod yn amwys iawn ar adegau ac fe fyddai angen holl ddiwinyddion Rhufain i ganfod ei union ystyr. I barhau a'r gymhariaeth grefyddol mae Rhodri yn gorfod ymddwyn fel y drindod sanctaidd yn y mater hwn. Ei gyfrifoldeb ef fel Prif Weinidog yw barnu os ydy gweinidog (yn yr achos hwn fe'i hun) wedi torri'r rheolau.

Mae Rhodri wedi ymateb i'r gwyn trwy honni ei bod yn "sylw gwleidyddol" yn hytrach na chwyn ddifrifol. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ysgrifennu yn ôl yn nodi'r ddwy reol y maen nhw'n honni bod y prif weinidog wedi eu torri yn bennodol.

Fe gawn weld sut mae'r stori'n datblygu. Yn y cyfamser mae gen i ambell i nodyn i osod ar yr hysbysfwrdd. Fe fydd 'na bodlediad newydd yn cael ei gyhoeddi heddiw ac fe fydd 'na bodlediad a rhaglen "Dau o'r Bae" wythnos nesaf. Fe fydd CF99 yn cael hoe fach.

Fe fydd 'na ffilmiau'n ymddangos ar y blog dros y Sul. Dyma damaid bach i aros pryd. Mae WITBN, y gymdeithas ryngwladol sy'n cynrychioli darlledwyr mewn ieithoedd lleiafrifol (gan gynnwys S4C a Â鶹ԼÅÄ Alba) wedi lansio . Mae'r safle yn cynnig blas o gynnyrch nifer o'r sianelu yn eu plith Maori TV, NITV a Sianel Trigolion Brodorol Taiwan.


.

Y 10 Uchaf- Maldwyn

Vaughan Roderick | 15:07, Dydd Iau, 12 Chwefror 2009

Sylwadau (1)

Yn ôl yn 1979 roedd Rhyddfrydwyr Maldwyn yn brysur iawn yn trefnu parti- gloddest i ddathlu eu canmlwyddiant fel deiliaid yr etholaeth. Roedd angen tipyn o waith i drefnu achlysur priodol a rhoddwyd y flaenoriaeth i hynny yn hytrach nac ymgyrchu etholiadol. Fel yn rhyw ddrama yn yr hen Roeg fe dilynnwyd hubris gan nemesis ac fe gollwyd y sedd i'r Ceidwadwyr.

Dysgodd y Rhyddfrydwyr eu gwers gan ennill y sedd yn ôl yn 1983 a'u dal hi byth ers hynny. Ac eithrio Ynysoedd Erch a Shetland, efallai, Maldwyn yw'r peth agosaf i gadarnle sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol. Does dim rhyfedd felly bod gwleidydd ifanc uchelgeisiol wedi ei dewis fel y lle delfrydol i lansio ei yrfa seneddol yn 1997. Record Lembit Opik ers hynny sy'n rhannol gyfrifol am wneud yr ornest ym Maldwyn mor ddiddorol.

Serch hynny, er cymaint troeon trwstan Lembit, y cyhoeddusrwydd ynghylch ei fywyd personol a steil ymgyrchu sy'n wrthyn i rai go brin y byddai'n wynebu unrhyw wir drafferth pe bai Glyn Davies heb golli ei sedd yn y cynulliad yn yr etholiad diwethaf. Lembit yn erbyn Glyn sy'n ddiddorol nid Lembit yn erbyn "pwy bynnag".

Yn fan hyn mae'n werth cofio ambell i beth. Faint bynnag o sylw y mae Lembit wedi ei dderbyn gan y cyfryngau dyw e ddim wedi gwneud unrhyw beth sy'n dod yn agos at fod yn ymddygiad anfoesol neu annerbyniol gan ddyn sengl. Ar y mwyaf ffolineb achlysurol yw'r cyhuddiad yn ei erbyn. Does dim awgrym chwaith ei fod wedi bod yn esgeuluso ei waith etholaethol wrth chwennych bywyd "seleb". Cofiwch hefyd bod pobol sy'n ymhél a gwleidyddiaeth yng Nghymru yn tueddu hoffi Glyn. Mae'r gwrthwyneb yn wir am Lembit. Does dim sicrwydd o gwbwl bod etholwyr Maldwyn o'r un farn a'r gwleidyddion a sylwebyddion.

Yn ôl yn 1997, gyda llaw, Glyn oedd gwrthwynebydd Lembit yn ei etholiad cyntaf. Roedd hwnnw'n etholiad hunllefus i'r Ceidwadwyr, wrth reswm, ond mae'n werth nodi perfformiad y ddau ddyn bryd hynny.

Lembit Opik 14,647 ( 45.9%)
Glyn Davies 8,344 ( 26.1%)

Safodd Glyn ym Maldwyn yn etholiadau cynulliad 1999 a 2003. Dyw canlyniad yr ail o'r etholiadau hynny ddim yn awgrymmu ei fod wedi adeiladu pleidlais bersonol sylweddol.

Mick Bates 7869 (40.3%)
Glyn Davies 5572 (28.6%)

Mae'n bosib wrth gwrs bod yr etholwyr wedi ceisio sicrhai "dau aelod am bris un" gan wybod bod Glyn hefyd yn ymgeisydd rhestr ond dyw canlyniad 2003 ddim yn awgrymmu bod 'na don o gefnogaeth i'r Ceidwadwr.

Dyma un ystadegyn arall sef canlyniad etholiad cyffredinol 2005.

Dem. Rhydd. 15,419 (51.2%)
Ceidwadwyr 8,246 (27.4%)
Llafur 3,454 (11.5 %)
Plaid Cymru 2,078 (6.9%)
UKIP 900 (3.0%)

Mwyafrif 7,173 (28.3%)

Edrychwch ar faint y mynydd sy'n wynebu Glyn. Roedd pleidlais Lembit yn ddwbl y bleidlais Geidwadol. Yn fwy pwysig efallai enillodd dros hanner y pleidleisiau. Does dim modd i Glyn ennill trwy wasgu pleidiau eraill. Mae'n rhaid iddo ddarbwyllo miloedd o bobol wnaeth bleidleisio i Lembit yn 2005 i newid eu lliw.

Ac eithrio greddf felly pam bod rhai (a fi yn eu plith) yn amau y gallai hon fod yn agos?

Yn gyntaf mae 'na bosibilrwydd cryf y bydd na symudiad cyffredinol o'r Democratiaid Rhyddfrydol i'r Torïaid yn yr etholiad nesaf. Yn ail fe lwyddodd y Ceidwadwyr i ennill nifer o seddi ym Maldwyn yn yr etholiadau lleol llynedd. Doedd y blaid ddim wedi enwebu ymgeiswyr lleol yn yr etholaeth o'r blaen. Does dim modd mesur gogwydd felly ond gallai lleoliad y llwyddiannau hynny fod yn arwyddocaol. Enillodd y blaid seddi mewn wardiau Cymraeg eu hiaith ac yn y Drenewydd- llefydd sydd wedi bod yn allweddol i lwyddiant y Democratiaid Rhyddfrydol yn y gorffennol. Pe bai Glyn yn gallu ennill cefnogaeth y Cymry Cymraeg (roedd yn ddysgwr y flwyddyn, cofiwch) a chadw pethau'n agos yn nhref fwyaf yr etholaeth fe fyddai Lembit yn wynebu ffeit go iawn.

Ar ddiwedd y dydd dw i'n meddwl y bydd Glyn yn methu torri'r talcen ond fe fyddai'n gamgeriad i'r Democrataid Rhyddfrydol ddechrau trefni'r parti dathlu.

Dim seren i Libra

Vaughan Roderick | 11:49, Dydd Iau, 12 Chwefror 2009

Sylwadau (2)

Mae ffars system gyfrifiadurol "Libra" wedi bod yn rhygnu ymlaen am fisoedd bellach.

Mae'n sicr eich bod yn cofio hanfod y stori sef bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi comisiynu'r system ar gyfer llysoedd ynadon Cymru a Lloegr gan "anghofio" y byddai angen i'r system honno weithredu'n ddwyieithog yng Nghymru.

O ganlyniad i gyfres o gwestiynau gan Jenny Willott AS rydym yn dechrau dysgu mwy.

I ddechrau, beth yw canlyniad "camgymeriad" gweinidogion a gweision sifil "anghofus" Whitehall?

Dyma ateb seneddol gan y gweinidog Bridget Prentice;

"When the bilingual version of the new Libra system is introduced in Wales in September 2009, magistrates court summonses will be produced in Welsh as a matter of course. Until September 2009 summonses can be translated upon request within one working day."

Gadewch i mi gyfieithu. Ar hyn o bryd (ac am yr wyth mis nesaf) mae'n rhai i chi wneud cais am wÅ·s yn Gymraeg. Cyn cyflwyno'r system roedd gwysion mewn ardaloedd Cymraeg yn cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog yn awtomatig. Hynny yw, o ganlyniad i "anghofrwydd" yn Whitehall mae'r gwasanaeth Cymraeg wedi dirywio'n sylweddol.

Mae Bridget Prentice yn addo y bydd popeth yn iawn ym Mis Medi. Wrth gwrs gallwn fod yn gwbwl hyderus y bydd y system ddwyieithog yn barod ac yn gweithio'n iawn bryd hynny. Wedi'r cyfan dyw systemau cyfrifiadurol llywodraeth Prydain byth yn hwyr ac yn gweithio bob tro!

Mae 'na fwy. Dyma ateb gan Bridget Prentice i gwestiwn arall gan Jenny Willott.

"The estimated cost of the Libra bilingual solution is £4 million. Final contractual papers are yet to be signed so precise figures are not available at this point. This figure represents application development costs and does not include support costs which are on-going for the life of the application."

Nawr dydw i ddim yn arbenigwr ar gyfrifiaduron ond mae synnwyr cyffredin yn awgrymu bod addasu system i weithio'n ddwyieithog yn debyg o fod yn fwy costus ac yn llai effeithlon na chynllunio'r system i fod yn ddwyieithog o'r cychwyn.

Gadewch i ni fod yn glir am rywbeth arall. Nid trafod mater o ryw foi bach yn rhywle yn "anghofio" rhywbeth am gwbwl o ddyddiau ydyn ni yn fan hyn. Dros gyfnod o flynyddoedd, trwy filoedd o oriau o waith datblygu ac mewn cyfarfodydd di-ri doedd dim un gwas sifil nac un gweinidog yn ddigon ymwybodol o Gymru nac yn ddigon gwybodus am ei hanghenion ieithyddol i godi ei law a dweud "arhoswch eiliad". Mae'n ymddangos nad yw agweddau yn Whitehall wedi newid rhyw lawer ers dyddiau'r "India Office"!

Mae Jenny Willott yn cyfleu'r pwynt yn dda.

"It beggars belief that the Government simply forgot to include the Welsh language in the contract. How can Labour claim to be representing the needs of everyone in Wales when such a basic requirement for Welsh speakers goes unnoticed for an entire decade?"

Dyw "anghofio" ddim yn esgus digon da. Mae hwn yn fethiant llwyr wrth gyflawni dyletwydd sylfaenol. Mae hynny'n haeddu ymchwiliad llawn gyda'r rheiny oedd yn gyfrifol yn cael eu disgyblu neu eu diswyddo.

Os nad yw hynny'n digwydd fe fydd hi'n anodd iawn dadlau yn erbyn datganoli gweinyddiaeth cyfiawnder o Whitehall i'r cynulliad.

Siop Siafins

Vaughan Roderick | 17:56, Dydd Mercher, 11 Chwefror 2009

Sylwadau (3)

Oherwydd bod gen i gysylltiadau teuluol ac un o'r ysgolion dw i'n gadael gohebu ynghylch helyntion ysgolion Treganna yng Nghaerdydd i'm cydweithwyr. Ond mae blogio ychydig yn ormod o demtasiwn i mi heddiw gyda'r troeon trwstan diweddaraf yn ymylu ar fod yn ffars.

Y cefnidir yn gyntaf. Dechreuodd yr helynt ar ôl i gynghorydd Llafur (a gweithiwr etholaeth i Rhodri Morgan) Ramesh Patel ddisgrifio cynllun i gau Ysgol Gynradd Lansdowne a defnyddio'r adeiladu i ehangu un o'r ysgolion Cymraeg lleol fel "ethnic cleansing". Er bod rhai wedi cyhuddo'r Â鶹ԼÅÄ o lusgo traed ar y stori yma mae'n werth nodi wrth fynd heibio mai ar y blog yma yr ymddangosodd hi gyntaf. Ar ôl i Neil McEvoy, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar gyngor Caerdydd, wneud cwyn swyddogol i'r cyngor fe ymddiheurodd Cyng. Patel am ei union eiriau- ond nid am sylwedd ei sylwadau. Mae'r heddlu hefyd yn cynnal ymchwiliad yn sgil cwyn gan riant.

Ddoe yn y cynulliad, heb enwi Ysgol Lansdowne, awgrymodd Rhodri Morgan ei fod yn cytuno y byddai cau'r ysgol Saesneg yn arwain at "bolareiddio ethnig". Yn sgil hynny y sylwadau hynny cafwyd rhagor o gwynion, y tro yma gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru.

Mae'r cwynion y ddwy blaid yn wahanol i'w gilydd. Cyhuddo'r Prif Weinidog o dorri'r cytundeb rhwng y pleidiau i beidio defnyddio hil at ddibenion gwleidyddol mae Cyng. McEvoy a Phlaid Cymru. Y Comisiwn Cydraddoldeb wnaeth lunio'r cytundeb hwnnw ac mae Plaid Cymru wedi galw ar y Comisiwn i ymchwilio i sylwadau'r Prif Weinidog.

Y prynhawn yma fe benderfynodd Rhodri ysgrifennu at y comisiwn hefyd i ofyn am ymchwiliad i gynllun y cyngor i gau'r ysgol. Gallai Rhodri fod ar dir peryglus yn fan hyn- yr union dir oedd yn destun cwyn y Ceidwadwyr.

Mae'r wrthblaid yn llygaid ei lle wrth ddweud bod gan lywodraeth y cynulliad rôl statudol farnwrol yn y saga. Os ydy'r cyngor yn bwrw ymlaen a'r cynlluniau fe fyddai unrhyw apêl yn fater i'r gweinidog addysg. Mae'r Torïaid yn amau bod Rhodri wedi torri'r rheolau a llurgunio'r broses trwy ragfarnu'r sefyllfa.

Yr hyn sy'n cymhlethu pethau yw mai Rhodri yw'r aelod cynulliad lleol. Cymerwyd gofal arbennig felly i sicrhâi mai o'r Blaid Lafur a nid o'r llywodraeth y daeth ei ddatganiad heddiw. Roedd hi'n gamgymeriad felly bod y datganiad hwnnw a'r pennawd "First Minister requests Equality Commision ruling on school closure". Daeth cyweiriad o fewn munudau "Rhodri was speaking in his capacity as AM for Cardiff North". Gorllewin, nid Gogledd Caerdydd yw etholaeth Rhodri, wrth gwrs!

Camgymeriadau diniwed neu arwyddion o banig? Mae'r naill ar llall yn bosib ond gallai'r stori yma fod yn bwysicach ac yn llai plwyfol nac oedd hi'n ymddangos ar yr olwg gyntaf.

Pacio

Vaughan Roderick | 15:15, Dydd Mercher, 11 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

Dydw i erioed wedi deall yr holl ffwdan ynghylch bagiau plastig. Rwy'n derbyn eu bod nhw'n gallu anharddu ambell i le ac, am wn i, fe fyddai'r byd ychydig yn well pe bai pawb yn ail-ddefnyddio bagiau ond pam yr y ddaear y mae'r cynulliad wedi trafod y pwnc cymaint o weithiau?

Efallai mai'r aelodau sy'n iawn a fi sydd allan o gysylltiad. Pan ofynnodd Â鶹ԼÅÄ Cymru i bobol enwebu un mesur y dylai'r cynulliad fabwysiadu mesur i gyfyngu ar fagiau plastig oedd ar frig y rhestr.

Rwy'n gwrando ar y ddadl nawr. Yn ôl Jane Davidson mae'r bagiau yn "symbol of unsustainability". "An icon of our throwaway society" yw disgrifiad Darren Miller. "My husband is having a real love affair with plastic bags" medd Lorraine Barrett ac yn ôl Mick Bates "this is a red bag day..the beginning of an anti-bag crusade."

Bagiau plastig.

Heb os fe fydd y cynulliad yn cyflwyno mesur i orfodi i siopau ar archfarchnadoedd godi am fagiau cyn bo hir.

Beth fydd yr ymateb gan y busnesau, tybed? Maen nhw'n debyg o fod wrth eu boddau oherwydd natur pwerau'r cynulliad. Mae'r gwleidyddion yn gallu gorfodi cwmnïau i godi am fagiau ond y cwmnïau nid y cynulliad sy'n cael yr arian.

Meddyliwch am eiliad. Fe fyddai Tesco, Asda a'r gweddill yn gallu beio'r cynulliad a phocedu'r pres tra bod Mr Barret a'i debyg yn gorfod talu am eu pleserau!

Er gwybodaeth

Vaughan Roderick | 14:04, Dydd Mercher, 11 Chwefror 2009

Sylwadau (4)

Mae 'na ddadl ddiddorol ym myd y blogiau ynghylch rhagfarn honedig gan Â鶹ԼÅÄ Cymru. Nid fy lle i yw gwneud unrhyw sylw ond dw i'n meddwl y bydd y dadleuon o ddiddordeb i ddarllenwyr y blog yma. Y safleoedd perthnasol yw, a .

Dau beth sy ddim yn cael eu nodi gan y Blogwyr yw mai newyddiadurwyr Â鶹ԼÅÄ Cymru oedd y cyntaf i gyhoeddi sylwadau Ramesh Patel ac mae un o raglenni Â鶹ԼÅÄ Cymru "Dragon's Eye" wnaeth dynnu sylw at erthygl ddadleuol Rhys Williams. Gan gofio'r cyd-destun hwnnw mae'r dadleuon yn werth eu darllen..

Rhodri, Nick a Joe

Vaughan Roderick | 14:49, Dydd Mawrth, 10 Chwefror 2009

Sylwadau (1)

Roedd copïo un o areithiau Neil Kinnock yn ddigon o bechod i orfodi i Joe Biden roi'r gorau i'w ymdrech i fod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn 1988. Yr unig ddigwyddiad cofiadwy arall yn yr etholiad hwnnw oedd yr un yn ystod y ddadl rhwng y ddau ymgeisydd i fod yn ddirprwy arlywydd pan wnaeth Lloyd Bentsen droi at Dan Quayle a'i ddinistrio gyda'r geiriau "Senator, I served with Jack Kennedy: I knew Jack Kennedy; Jack Kennedy was a friend of mine. Senator, you're no Jack Kennedy"

Fe wnaeth Rhodri Morgan dipyn o fenthyg ei hun yn ystod ei sesiwn gwestiynau heddiw. Am ryw reswm doedd "I know Jane Hutt ...I work with Jane Hutt..." ddim yn gweithio cystal!

Serch hynny fe lwyddodd Rhodri i ddinistrio Nick Bourne heddiw ar ôl i hwnnw ofyn pam nad oedd Jane yn bresennol yn yr uwchgynhadledd economaidd Ddydd Gwener. Yn anffodus i Nick roedd Jane wedi mynychu'r cyfarfod ac wedi ateb cwestiynau. Fe loriodd Rhodri arweinydd y Ceidwadwyr trwy ddweud hynny.

I ychwanegu halen at y briw munudau'n ddiweddarach cafwyd y perfformiad gorau gan Kirstie Williams ers iddi gael ei hethol yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Fe fydd Nick yn poeri gwaed gan wybod bod ei arweinyddiaeth ar brawf. Gallai perfformiad arall fel un heddiw bod yn angheuol.

Pobol y Cwm

Vaughan Roderick | 14:08, Dydd Mawrth, 10 Chwefror 2009

Sylwadau (1)

Mae heddiw fel dydd o haf yng Nghaerdydd gyda'r adeiladwyr ar y safle drws nesaf i'r cynulliad wedi diosg eu crysau. Serch hynny mae dros saithdeg o ysgolion Cymru ar gau heddiw oherwydd "tywydd garw"- y rhan fwyaf ohonyn nhw yng nghymoedd y de.

Cynigiwyd esboniad gan y Democratiaid Rhyddfrydol heddiw sef bod canran uchel o athrawon y cymoedd yn dewis peidio byw yn agos i'w gweithle. Wrth i drigolion Rhondda Cynon Taf a Chaerffili arllwys i mewn i Gaerdydd i weithio yn y bore mae llwyth o weithwyr proffesiynol yn teithio i'r cyfeiriad arall. Mae eraill yn dewis byw yn y Bannau a Bro Morgannwg.

Mae'r patrwm hwnnw yn un sy'n niweidiol i'r cymoedd mewn sawl ffordd. Yn gyntaf dyw'r gweithwyr hynny ddim yn gwario eu cyflogau ym musnesau a siopau lleol mae e hefyd yn amddifadu'r rhanbarth o bobol allai chwarae rôl bwysig yn y gwaith o adfywio cymunedau difreintiedig.

Dyw e hi ddim yn bosib wrth gwrs o orfodi i bobol fyw mewn cymuned neu ardal benodol ond fe gododd Jenny Randerson un pwynt diddorol. Yn y dyddiau pan oedd eira'n beth mwy cyffredin nac yw e nawr roedd disgwyl i athrawon oedd yn methu cyrraedd eu hysgolion eu hun gerdded i'r ysgol agosaf i'w cartref i gynnig help llaw. Beth ddigwyddodd i'r polisi hwnnw, tybed?

Rialtwch

Vaughan Roderick | 11:04, Dydd Sul, 8 Chwefror 2009

Sylwadau (5)

Dydw i ddim eisiau mynd ymlaen ac ymlaen am yr LCO iaith ond mae un peth bach yn fy mhoeni. Mae'r llywodraeth yn bae yn dadlau fel mater o egwyddor taw'r cynulliad yw'r corff cymwys i lunio mesurau ieithyddol. Ond os taw'r egwyddor sy'n bwysig pam cytuno i unrhyw gyfyngiadau o gwbwl ar yr hawl? Fel mater o egwyddor oni ddylai'i cynulliad fod a'r gallu i ddeddfu orfodi dwyieithrwydd ar siopau tsips ac, o ran hynny, sinemâu?

Dyma'r ffilmiau. Ychydig o Gernyweg yn gyntaf.

Mae Dewi wedi canfod Celtiaid yn Serbia...

... a hanes Patagonia yn Sbaeneg

Gan fod pencampwriaeth y chwech gwlad yn cychwyn y penwythnos hwn dyma ychydig o win y gorffennol o archifau'r Â鶹ԼÅÄ. Mae'r gystadleuaeth wedi cau!

Pregeth Rhys

Vaughan Roderick | 11:40, Dydd Gwener, 6 Chwefror 2009

Sylwadau (10)

Dyn sy'n hoff o brofocio yw Rhys Williams. Diolch byth amdanyn nhw! Mae p'un ai ydy hi'n beth call i ymgeisydd yn Nwyrain Caerfyrddin ymosod ar rai o drigolion cefn gwlad ai peidio yn fater arall!

Dydw i erioed wedi byw mewn pentref. Fedrai ddim dweud felly faint o wirionedd sy 'na yn yn y rhifyn cyfredol o Barn. Mae Rhys yn honni bod 'na "lawer o bobol fach bwysig ein cymunedau Cymraeg yn fwriadol neu yn ddiarwybod yn defnyddio'r iaith naill ai gadw eraill allan neu er mwyn rhoi nhw yn eu priod le"

Y cyfan ddwedai i yw fy mod yn rhyfeddu bod Rhys yn meddwl mai ffenomen wledig yw hynny! Mae'n amlwg nad yw wedi mynychu ambell i gapel yng Nghaerdydd!

Mae Rhys yn un o'r gwesteion ar "Dau o'r Bae" heddiw. Mae'n bosib gwrando ar ei sylwadau yn fyw, ar iPlayer neu trwy danysgrifio i'r podlediad trwy wasgu'r botwm ar y dde.

Un nodyn bach; Mae'r heddlu yn awr yn ymchwilio i sylwadau'r Cynghorydd Ramesh Patel ynghylch addysg Gymraeg. Oherwydd hynny fe fyddaf yn weddol llym wrth gymedroli sylwadau yn ei gylch.

Siom

Vaughan Roderick | 10:47, Dydd Gwener, 6 Chwefror 2009

Sylwadau (1)

Mae newyddiadurwyr yn hoff o drwbl. Trafferth yw ein busnes ni. Gwrthdaro sy'n talu'n cyflogau.

Mae fy nghalon yn gwaedu felly wrth i mi orfod cofnodi bod 'na arwyddion cynnar y gallai'r LCO iaith gael rhwydd hynt yn San Steffan. Mae'n ymddangos bod aelodau seneddol Llafur wedi penderfynu ymddiried yn eu cyd-bleidwyr yn y Cynulliad i atal unrhyw fesur byddai'n gosod baich ar y sector breifat a'u bod o'r farn bod yr egwyddor o drosglwyddo deddfu ieithyddol i'r cynulliad yn un sy'n amhosib dadlau yn ei herbyn. Gwnaeth hyd yn oed y Don ei hun awgrymu hynny ar "Dragon's Eye" neithiwr.

Gallai pethau suro, wrth gwrs, ac mae 'na ofnau ar bumed llawr Tŷ Hywel y gallai rhai o aelodau'r pwyllgor dethol lusgo'u traed yn y gobaith y bydd etholiad cyffredinol yn gyrru'r holl broses yn ôl i'r cychwyn.

Fe gawn weld.

Y Deg Uchaf - Gorll. Caerfyrddin a De Penfro

Vaughan Roderick | 11:41, Dydd Iau, 5 Chwefror 2009

Sylwadau (3)

"Even a socialist would be better than that awful little man..." Dyna'r frawddeg wnaeth ddysgu i fi bod gwleidyddiaeth Sir Benfro yn wahanol i wleidyddiaeth gwedill Cymru.

Yr aelod seneddol Ceidwadol Nicholas Bennett oedd yr "awful little man" a pherchennog castell yn ne'r sir wnaeth yngan y geiriau i esbonio'r faner lafur enfawr oedd yn hongian o un o'r tyrrau.

1992 oedd y flwyddyn ac fe gollodd Bennett hen etholaeth Penfro i'r ymgeisydd Llafur hoffus Nick Ainger. Llwyddodd yntau i oroesi adrefni ffiniau gan farnu'n gywir bod etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro yn fwy ffafriol i Lafur na Phreseli.

Ar hyn o bryd mae Nick yn bwriadu sefyll yn yr etholiad nesaf. Byddai neb yn synnu pe bai'n newid ei feddwl. Mae'n wynebu cythraul o frwydr i gadw'r sedd ac mae'n anodd credu y byddai gobaith cath gan yr un ymgeisydd Llafur arall.

Gadewch i ni edrych ar yr ystadegau gan ddechrau gyda'r canlyniad yn 2005;

Llafur 13953 (36.9%)
Ceidwadwyr 12043 (31.8%)
Plaid Cymru 5582 (14.7%)
Dem. Rhydd 5399 (14.3%)
UKIP 545 (1.4%)

Mwyafrif 1910 (5%)

Mae'r ffiniau wedi newid rhyw fymryn ers hynny ond dim mewn modd sy'n ffafrio unrhyw un blaid yn arbennig. Dyma ganlyniad etholiad y cynulliad yn 2007.

Ceidwadwyr 8,590 (30.1%)
Llafur 8,492 (29.7%)
Plaid Cymru 8,340 (29.2%)
Dem. Rhydd. 1,806 (6.3%)
Ann 1,340 (4.7%)

Mwyafrif 98 (0.3%)

Dyna i chi ras tri cheffyl go iawn! Wrth fynd heibio mae'n werth nodi na chafodd buddugoliaeth y Ceidwadwyr unrhyw effaith ar gryfder y pleidiau yn siambr y cynulliad. Effaith y fuddugoliaeth honno oedd alltudio Glyn Davies o'r bae a sicrhau seddi i Joyce Watson a Nerys Evans.

Yr hyn sy'n drawiadol am y canlyniad yw perfformiad y Ceidwadwyr. Roedd 'na gynnydd yn eu pleidlais o 9.8% rhwng 2002 a 2007. Roedd Llafur i lawr 5.1% ac roedd 'na ostyngiad o 4% ym mhleidlais Plaid Cymru- un o ganlyniadau salaf y blaid honno yn etholiad 2007.

Sut mae esbonio hyn oll? Mae'n debyg bod newid ymgeisydd yn rhan o'r esboniad yn achos Plaid Cymru ond y ffactor allweddol yw'r trawsnewidiad yn nhrefniadaeth leol y Ceidwadwyr dros y blynyddoedd diwethaf.

Plaid leol ddigon cysglyd oedd hon nes i brif weithredwr y "Countryside Alliance" Simon Hart gael ei ddewis fel ymgeisydd seneddol y Ceidwadwyr a phenderfynu newid pethau. Mae'n ddiddorol bod y dewisiad hwnnw wedi ei wneud o dan drefn arbrofol mewn cyfarfod oedd yn agored i bawb. Fe arweiniodd hynny at gyhuddiadau bod dilynwyr Mr Hart wedi cymryd y gymdeithas drosodd.

Dyma oedd gan y Tori dadleuol John Jenkins i ddweud mewn llythyr agored yn Chwefror 2007;

"I was Deputy Chairman in charge of membership for that association when friends of Mr Hart started recruiting en masse with a view to hijacking the local Association. I remember one branch signing up over 90 members in one month which, for an association at the time with only 400 members, was a considerable proportion."

Cafwyd cyhuddiadau tebyg gan gyn gadeirydd Ceidwadwyr Cymru Syr Eric Howells ac o ganlyniad cafodd ei hel o'r blaid.

Beth bynnag yw'r gwirionedd, mae peiriant lleol y Ceidwadwyr bellach yn un rhyfeddol o effeithiol ac yn hynod o gyfoethog. Cafwyd ffwdan y llynedd ynghylch rhodd o £40,000 i'r gymdeithas gan gwmni rheolu buddsoddiadau heb unrhyw gysylltiad amlwg a'r etholaeth. Nid dyna yw'r unig ffynhonnell ariannol. Yn 2007, er enghraifft, roedd incwm y gymdeithas yn £50,017.

Mae 'na gyfyngiadau ar wario yn ystod etholiad wrth gwrs ond does dim uchafswm ar wariant yn y cyfnod cyn i'r etholiad gael ei alw. Yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro mae peiriant pres y Torïaid yn dechrau dwyn ffrwyth. Fe fyswn i'n mentro swllt ar Simon Hart yn yr etholiad cyffredinol ac yn rhagweld ras rhwng y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn yr etholiad cynulliad nesaf.



Don Quixote

Vaughan Roderick | 20:41, Dydd Mercher, 4 Chwefror 2009

Sylwadau (3)

Un o'r ychydig eiriau o Gymraeg y mae Don Touhig yn gyfarwydd â hi yw "crachach". Mae'n ei ddefnyddio'n gyson gan amlaf fel rhan o ymosodiad ar y cynulliad neu fesurau i hybu'r iaith. Dyma fe yn Nhŷ'r Cyffredin yn Chwefror 2008.

"The chattering classes, the crachach, who believe that they know best for Wales, swoon at the prospect of more powers for the National Assembly. Many in the media think that more powers for Cardiff is the story of the decade--tosh, rubbish. The real people of Wales, the werin, have no time for all of this, and I stand with them."

Dyma fe eto ym Mis Gorffennaf yn sôn am record Llywodraeth y Cynulliad.

"What we have in Wales at the moment is the priorities of the crachach and not the werin"

Syr Emyr Jones Parry? Crachach! Crachach! Crachach!

Nawr darllenwch beth sydd gan i ddweud am yr LCO iaith.

"In each devolution referendum, there has been a cabál of West Briton MPs campaigning against moves for self-government. They will be more negative drivel this time, too. It's sad to record that the Conservative Party has bravely enacted almost all Welsh language reforms. Labour now has a chance to show our respect to the unique language of our people. Welsh has traditionally been the language of the gwerin, while English was the language of the crachach."

At bwy mae'r belten yna wedi ei anelu tybed?

Dewis geiriau

Vaughan Roderick | 17:45, Dydd Mercher, 4 Chwefror 2009

Sylwadau (8)

Mae Ramesh Patel yn gynghorydd lleol i mi ac mae gen i barch mawr tuag ato. Mae gen i nai a nith yn Ysgol Treganna hefyd. Mae'n well i mi ddewis fy ngeiriau yn ofalus felly. Mae'n biti bod Ramesh heb wneud hynny.

Ramesh yw un o'r cynghorwyr mwyaf cydwybodol i mi gwrdd ag ef erioed. Mae ef a'i deulu wedi dioddef yn enbyd ar ôl cael eu targedi gan hwliganiaid lleol. Difrodwyd ei gar ar sawl achlysur ac ymosodwyd ar ei dŷ.

Heddiw mae Plaid Cymru wedi gwneud cwyn swyddogol amdano ar ôl iddo gyfeirio at "ethnic cleansing" mewn cyfarfod cyhoeddus wrth ymosod ar gynllun i droi un o'r ysgolion lleol yn Ysgol Gymraeg.

Ffrae fach leol yw hon mewn sawl ystyr ond mewn ardal amlhiliol fel Treganna mae 'na gyfrifoldeb ar bob gwleidydd o bob hil i ddewis eu geiriau'n ofalus- yn enwedig efallai gwleidydd sy'n gwiethio'n llawn amser i Rhodri Morgan.

Mae Ramesh bellach wedi ymddiheuro am ei sylwadau ond gan ychwanegu;

"I want the cosmopolitan community we have in Cardiff to be reflected in the schools in Canton and Riverside. The plan put forward by the Lid Dem/Plaid coalition would not achieve that, and would create an unnecessary segregation within the community I serve."

Yr hyn mae Ramesh yn dymuno gweld yw "ysgolion cynradd dwyieithog" yn hytrach na rhai Cymraeg a Saesneg. Does dim angen dweud bod yr holl dystiolaeth academaidd yn awgrymu bod ysgolion o'r fath yn gwbwl aneffeithiol o safbwynt meithrin ieithoedd lleiafrifol.

Ydy Rhodri'n cytuno a'i gynghorydd, tybed?

Bae DC

Vaughan Roderick | 16:56, Dydd Mercher, 4 Chwefror 2009

Sylwadau (1)

Roeddwn i wedi dod i'r casgliad bod 'na ddim byd newydd i ddweud ynghylch datganoli ac mae ail-adrodd hen syniadau a hen ddadleuon byddai'n ffawd rhwng nawr a phryd bynnag y cynhelir y refferendwm nesaf.

Ond diawch, beth yw hyn? Mae rhyw un wedi cael syniad newydd! Dydw i ddim yn dweud ei fod e'n syniad da...ond o leiaf mae'n un gwreiddiol!

Yfory fe fydd Russell Deacon, Democrat Rhyddfrydol ac academydd yn UWIC yn cyflwyno papur i gonfensiwn Syr Emyr yn awgrymu y dylai rhannau o Gaerdydd gael eu llywodraethu'n uniongyrchol o'r Cynulliad gyda'r Cyngor Sir yn gofalu am weddill y ddinas.

Am wn i, meddwl am greu rhyw fath o "District of Columbia" neu Frasilia mae Russell. Ar yr olwg gyntaf mae'r syniad yn un hurt ond mae 'na reswm dros yr awgrym. Yn ôl Russell mae'n annheg disgwyl i drethdalwyr Caerdydd ysgwyddo'r cyfan o'r baich ariannol am greu cofebion a sefydliadau cenedlaethol ei natur. Ar y llaw arall mae trethdalwyr mewn rhannau eraill o Gymru yn gyndyn i weld eu harian nhw yn ariannu sefydliadau yng Nghaerdydd.

Yr ateb yn ôl Russell yw creu ardal sydd yn eiddo i Gymry gyfan ardal sydd yng Nghaerdydd ond sy ddim yn rhan oGaerdydd.

Fel dwedais i o leiaf mae'n wreiddiol!

Iechyd Da

Vaughan Roderick | 15:34, Dydd Mercher, 4 Chwefror 2009

Sylwadau (8)

Yn ddiweddarach yn yr wythnos fe fydd tafarn newydd yn agor yng Nghaerdydd neu os ydych chi'n credu'r sbin fe fydd hen dafarn yn ail-agor dwy ganrif ar ôl iddi gau ei drysau.

Menter ddiweddaraf Clwb Ifor Bach yw'r "" ac mae wedi ei lleoli mewn adeilad hanesyddol gyferbyn a'r clwb. Dyma esboniad o'r enw.

"Yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y safai tafarn y Fuwch Goch ar Stryd Womanby. Yr enw Saesneg "Red Cow" a gofnodir ar gyfer yr hen dafarn, ac yr oedd ei harwydd mor amlwg fel i'r stryd ddwyn yr enw Saesneg "Red Cow Lane" am gyfnod. Fodd bynnag mae'n debyg mai'r "Fuwch Goch" oedd y lle ar lafar, gan fod yna gyfeiriad yn 1731 at un o'r ardalwyr dan yr enw "Dic y Fuwch". Efallai mai ef oedd y perchennog ar y pryd. Y sawl a wnaeth gyfeirio ato oedd Thomas Morgan, cyfreithiwr ac un o fân sgweieriaid y fro, oedd yn ymwelydd cyson a thafarn arall o'r enw Tŷ Coch, llai na chanllath i ffwrdd."

Rwy'n amau mae'r cyn aelod cynulliad Owen John Thomas, sy'n dipyn o feistr ar hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd, sy'n gyfrifol am fedyddio'r lle. Os felly pob clod i'w enw! Mae adfer hen enw ar dafarn nid yn unig yn syniad da ond hefyd yn gwbwl groes i'r arfer diweddar melltigedig o newid enwau tafarn hanesyddol ar fympwy masnachol.

O fewn crôl tafarn i'r Fuwch Goch mae'r "Goat Major" (y "Blue Bell" gynt) yr "Yard" (yr "Albert") yr "Owain Glyndŵr" ( y "Tennis Courts"), "O' Neills" (y "Market Tavern") "Kitty Flynns" (y "Cambrian") a "Zync" (Y Terminus").

Yn wir prin yw'r tafarndai yng nghanol Caerdydd sy'n arddel eu henwau gwreiddiol. Y "Queens Vaults", y "King's Cross" a'r "Philharmonic" yw'r unig rai dw i'n gallu meddwl amdanyn nhw.

Mae'n beth rhyfedd bod angen caniatâd ar berchennog tafarn i newid ei oriau agor neu wneud newidiadau i'r adeilad ond does dim byd o gwbwl yn rhwystro newid enwau sydd, mewn rhai achosion, yn ganrifoedd oed.

Rydym i gyd wedi gwyllto o bryd i gilydd o weld enwau tai yn newid o "Awelon" i "The Pippins" neu o "Heulfryn" i "Rose Cottage." Dydw i ddim yn meddwl bod hi'n bosib rhwystro hynny ond oni fyddai'n bosib gwneud newid enwau tafarndai (a ffermydd o bosib) yn fater cynllunio oherwydd eu pwys hanesyddol?

Don Corleone

Vaughan Roderick | 16:02, Dydd Mawrth, 3 Chwefror 2009

Sylwadau (12)


Roedd datganiad Paul Murphy ynghylch yr LCO iaith braidd yn llugoer. Roedd angen rhagor o ymgynghori, meddai. Gallai'r gorchymyn newid. I ddefnyddio ei eiriau ei hun "It's not set in stone".

Synnwyd rhai aelodau cynulliad Llafur gan y datganiad ond nid Ysgrifennydd Cymru sy'n cael y bai. "Don Touhig yw'r broblem" meddai un "Don yw ffrind gorau Paul ac mae'n treulio rhan helaeth o'i amser hamdden yn ei gwmni fe a'i deulu. Maen nhw fel dau frawd."

I ddyfynnu sylwebydd arall "problem Paul yw bod e dan y Don".

Llongyfarchiadau gyda llaw i Jenny Randerson am fod yn ddigon dewr i ddweud yn y siambr yr hyn y mae llawer o'r aelodau'n dweud yn breifat. "Os ydyn ni am ddeddfu i orfodi i siop tsips ddefnyddio'r Gymraeg fe ddylwn ni gael gwneud hynny- oes 'na unrhyw un yn credu mewn gwirionedd y byddai'r siop tsips yn cau o ganlyniad i hynny?"

Llongyfarchiadau i Nick Bourne hefyd am annerch y cynulliad yn Gymraeg y prynhawn yma. Oedd e'n ceisio profi gwerth yr iPod tybed?

Eira Gwyn a'r BNP

Vaughan Roderick | 14:05, Dydd Mawrth, 3 Chwefror 2009

Sylwadau (4)

Hyd yn oed fel plentyn ysgol gynradd roeddwn yn meddwl mai un o ganeuon Dafydd Iwan oedd y peth mwyaf hurt i mi glywed erioed.

"Dim ond ffŵl dydd yn gofyn pam fod eira'n wyn..." oedd cwyn trwbadŵr Cymru gyda thinc emosiynol yn ei lais. Ond roedd y Vaughan Roderick bach o'r farn bod "pam fod eira'n wyn" yn gwestiwn digon call a synhwyrol ac roeddwn yn sicr bod gwyddonwyr wedi gweithio'n galed i ganfod yr ateb.

Mewn gwirionedd mae'r gân yn enghraifft o un o'r pethau mwyaf peryg mewn gwleidyddiaeth. Yr hyn mae Dafydd yn dweud mewn modd blodeuog yw "peidiwch anghytuno a fi oherwydd fi sy'n iawn". Mae argyhoeddiad emosiynol a ffydd mewn achos yn bwysicach na rheswm a thystiolaeth.

Yn achos Dafydd, wrth reswm, mae credo o'r fath yn beth digon diniwed. Mae angen gwleidyddion o argyhoeddiad ar bob plaid ac mae safbwyntiau Dafydd yn tueddu bod ar ochor yr angylion.

Mae'r peryg yn dod pan mae plaid gyfan yn seilio'i athroniaeth ar emosiwn a'r gred mai "ni sy'n iawn" gan ddirmygu unrhyw un sy'n anghytuno a nhw neu unrhyw ddosbarth o bobol sy'n annerbyniol iddyn nhw.

Plaid felly yw'r BNP ac yn hanesyddol mae pleidiau o'r fath yn ffynnu yn ystod dirwasgiadau a chyfnodau o drafferth economaidd. Yn y cyd-destun hwnnw mae'r dirwasgiad presennol wedi dod ar adeg berffaith i'r blaid. Ymhen ychydig fisoedd fe fydd etholiadau Ewrop yn cael eu cynnal gan ddefnyddio system etholiadol sydd wedi ei chynllunio er mwyn sicrhau bod pleidiau llai yn cael eu cynrychioli. Hyd yma UKIP a'r Gwyrddion sydd wedi elwa o'r system honno ond mae'n ddigon posib y gallai'r BNP ennill seddi yn rhai o ranbarthau Lloegr y tro nesaf.

Mae'n bosib mai dyna yw un o'r rhesymau y mae gwleidyddion wedi bod yn gyndyn i gondemnio'r streiciau answyddogol ynghylch cyflogi gweithwyr tramor. Nid cymhellion hiliol sy'n wrth wraidd y protestiadau hynny ond mae'n ddigon hawdd dychmygu plaid sy'n wrth-Ewropeaidd ac yn erbyn mewnfudo yn ceisio manteisio ar bryderon digon dilys.

Mater o hyder

Vaughan Roderick | 13:06, Dydd Mawrth, 3 Chwefror 2009

Sylwadau (1)

Dyn consensws yw David Melding- Tori o'r hen deip sy'n ceisio bod yn gwrtais ac yn gymwynasgar hyd yn oed i wrthwynebwyr gwleidyddol.

Yn y cyd-destun hwnnw mewn cynhadledd newyddion heddiw dywedodd David fod 'na beryg bod gwleidyddion a'r cyfryngau yn gwneud y dirwasgiad yn waith trwy or-ddweud yn ei gylch a chodi bwganod. Ychwanegodd bod yr hyn wnaeth eu disgrifio fel "gloomy predictions" gan wleidyddion fel Rhodri Morgan a Huw Lewis yn niweidio hyder economaidd ac yn tanseilio ymdrechion cwmnïau i oroesi'r stormydd ariannol.

Digon teg. Ond sut mae sgwario hynny a'r rhybudd gan David Cameron y gallai Prydain fethdalu oherwydd eu dyledion rhyngwladol?

Fe wnaeth David ei orau i ateb ond fe ddaeth y gwir ar ôl y gynhadledd gan Geidwadwr amlwg. "I do wish you'd stop asking ridiculously pertinant questions".

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.